7.1 Meini prawf gwneud penderfyniadau
Penderfynir ar bob Addasiad Rhesymol fesul achos, yn seiliedig ar wybodaeth/dystiolaeth ac fe'u bernir yn erbyn normau’r Deyrnas Unedig gan ystyried:
- A yw myfyriwr dan anfantais oherwydd dulliau addysgu ac asesu presennol;
- Pa mor effeithiol fydd yr addasiadau arfaethedig wrth oresgyn yr anfantais honno;
- A yw'r addasiadau arfaethedig yn ymarferol;
- A oes unrhyw resymau addysgeg cyfiawnadwy pam nad yw'r addasiadau'n rhesymol;
- Y costau ariannol a chostau eraill sy'n gysylltiedig â gwneud yr addasiad ac argaeledd grantiau, benthyciadau a chymorth arall i fyfyrwyr anabl;
- Gofynion iechyd a diogelwch (nid yw'r Ddeddf yn trechu gofynion iechyd a diogelwch);
- A oes unrhyw addasiadau amgen a fyddai’n cael yr un effaith â'r addasiad y gofynnwyd amdano.
7.2 Pro Fforma
Bydd y Gwasanaeth Lles ac Anabledd yn datblygu Pro Fforma Addasiadau Rhesymol myfyriwr ar y cyd â'r myfyriwr a, lle bo angen, â Thiwtor Cyswllt Cynhwysiant Academaidd yr Ysgol. Bydd y Pro Fforma Addasiadau Rhesymol yn argymell y cymorth i’w roi ar waith, gan gynnwys addasiadau rhesymol i asesiadau lle bo'n briodol.
7.3 Addasiadau mewn arholiad
I gael addasiadau mewn arholiad, rhaid i fyfyriwr gael ei asesu gan y Gwasanaeth Lles ac Anabledd a rhaid bod Pro Fforma Addasiadau Rhesymol ar waith. Mae'r addasiadau a argymhellir yn y Pro Fforma Addasiadau Rhesymol yn cael eu cymhwyso'n awtomatig i arholiadau wyneb yn wyneb y mae myfyriwr yn eu sefyll yn ystod ei gyfnod ym Mhrifysgol Abertawe, oni bai bod y myfyriwr yn hysbysu'r Brifysgol fel arall. Mae rhagor o fanylion ar gael drwy HWB.
Lle byddai hyd yr arholiad ynghyd ag addasiadau yn fwy na 4 awr 22 munud, dylid ystyried asesiadau eraill.
7.4 Enghreifftiau o addasiadau rhesymol
Dysgu ac amgylchedd
- Lleoliadau hygyrch
- Mynediad at gyfrifiaduron personol, technoleg gynorthwyol, darllenwyr neu ysgrifenyddion
- Hyblygrwydd ar gyfer apwyntiadau meddygol neu gyfnodau o salwch sy'n gysylltiedig â chyflwr myfyriwr, y gall y ddau ohonynt effeithio ar bresenoldeb (mae monitro cyfranogiad yn parhau ar waith (cf. )Monitro Cyfranogiad - Prifysgol Abertawe).
Deunyddiau
- Mynediad ymlaen llaw at nodiadau darlith a sleidiau
- Fformatau amgen (e.e., print bras, papur lliw, Braille)
- Cymorth gan Ganolfan Drawsgrifio'r Brifysgol
Asesu
- Amser ychwanegol
- Darparu ystafell fach neu ystafell ar wahân
- Fformatau cyflwyno amgen ar gyfer asesiadau gwaith cwrs
- Asesiadau amgen lle bo'n briodol
- Disgwyliadau wedi'u haddasu ar gyfer sillafu/gramadeg lle bo'n briodol
- Dewisiadau eraill yn lle gwaith grŵp neu gyflwyniadau
-
Mae rhestr o addasiadau cyffredin ar gael yn Atodiad A.
7.5 Hyd
Fel arfer, mae addasiadau'n berthnasol am hyd y rhaglen gyfan oni bai bod amgylchiadau'n newid.
7.6 Lleoliadau a Dysgu Oddi Ar y Campws
Efallai y bydd angen addasiadau rhesymol ar fyfyrwyr sy'n ymgymryd â lleoliadau, interniaethau, profiadau clinigol, neu o ddysgu oddi ar y campws er mwyn sicrhau mynediad a chyfranogiad teg. Bydd y Brifysgol, lle bo'n briodol, yn gweithio mewn cydweithrediad â darparwyr lleoliadau, cyrff proffesiynol, gwasanaethau iechyd galwedigaethol, a phersonél iechyd a diogelwch perthnasol i nodi a gweithredu addasiadau o'r fath.
Disgwylir i fyfyrwyr ddatgelu unrhyw anghenion perthnasol ac ymgysylltu â'r Gwasanaeth Lles ac Anabledd, yn ogystal â'u goruchwyliwr academaidd neu leoliad, cyn gynted â phosibl. Mae cysylltu’n gynnar yn hanfodol er mwyn ystyried a gweithredu addasiadau priodol yn amserol. Ar gyfer rhai rhaglenni, gall y broses hon gynnwys atgyfeirio at wasanaethau iechyd galwedigaethol.
Darperir lleoliadau a chyfleoedd dysgu oddi ar y campws mewn partneriaeth â sefydliadau allanol. O ganlyniad, mae’n bosibl y bydd y gallu i roi addasiadau rhesymol ar waith yn gyfyngedig oherwydd ffactorau allanol, fel argaeledd darparwyr, lleoliadau addas neu ystyriaethau daearyddol, gan gynnwys pellter teithio.