RHEOLIADAU ASESU GRADDAU MEISTR A ADDYSGIR AR-LEIN
5.1 Egwyddorion Cyffredinol
5.1.1 Cyflwyno marciau
Cyflwynir yr holl farciau asesu ar gyfer modiwlau a gwblhawyd hyd yn hyn i Fyrddau Dilyniant a Dyfarniadau’r Cyfadrannau.
5.1.2 Cyflwyno Marciau ar gyfer Dyfarniad
Caiff y set lawn o ganlyniadau ar gyfer pob myfyriwr a ystyrir gan Fwrdd Dilyniant a Dyfarniadau’r Brifysgol ei chyflwyno i'r arholwyr. Fel arfer, bydd proffil canlyniadau'r myfyrwyr perthnasol yn cynnwys:
- Canlyniadau'r modiwlau a addysgir.
- Canlyniadau'r darn(au) o ddysgu annibynnol dan gyfarwyddyd.
5.1.3 Penderfyniadau ar Ddilyniant
Gwneir penderfyniadau ar ddilyniant yn unol â’r rheoliadau cyffredinol – gweler G3.
5.1.4 Marcio Anhysbys
Gweler polisi Asesu, Marcio ac Adborth y Brifysgol.
5.1.5 Datgelu Enwau
Gweler polisi Asesu, Marcio ac Adborth y Brifysgol.
5.1.6 Datgelu Canlyniadau
Dylid gwahaniaethu rhwng marciau dros dro a marciau a gadarnhawyd.
Gweler dogfen Cywirdeb y Marciau a Gyhoeddwyd y Brifysgol.
5.1.7 Apelio yn erbyn penderfyniadau
Gall myfyrwyr sy'n methu cymhwyso i symud ymlaen wneud cais am adolygiad o benderfyniad y Bwrdd yn unol â Gweithdrefn Apelio a/neu Weithdrefn Cywirdeb y Marciau a Gyhoeddwyd y Brifysgol.
5.2 Rheolau Asesu Cyffredinol
Gellir astudio rhaglenni ar-lein yn amser llawn neu ar sail ran-amser.
Mae strwythur y rhaglenni’n cynnwys modiwlau sy'n werth cyfanswm o 180 o gredydau ar lefel 7 y Fframwaith Cymwysterau Addysg Uwch, gyda 120 o gredydau o fodiwlau a addysgir (gan gynnwys credydau am Gydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol) a Dysgu Annibynnol dan Gyfarwyddyd, sy'n werth 60 o gredydau.
G1
50% fydd y marc llwyddo ar gyfer modiwlau. Dyfernir credydau i fyfyrwyr sy'n pasio modiwl (mae'r rheoliadau digolledu’n berthnasol).
G2
Gall myfyrwyr sy'n cronni 180 o gredydau gymhwyso ar gyfer dyfarniad gradd. Bydd y dosbarthiad gradd cyffredinol yn cael ei gyfrifo ar sail cyfartaledd cymedrig marciau modiwlau, sy’n cael eu pwysoli yn ôl eu gwerth mewn credydau, ar draws y rhaglen gyfan.
G3
Fel arfer, bydd Byrddau Arholi'n cwrdd ar ôl pob cyfnod asesu yn ystod y rhaglen i sicrhau bod cynnydd myfyrwyr yn cael ei fonitro.
Penderfynir ar gynnydd wrth i'r Bwrdd Arholi adolygu safle 'cyfredol' myfyriwr ar ôl pob cyfnod asesu.
Gwneir penderfyniad ynghylch a yw myfyriwr wedi bodloni'r gofynion i symud ymlaen ar y rhaglen mewn Bwrdd Arholi.
Fel arfer caiff myfyrwyr sy'n methu cymhwyso i symud ymlaen ar yr ymgais gyntaf ganiatâd i wneud iawn am fethu drwy ymgymryd ag asesiadau atodol neu ailgyflwyno gwaith diwygiedig a asesir, yn ôl diffiniad y rhaglen.
Y Bwrdd Arholi'n unig sy'n gallu cynnig cyfle i ymgymryd ag asesiadau atodol a bydd y cyfleoedd hyn fel arfer yn cael eu cynnig yn ystod y cyfnod cyflwyno nesaf sydd ar gael.
