Llongyfarchiadau i chi ar sicrhau lle i astudio Mhrifysgol Abertawe
Croeso/ Welcome. Fel Cyfarwyddwr y Rhaglen, rwy'n falch iawn o'ch croesawu ar ran tîm y cwrs i'r MSc Ymarfer Proffesiynol Uwch. Edrychwn ymlaen at gwrdd â chi yn ystod yr wythnos sefydlu, a gobeithio y bydd eich profiad dysgu seiliedig ar waith yn bleserus ac yn gyfoethog. Rydym yn gobeithio y byddwch chi'n mwynhau'r cwrs, yn dysgu o'r modiwlau, ac yn gwella eich ymarfer proffesiynol.
Beth gallwch chi ei ddisgwyl gan dîm y cwrs?
Bydd gennych yr hyblygrwydd i ddewis beth rydych chi'n ei ddysgu a sut rydych chi'n ei ddysgu. Drwy gydol eich cwrs byddwch chi'n cael tiwtor personol a fydd yn arwain eich dysgu drwy oruchwylio wyneb yn wyneb neu ar-lein. Bydd eich tiwtor yn rhoi goruchwyliaeth academaidd ac adborth i chi ar elfennau drafft pob portffolio modiwl.
Rydym yn cynnig ystod eang o adnoddau dysgu ar-lein arloesol sydd wedi'u cynllunio i wella eich sgiliau dadansoddi, myfyrio a meddwl yn feirniadol. Yn ogystal, rydym yn cynnal sesiynau dysgu gweithredol ar-lein yn fisol lle gallwch gysylltu â chyd-fyfyrwyr i drafod materion clinigol neu academaidd mewn amgylchedd cefnogol sy'n datrys problemau.
Rydym yma i'ch cefnogi a gallwn eich cyfeirio at dimau a gwasanaethau yn y Brifysgol pryd bynnag y bo angen.
Beth gall tîm y cwrs ei ddisgwyl gennych chi?
Cymryd rhan yn weithredol mewn goruchwyliaeth academaidd a chadw at ddyddiadau cau asesiadau i sicrhau y cyflwynir eich portffolio wedi'i gwblhau mewn modd amserol i'w asesu. -
Defnyddio deunyddiau dysgu ar-lein ar Canvas a chyfleoedd dysgu gweithredol i wella eich dadansoddiad beirniadol ac i ymrwymo’n llawn i ethos y cwrs o ran dysgu seiliedig ar waith. -
Rhoi gwybod i'ch tiwtor personol neu gyfarwyddwr y rhaglen am unrhyw anawsterau neu bryderon a allai effeithio ar eich gallu i barhau neu gwblhau eich astudiaethau.
Dyddiad ac Amser yr wythnos sefydlu orfodol: 6-10 Hydref 2025 09:30 – 16:00
Lleoliad: Ystafell Vivian 128, llawr cyntaf Tŵr Vivian, Campws Parc Singleton (sylwer: gallai'r ystafell newid).
Yr wythnos sefydlu hon yw'r unig elfen a addysgir o'r rhaglen ac mae'n chwarae rhan hanfodol wrth eich paratoi ar gyfer eich taith academaidd. Drwy gydol yr wythnos, byddwch yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o brofiadau dysgu rhyngweithiol - wyneb yn wyneb ac ar-lein. Byddwch chi'n: - Cwrdd â thîm y cwrs a'ch tiwtor personol a enwir - Atgyfnerthu eich sgiliau meddwl yn feirniadol ac ysgrifennu academaidd - Cael cyflwyniad i egwyddorion dysgu seiliedig ar waith, datblygu portffolio a dysgu gweithredol - Cymryd rhan mewn sesiynau sbotolau sy'n cynnwys elfennau allweddol fel portffolio eich modiwl, ysgrifennu contract dysgu, ysgrifennu naratif a chasglu tystiolaeth - Cwblhau gweithgareddau dysgu dan arweiniad i'w trafod yn ystod yr wythnos Sylwer: Mae presenoldeb yn orfodol am yr wythnos gyfan. Os na allwch fod yn bresennol , bydd dechrau'ch cwrs yn cael ei ohirio i'r flwyddyn academaidd nesaf. Pwyntiau pwysig i'w cofio: - Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cofrestru'n llawn ar y cwrs a'r modiwl SHGM90 cyn yr wythnos sefydlu. Mae cofrestru yn rhoi mynediad at Canvas, ein platfform dysgu ar-lein ac adnoddau sefydlu. -
Dewch â dyfais symudol, gan y byddwch chi'n cael mynediad at adnoddau digidol ac yn datblygu eich contract dysgu drwy gydol yr wythnos.
Argymhellwn eich bod yn darllen y canlynol cyn y cwrs: Helyer, R., Wall, T., Minton, A., & Lund, A. (Gol.). (2020). The work based learning student handbook (3ydd argraffiad). Red Globe Press Wallace, M. & Wray, A. (Gol.). (2021) Critical reading and writing for postgraduates (4ydd argraffiad.). SAGE Publications Ltd. Rwy'n edrych ymlaen at gwrdd â chi yn ystod y cyfnod sefydlu. Yn y cyfamser, os oes gennych gwestiynau am y cwrs neu'r broses sefydlu, cysylltwch â mi yn uniongyrchol drwy e-bost.
Dymuniadau gorau / Best wishes, Sara. Sara N Galletly MSc BA(Hons) DipRSA CertEd RGN SFHEA (She/ Her Hi/Hithau), Senior Lecturer in Professional and Workforce Development|Uwch-ddarlithydd mewn Datblygiad Proffesiynol a Gweithlu Programme Director MSc Enhanced Professional Practice| Cyfarwyddwr Rhaglen MSc Ymarfer Proffesiynol Uwch Admissions Tutor MSc Enhanced Professional Practice| Tiwtor derbyn MSc Ymarfer Proffesiynol Uwch