Mae'r Gwasanaeth Mynediad o Bell at Gyfrifiadur Personol i Fyfyrwyr yn darparu mynediad diogel o bell i gyfrifiaduron personol y Brifysgol drwy borth gwe o'r enw LabStats. Mae'n cynnig ffordd hyblyg a dibynadwy o gael mynediad at adnoddau cyfrifiadura ar y campws o leoliad arall.
Cyflwynwyd y gwasanaeth yn wreiddiol yn ystod pandemig COVID-19, ac mae nawr yn rhan sefydledig o ddarpariaeth dysgu digidol y Brifysgol. Gall myfyrwyr gael mynediad at gyfrifiaduron personol mewn nifer o labordai cyfrifiaduron ar y campws, gyda thua 23 o gyfrifiaduron ar gael ar unrhyw adeg.
Gall myfyrwyr ddefnyddio'r gwasanaeth i:
- gael mynediad at feddalwedd arbenigol;
- defnyddio cyfrifiaduron manyleb uchel y Brifysgol;
- gweithio ar waith cwrs o bell; a
- defnyddio rhaglenni neu bŵer cyfrifiadura efallai nad ydynt ar gael ar ddyfeisiau personol.
Mae hyn yn golygu gall myfyrwyr gael mynediad at yr un offer a systemau hanfodol sydd ar gael ar y campws, ble bynnag maen nhw’n astudio. Drwy ehangu'r mynediad y tu hwnt i labordai cyfrifiaduron diriaethol, mae'r gwasanaeth yn helpu i greu profiad dysgu mwy hyblyg, cynhwysol a theg i'r holl fyfyrwyr.
Rhaid i fyfyrwyr rhyngwladol sy'n cael mynediad at y gwasanaeth o'r tu allan i'r DU gydymffurfio â gofynion UKVI. Am ragor o wybodaeth, gweler y Polisi Monitro Cyfranogiad.
Gall myfyrwyr ddod o hyd i gyfarwyddiadau a chwestiynau cyffredin am y gwasanaeth hwn ar ein tudalen we Gwasanaeth Mynediad o Bell i Gyfrifiaduron Personol i Fyfyrwyr.