Gall myfyrwyr amser llawn symud ymlaen i'r modiwl (modiwlau) a addysgir nesaf ar eu rhaglen gydag uchafswm o 40 o gredydau wedi'u methu a bydd angen gwneud iawn am fethu'r rhain yn ystod y cyfnod asesu nesaf sydd ar gael.
Gall myfyrwyr rhan-amser symud ymlaen i'r modiwl (modiwlau) a addysgir nesaf ar eu rhaglen gydag uchafswm o 20 o gredydau wedi'u methu a bydd angen gwneud iawn am fethu'r rhain yn ystod y cyfnod asesu nesaf sydd ar gael.
Gall myfyrwyr sy'n gwneud iawn am fethu'r holl gredydau ar yr ail ymgais barhau â'u hastudiaethau.
Gall myfyrwyr sy'n methu modiwl ar yr ail ymgais ac sy'n gymwys am ddigolledu (gweler G7), barhau â'u hastudiaethau yn ôl disgresiwn y Bwrdd Arholi.
Ni fydd myfyrwyr sy'n methu modiwl ar yr ail ymgais ac nad ydynt yn gymwys am ddigolledu (gweler G7), yn gymwys am ddyfarniad gradd Meistr ond caniateir iddynt barhau i ennill credydau a addysgir i gael eu hystyried am ddyfarniad ymadael.
Bydd Cyfadrannau/Ysgolion yn sicrhau bod yr wybodaeth hon ar gael i'r holl fyfyrwyr yn Llawlyfr y Rhaglen.
Gwneir penderfyniadau ynghylch dyfarniadau ar gyfer myfyrwyr amser llawn ar ddiwedd y tymor terfynol neu'n gynharach yn achos dyfarniadau ymadael.
Gwneir penderfyniadau ynghylch dyfarniadau ar gyfer myfyrwyr rhan-amser ar ddiwedd y tymor terfynol ym Mlwyddyn 2 (rhaglen 2 flynedd) ac ym Mlwyddyn 3 (rhaglen 3 blynedd) neu'n gynharach yn achos dyfarniadau ymadael.
|
Bwrdd |
Cyfnod (*dangosol) |
Penderfyniad/Canlyniad |
|
1 |
O fis Medi i fis Rhagfyr |
Dilyniant/Atodol/Dyfarniad/Dyfarniad Ymadael |
|
2 |
O fis Ionawr i fis Ebrill |
Dilyniant/Atodol/Dyfarniad/Dyfarniad Ymadael |
|
3 |
O fis Mai i fis Awst |
Dilyniant/Atodol/Dyfarniad/Dyfarniad Ymadael |
G4
Gall Cyfadrannau/Ysgolion nodi modiwlau 'craidd' ar gyfer rhaglenni unigol fel y bo'n briodol. Mae'n rhaid pasio'r modiwlau hyn â marc o 50% o leiaf cyn y gall myfyriwr symud ymlaen. Mae’n rhaid i’r modiwlau ‘craidd’ ar gyfer pob rhaglen gael eu nodi’n glir yn llawlyfrau’r Gyfadran/yr Ysgol, neu mewn dogfen arall yn y Gyfadran/yr Ysgol ac ar feddalwedd asesu'r Brifysgol.
Dylai Cyfadrannau/Ysgolion nodi nad yw methiannau a ddigolledir yn gallu cael eu dyfarnu ar gyfer modiwlau 'craidd'. Rhaid i berfformiad myfyrwyr mewn modiwlau ‘craidd’ gael ei fonitro gan y Cyfadrannau/Ysgolion.
Dylid ystyried modiwl sy'n cynnwys darn(au) o ddysgu annibynnol dan gyfarwyddyd, yn rhinwedd ei natur, yn fodiwl 'craidd,' a bydd marc llwyddo o 50% yn berthnasol yn gyson.
G5
Yn ôl disgresiwn y Bwrdd Arholi, bydd y myfyrwyr canlynol yn gymwys i roi ail gynnig ar asesiadau mewn modiwlau a addysgir:
- Myfyrwyr amser llawn sydd wedi methu modiwl a addysgir ar yr ymgais gyntaf ac nad ydynt wedi cwblhau'r holl gredydau a addysgir.
- Myfyrwyr rhan-amser sydd wedi methu modiwl a addysgir ar yr ymgais gyntaf ac nad ydynt wedi cwblhau'r holl gredydau a addysgir.
