Teithio Rhyngwladol
Mae teithio rhyngwladol yn rhan reolaidd o waith ac astudio ym Mhrifysgol Abertawe felly mae'n bwysig bod yr holl aelodau staff a myfyrwyr sy'n gweithio ac yn teithio'n rhyngwladol yn ymwybodol o'r risgiau posibl ac yn dilyn y canllawiau a'r gweithdrefnau angenrheidiol i helpu i gadw eu hunain a'r rhai hynny a all fod yn teithio gyda nhw yn ddiogel. Gall teithio rhyngwladol fod yn unrhyw beth o fynd i gynhadledd, ymweld â phrifysgol ryngwladol i gynnal gwaith maes yn unman y tu allan i Brydain fawr.
Fel yn achos mathau eraill o deithio, mae teithio rhyngwladol yn cyflwyno ei risgiau ei hun, felly mae'n hanfodol eich bod yn cynllunio eich taith yn brydlon i sicrhau bod pob risg a rheolydd/trefniant wedi cael ei ystyried, gan gynnwys rhoi cynlluniau brys a chynlluniau ar gyfer unrhyw fath o darfu ar waith, er mwyn gallu cynnal y daith yn ddiogel.
Mae dwy ffurflen angenrheidiol ar gyfer cymeradwyo teithio rhyngwladol:
- Ffurflen Asesiad Risg Teithio Rhyngwladol
- Ffurflen Datganiad a Gwybodaeth Cyfranogwr (ar gyfer teithio mewn grŵp yn unig)
I bennu pa ffurflen asesu risg teithio rhyngwladol sydd ei hangen, rhaid i chi ystyried cyngor teithio Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu (FCDO), a lefelau risg Crisis24 Horizon:
|
Ffurflen
|
Disgrifiad
|
|
Gwyrdd
|
Teithio y tu allan i Brydain Fawr (gan gynnwys cyrchfannau a throsglwyddiadau) os:
nad yw'r FCDO yn cynghori na ddylech deithio a HOLL lefelau risg Crisis24 Horizon islaw 3.0.
|
|
Ambr
|
Teithio y tu allan i Brydain Fawr (gan gynnwys cyrchfannau a throsglwyddiadau) os:
nad yw'r FCDO yn cynghori na ddylech deithio a/neu fod HOLL lefelau risg Crisis24 Horizon uwchlaw 3.0 a bod POB UN islaw 3.5.
|
|
Coch
|
Teithio y tu allan i Brydain Fawr (gan gynnwys cyrchfannau a throsglwyddiadau) os:
Mae'r FCDO yn cynghori dim ond teithio hanfodol/a bod yr holl deithio/neu UNRHYW lefelau risg Crisis24 Horizon uwchlaw 3.5.
|
Mae gan y Brifysgol yr hawl i wrthod unrhyw gynnig i deithio'n rhyngwladol ar sail iechyd a diogelwch, neu am resymau gweithredol neu academaidd eraill fel y bo'n briodol. Mae unrhyw fyfyriwr neu aelod o staff sy'n gadael y Brifysgol heb gymeradwyaeth o flaen llaw i deithio, gweithio neu astudio yn gwneud hynny heb awdurdod a heb yswiriant.
Mae hyfforddiant asesiad risg iechyd a diogelwch teithio rhyngwladol ar gael i'ch tywys drwy'r broses. Mae gwybodaeth am sut i gadw lle ar gwrs hyfforddiant ar gael ar y dudalen Hyfforddiant.
Mae mwy o wybodaeth am weithgareddau oddi ar y campws ac asesiad risg gwaith maes ar gael ar y dudalen Gwaith Maes.
Dogfennau Teithio Rhyngwladol:
Polisi Teithio Rhyngwladol Iechyd, Diogelwch a Gwydnwch
Asesiad Risg Teithio Rhyngwladol Canllawiau
Asesiad Risg Teithio Rhyngwladol- Ffurflen Werdd
Asesiad Risg Teithio Rhyngwladol – Ffurflen Oren
Ffurflen Asesiad Risg Teithio Rhyngwladol- Ffurflen Goch
Proses Cymeradwyo Teithio Rhyngwladol
Ffurflen Datganiad a Gwybodaeth Cyfranogwr
Datganiadau Iechyd:
I gael mwy o wybodaeth am ddatganiadau iechyd, e-bostiwch Iechyd Galwedigaethol.
Ffurflen Datganiad Iechyd
Arweiniad ar Ddatganiad Iechyd