Cynhelir ein Marchnad Crefftwyr ar Gampws Singleton a Champws y Bae cyn gwyliau’r Nadolig bob blwyddyn!
Bydd y farchnad yn cynnwys cymysgedd o fusnesau newydd sy’n cael eu sefydlu gan fyfyrwyr a masnachwyr lleol yn gwerthu eu cynnyrch. Mae’r farchnad yn cynnwys gweithgareddau i fyfyrwyr hefyd, sy’n cynnwys crefftau a gemau Nadoligaidd, nwyddau cyffrous am ddim, gwobrau ar gyfer y siwmper Nadolig orau a digon o hwyl Nadoligaidd.
Cynhelir ein marchnad Nadolig 2026 ar y dyddiadau canlynol ac yn y lleoliadau canlynol -
- Marchnad Crefftwyr Singleton – Dydd Mawrth 17 Tachwedd 2026, 11.00am – 2.00pm yng Nghanolfan y Celfyddydau Taliesin
- Marchnad Crefftwyr Campws y Bae – Dydd Iau 3 Rhagfyr 2026, 2.00pm – 5.00pm, Lleoliad i’w gadarnhau.
Does dim rhaid i ymwelwyr gofrestru, dewch draw i ymuno â ni. Fodd bynnag, os ydych chi’n fyfyriwr sydd â busnes a hoffech chi gael stondin i fasnachu yn y marchnadoedd sydd i ddod, llenwch y ffurflen. Os oes gennych chi ragor o gwestiynau, e-bostiwch joel.j.bowen@swansea.ac.uk.
Os nad ydych chi am aros tan y Nadolig i fasnachu ar y campws, mae gennym stondin fasnachu i fyfyrwyr ei defnyddio i werthu eu nwyddau neu hyrwyddo eu busnes ar y campws a gallwch chi ddefnyddio hon drwy gydol y flwyddyn. Am ragor o wybodaeth ac i gyflwyno cais, cliciwch yma.