- Myfyrwyr sydd wedi methu modiwl a addysgir ar yr ymgais gyntaf pan gaiff proffil llawn marciau'r modiwlau a addysgir eu hystyried gan y Bwrdd Arholi a phan na fydd y myfyriwr yn gymwys am ddigolledu.
G6
Os yw myfyrwyr yn bodloni'r arholwyr mewn ymgais i wneud iawn am fethiant, ni fyddant yn gymwys am farc uwch na'r trothwy wedi'i gapio o 50% ym mhob modiwl, waeth beth yw lefel eu perfformiad.
Bydd Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau'r Brifysgol yn cyfeirio at y marc wedi'i gapio/marc gorau wrth bennu'r cyfartaledd cyffredinol ar gyfer y dyfarniad.
G7
Gall myfyrwyr gael eu digolledu mewn hyd at 30 o gredydau yn ôl disgresiwn y Bwrdd Arholi cyhyd â bod yr holl amodau canlynol yn cael eu bodloni:
- Mae marc cyfartalog cyffredinol y modiwlau a addysgir o leiaf 50%;
- Nid yw'r modiwlau a fethwyd wedi cael eu nodi o'r blaen fel modiwlau ‘craidd’ ar gyfer y rhaglenni penodol (gweler rheol asesu gyffredinol G4);
- Nid yw'r marc cyffredinol mewn UNRHYW fodiwl ym mhroffil y myfyriwr yn llai na 40%.* Dylid cyfeirio at gredydau modiwlau o'r fath fel methiannau a ddigolledir (bydd y rhain yn ymddangos fel graddau F ar drawsgrifiad y myfyriwr);
- Nid yw'r modiwl yn cyfrannu at y 60 o gredydau o ddysgu annibynnol dan gyfarwyddyd.
- Mae marc cyffredinol islaw 40% ar gyfer modiwlau a addysgir mewn unrhyw fodiwl ym mhroffil y myfyriwr yn golygu na chaniateir digolledu.
G8
Os yw myfyrwyr sydd yng nghanol eu rhaglen yn methu gwneud iawn am fodiwl a fethwyd ar yr ail ymgais (digolledu’n berthnasol) a/neu’n methu cyflwyno eu hasesiad dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd erbyn y dyddiad cau, ni fyddant yn gymwys am ddyfarniad Meistr, ond caniateir iddynt barhau i ennill credydau a addysgir er mwyn cael eu hystyried am ddyfarniad ymadael.
Os yw’r modiwl dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd yn cynnwys mwy nag un gydran asesu, bydd myfyrwyr sydd wedi cyflwyno o leiaf un gydran asesu erbyn y dyddiad cau ac yn methu ennill marc pasio cyffredinol modiwl fel arfer yn cael ailgyflwyno'r holl gydrannau a fethwyd yn unol â'r terfyn amser priodol.
5.3 Rheolau ar gyfer Dyfarnu Graddau Meistr Hyblyg a Addysgir Ar-lein
5.3.1 Rheolau penodol ar gyfer dyfarnu credyd ar ddiwedd y rhaglen
S1
50% fydd y marc Pasio.
S2
Gall myfyrwyr sy’n cronni 180 credyd fod yn gymwys i gael gradd. Bydd y dosbarthiad gradd cyffredinol yn cael ei gyfrifo yn seiliedig ar gyfartaledd y marciau modiwl, sydd wedi'u pwysoli yn ôl gwerth eu credyd, ar draws y rhaglen gyfan.
S3
Bydd myfyrwyr sy'n cyflawni marc cyfartalog cyffredinol o 60% neu’n uwch, a llai na 69.99% ar gyfer y rhaglen gyfan yn gymwys i ennill dyfarniad gradd Meistr â theilyngdod.
S4
Bydd myfyrwyr sy'n ennill marc cyfartalog cyffredinol o 70% neu fwy ar gyfer y rhaglen gyfan yn gymwys i ennill dyfarniad gradd Meistr â Rhagoriaeth.
