Mae'r Big Pitch yn ôl ac yn fwy nag erioed!
Os ydych chi'n fyfyriwr, neu wedi graddio'n ddiweddar, ac mae gennych fusnes yn ei gamau cynnar, neu os oes gennych fusnes sefydledig, arloesol, cofrestrwch ar gyfer y Big Pitch isod, lle bydd gan ymgeiswyr llwyddiannus gyfle i gyflwyno eu busnesau am gyfle i ennill cyllid cychwynnol.
Cynhelir y Big Pitch ddydd Mercher 25 Mawrth 2026 (lleoliad i'w gadarnhau).
Sylwer nad yw cyflwyno'r cais hwn yn sicrhau y byddwch yn cael lle yn y gystadleuaeth. Byddwch yn cael gwybod a yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus neu beidio pan fydd yn cael ei adolygu. Byddwch yn cael gwybod am y penderfyniad ar 11 Mawrth.
Bydd y Big Pitch yn cael ei rhannu'n ddau lwybr eleni:
Cynhelir y llwybr cyntaf 'Llwybr Arloesiad Sefydledig' ar gyfer myfyrwyr a graddedigion sydd â busnesau sefydledig. Bydd gan ymgeiswyr llwyddiannus bum munud yr un i gyflwyno eu busnesau am gyfle i ennill £5,000 o gyllid. Gall hyd at dri chyflwynydd ennill y brif wobr hon o £5,000.
Mae'r ail lwybr 'Llwybr Busnesau Newydd yn eu Camau Cynnar' ar gyfer myfyrwyr a graddedigion sydd ar gamau cychwynnol neu gamau datblygol eu taith sefydlu busnes newydd. Bydd gan ymgeiswyr llwyddiannus dair munud i gyflwyno eu busnesau, am gyfle i ennill hyd at £1,500.
Nodwch ba lwybr rydych chi'n cyflwyno cais ar ei gyfer yn ystod y broses ymgeisio.
Er mwyn helpu i roi'r cyfle gorau i ymgeiswyr llwyddiannus baratoi eu cyflwyniadau, byddwn yn cynnal ein gweithdy 'Sut i Gyflwyno' ar 18 Mawrth ar Gampws Singleton. Bydd y gweithdy hwn yn orfodol i bawb sy'n cymryd rhan. Os ydych yn cael lle yn y gystadleuaeth ac os oes gennych broblemau o ran ymuno â’r gweithdy hwn, e-bostiwch y Tîm Mentergarwch Myfyrwyr yn uniongyrchol.
Cyn cyflwyno cais, sicrhewch eich bod wedi darllen yr amodau a thelerau i wirio'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer y ddau lwybr, yn ogystal â deall sut mae'r cyllid yn gweithio a beth yw'r dyddiad cau i gyflwyno eich cais.
Dyddiad cau - Dydd Sul, 8 Mawrth.
Am ragor o wybodaeth - cysylltwch a enterprise@swansea.ac.uk.
Yn barod i wneud cais? Cliciwch yma!