Mae'r Big Pitch yn ôl ac yn fwy nag erioed!
Os ydych chi'n fyfyriwr, neu wedi graddio'n ddiweddar, ac mae gennych fusnes yn ei gamau cynnar, neu os oes gennych fusnes sefydledig, arloesol, cofrestrwch ar gyfer y Big Pitch isod, lle bydd gan ymgeiswyr llwyddiannus gyfle i gyflwyno eu busnesau am gyfle i ennill cyllid cychwynnol. Bydd y Big Pitch yn cael ei rhannu'n ddau lwybr eleni:
Mae'r ail lwybr 'Llwybr Busnesau Newydd yn eu Camau Cynnar' ar gyfer myfyrwyr a graddedigion sydd ar gamau cychwynnol neu gamau datblygol eu taith sefydlu busnes newydd. Bydd gan ymgeiswyr llwyddiannus dair munud i gyflwyno eu busnesau, am gyfle i ennill hyd at £1,500.
Cynhelir y llwybr cyntaf 'Llwybr Arloesiad Sefydledig' ar gyfer myfyrwyr a graddedigion sydd â busnesau sefydledig. Bydd gan ymgeiswyr llwyddiannus bum munud yr un i gyflwyno eu busnesau am gyfle i ennill hyd at £3,000 mewn cyllid, gyda phrif wobr o £5,000.
Gall gwobrau ar draws y ddau lwybr gynnwys:
• Cyllid busnes
• Lleoedd ar raglen Bootcamp Busnes neu We Innovate
• Mentora a chyngor busnes
• Cyfleoedd masnachu lleol
• Mynediad at aelodaeth cymorth busnes
• Gofod marchnata hysbysfyrddau digidol
Cyn cyflwyno cais, sicrhewch eich bod wedi darllen yr amodau a thelerau i wirio'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer y ddau lwybr, yn ogystal â deall sut mae'r cyllid yn gweithio a beth yw'r dyddiad cau i gyflwyno eich cais.
Am ragor o wybodaeth - cysylltwch a enterprise@swansea.ac.uk.