S5
Gall myfyrwyr, ar eu hail ymgais, gael eu digolledu mewn hyd at 30 o gredydau yn ôl disgresiwn y Bwrdd Arholi cyhyd â bod yr holl amodau canlynol yn cael eu bodloni:
- Mae marc cyfartalog cyffredinol y modiwlau a addysgir o leiaf 50%;
- Nid yw'r modiwlau a fethwyd wedi cael eu nodi o'r blaen fel modiwlau ‘craidd’ ar gyfer y rhaglenni penodol (gweler rheol asesu gyffredinol G4);
- Nid yw'r marc cyffredinol mewn UNRHYW fodiwl ym mhroffil y myfyriwr yn llai na 40%.* Dylid cyfeirio at gredydau ar gyfer modiwlau o'r fath fel methiannau a ddigolledir (bydd y rhain yn ymddangos fel graddau F ar drawsgrifiad y myfyriwr);
- Nid yw'r modiwl yn cyfrannu at y 60 o gredydau o ddysgu annibynnol dan gyfarwyddyd;
* Mae marc cyffredinol islaw 40% ar gyfer modiwlau a addysgir mewn unrhyw fodiwl ym mhroffil y myfyriwr yn golygu na chaniateir digolledu.
S6
Bydd myfyrwyr nad ydynt yn bodloni gofynion S2 (digolledu’n berthnasol) yn methu cymhwyso am y dyfarniad. Yn ôl disgresiwn y Bwrdd Arholi, fel arfer bydd yn ofynnol i'r myfyriwr ymgymryd ag asesiadau atodol ym mhob modiwl lle mae wedi methu ar yr ymgais gyntaf am farc wedi'i gapio o 50%. Bydd myfyrwyr sy'n dewis peidio ag ailsefyll modiwl a fethwyd yn cael marc o 0%.
S7
Ni fydd myfyrwyr sy'n methu cyflwyno eu hasesiad dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd neu asesiad cyfatebol a gymeradwywyd erbyn y dyddiad cau yn gymwys i ennill dyfarniad gradd Meistr ond caniateir iddynt barhau i gael eu hystyried am ddyfarniad ymadael. Ni chaniateir cyfle i ailgyflwyno gwaith.
Os yw modiwl dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd yn cynnwys un neu fwy o gydrannau asesu, bydd myfyrwyr sy'n cyflwyno o leiaf un gydran asesiad erbyn y dyddiad cau ac yn methu ennill marc pasio cyffredinol y modiwl fel arfer yn cael ailgyflwyno'r holl gydrannau a fethwyd yn unol â'r terfyn amser priodol.
S8
Os yw myfyrwyr yn methu'r dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd neu asesiad cyfatebol cymeradwy a chaniateir iddynt ailgyflwyno, bydd y cyfnodau amser canlynol i ailgyflwyno yn berthnasol. Caiff marciau'r gwaith a ailgyflwynir eu capio ar 50%.
| Dull Astudio | Ailgyflwyno |
|---|---|
| AMSER LLAWN | fel arfer* 3 mis (ar ôl cyhoeddi'r canlyniadau'n swyddogol) |
| RHAN-AMSER | fel arfer* 6 mis (ar ôl cyhoeddi'r canlyniadau'n swyddogol) |
*Lle bydd Dysgu Annibynnol dan Gyfarwyddyd gyfwerth â 60 o gredydau ond wedi'i rannu dros fwy nag un modiwl, e.e. 20 o gredydau a 40 o gredydau, gall Cyfadrannau bennu cyfnodau cyflwyno mwy cymesur. Dylid gwneud y manylion yn glir i fyfyrwyr yn llawlyfr y rhaglen.
S9
Bydd yn ofynnol i fyfyrwyr sy'n methu'r traethawd hir/asesiad dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd neu asesiad cyfatebol cymeradwy ar yr ail ymgais a/neu'n methu modiwl a addysgir ar yr ail ymgais (digolledu'n berthnasol) dynnu'n ôl o'r Brifysgol. Gellir ystyried myfyrwyr o'r fath ar gyfer dyfarniad ymadael priodol, yn amodol ar ofynion y Corff Proffesiynol.
| Tystysgrif Ôl-raddedig |
|
|---|---|
| Tystysgrif Ôl-raddedig â Theilyngdod |
|
| Tystysgrif Ôl-raddedig â Rhagoriaeth |
|
| Diploma Ôl-raddedig |
|
| Diploma Ôl-raddedig â Theilyngdod |
|
| Diploma Ôl-raddedig â Rhagoriaeth |
|
*Gall rhaglenni fabwysiadu rheoliadau digolledu llymach oherwydd gofynion Cyrff Proffesiynol/Noddi.
S10
Mae gan bob myfyriwr a orfodir i dynnu'n ôl o'r Brifysgol yr hawl i apelio yn unol â Rheoliadau Cywirdeb y Marciau a Gyhoeddwyd a/neu Weithdrefn Apelio’r Brifysgol.