Mae'r Bŵtcamp Busnes dwys hwn, a gynhelir dros bum niwrnod, wedi'i gynllunio i gefnogi entrepreneuriaid sy'n fyfyrwyr ar gamau cynnar, datblygiad a chychwyn busnesau, gan sicrhau bod ganddynt yr wybodaeth, yr offer, a'r hyder i ddilysu, datblygu a symud eu syniadau busnes ymlaen.

Mae'r rhaglen yn cyfuno gweithdai ymarferol, gwybodaeth o'r byd go iawn gan siaradwyr gwadd, a gwaith annibynnol strwythuredig, cyn cael arweiniad arbenigol personol i helpu myfyrwyr i nodi eu camau nesaf yn glir.

Bydd ein Bwtcamp Busnes yn dychwelyd yn y Haf 2027! Dilynwch ein cyfrif ar Instagram neu Linkedin i weld ein cynnwys ac i fod ymysg y rhai cyntaf i wybod pryd gallwch chi gofrestru i gael lle ar y bwtcamp nesaf.