Cymorth

Os wyt ti'n credu bod angen cymorth gan y Gwasanaeth Lles ac Anabledd arnat, dylet ti gwblhau Ffurflen Cymorth Myfyrwyr

Ar ôl adolygu dy ffurflen, byddwn ni'n cysylltu â thi er mwyn rhoi cyngor i ti ar y camau nesaf. 

Ymholiadau

Y ffordd orau o gysylltu â'r Gwasanaeth Lles ac Anabledd yw drwy e-bost gan fod hyn yn ein galluogi i gyfeirio ymholiadau i'r tîm cywir yn rhwydd: llesanabledd@abertawe.ac.uk 

Fel arfer byddwn yn ymateb i e-byst o fewn 3 diwrnod gwaith ond efallai y bydd hyn yn hirach yn ystod cyfnodau prysur.

Gellir cysylltu â Switsfwrdd y Brifysgol ar 01792 205678. Os cewch eich trosglwyddo, mae ein tîm cymorth ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am hyd 1pm a 2pm hyd 4pm. Ni allwn drosglwyddo galwadau i ymarferwyr neu gwnselwyr unigol oni bai bod trefniant ymlaen llaw wedi'i wneud gan y gallai hyn amharu ar apwyntiadau. Os oes angen i chi gysylltu ag aelod penodol o staff, anfonwch e-bost atom a byddwn yn sicrhau bod eich ymholiad yn cael ei drosglwyddo.

Sylwer nad ydym ar agor ar wyliau banc.

Cyfrinachedd, Adborth a Chwynion

Rhagor o wybodaeth