5.1
Y Brifysgol:
a) Cynnal Gwasanaeth Lles ac Anabledd canolog o fewn Bywyd Myfyrwyr i gefnogi myfyrwyr a chysylltu â Chyfadrannau ar ran myfyrwyr wrth sefydlu addasiadau rhesymol mewn ymateb i geisiadau.
b) Sicrhau bod rhwymedigaeth gyfreithiol y Brifysgol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i ragweld a gwneud addasiadau rhesymol yn cael ei chyflawni.
c) Cynnal safonau academaidd, gan gynnwys y rhai hynny a osodwyd gan Gyrff Rheoleiddio Proffesiynol a Statudol fel safonau hyfedredd a/neu gymhwysedd.
d) Cyflwyno hyfforddiant gorfodol priodol i sicrhau bod yr holl staff yn ymwybodol o'u dyletswydd o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
e) Rhoi adnoddau i gefnogi staff i deimlo'n barod i gael sgyrsiau tosturiol â myfyrwyr a gallu adnabod anawsterau parhaus a allai ddynodi anabledd ac effaith bosibl ar astudiaethau.
f) Cynnal cyfrinachedd a sicrhau bod gwybodaeth sensitif yn cael ei rhannu mewn modd priodol, a'i chyfyngu i'r bobl hynny y mae angen arnynt ei chyrchu.
g) Darparu cymuned ymarfer ar gyfer staff gwasanaeth proffesiynol ac academaidd i rannu arfer da wrth gefnogi myfyrwyr ag anableddau.
h) Sicrhau bod system briodol ar gael ar gyfer cofnodi, adrodd a monitro anableddau ac addasiadau rhesymol.
i) Gweithio gyda phartneriaethau cydweithredol i sicrhau bod addasiadau rhesymol ar y safon briodol i fyfyrwyr sy'n astudio ar gyfer dyfarniadau Prifysgol Abertawe.
5.2
Cyfadrannau:
Bydd y Dirprwy Is-ganghellor a Deon Gweithredol a Chyfarwyddwr Gweithrediadau Strategol y Gyfadran ym mhob Cyfadran yn sicrhau’r canlynol:
a) Cyflawnir rôl y Cydlynydd Anabledd Academaidd gan aelodau staff priodol.
b) Mae'r staff a ddyrennir i gefnogi myfyrwyr ag anableddau yn gymesur â nifer y myfyrwyr ag anableddau a chymhlethdod anghenion unigol.
c) Mae pwynt cyswllt cyntaf clir ar gyfer cyngor a chymorth yn y Gyfadran i fyfyrwyr ag anabledd ar y lefel y cytunwyd arni (disgyblaeth, adran neu ysgol yn ôl yr angen).
d) Yn absenoldeb y Cydlynydd Anabledd Academaidd, bydd Cyfarwyddwyr Rhaglenni yn ymateb i ymholiadau sy'n ymwneud ag addasiadau academaidd ar gyfer myfyrwyr ag anableddau.
e) Bydd goruchwylwyr Ymchwil Ôl-raddedig a deiliaid rolau Ymchwil Ôl-raddedig mewn Cyfadrannau ac Ysgolion yn gyfrifol am gydlynu ceisiadau am addasiadau rhesymol gan fyfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig.
f) Bydd y Cydlynwyr Anabledd Academaidd a staff perthnasol eraill hefyd yn cymryd rhan ac yn rhan o'r gymuned ymarfer i rannu gwybodaeth ac arfer da a chael eu briffio am fentrau presennol yn genedlaethol ac yn y Brifysgol.
g) Mae cyfathrebiadau â staff yn egluro'r gofyniad i gwblhau hyfforddiant gorfodol a datblygiad proffesiynol parhaus perthnasol arall.
5.3
Cyfrifoldebau Manwl:
Mae Cydlynwyr Anabledd Academaidd yn aelodau academaidd o staff sy'n gyfrifol am sicrhau bod staff academaidd a gweinyddol perthnasol yn ymwybodol o anghenion cymorth y myfyriwr ac am gydlynu cymorth yn y Gyfadran. Maent hefyd yn gyfrifol am gysylltu â'r Gwasanaeth Lles ac Anabledd yn ôl yr angen ynghylch priodoldeb addasiadau rhesymol unigol.
Mae Tîm y Gwasanaethau Addysg yn aelodau staff gwasanaethau proffesiynol sy'n gyfrifol am roi cymorth gweinyddol i'r Cydlynwyr Anabledd Academaidd trwy ddirprwyo tasgau. Mae'r cyfrifoldeb cyffredinol am y swyddogaeth yn parhau gyda'r Cydlynydd Anabledd Academaidd. (Gweler hefyd Canllawiau ar Addasiadau Rhesymol.)
Mae staff academaidd (a ddiffinnir fel Darlithydd, Uwchddarlithydd, Athro Cysylltiol, Athro) yn gyfrifol am bennu a gweithredu addasiadau rhesymol cyffredin yn unol â'r polisi hwn. Mae gan staff academaidd ddyletswydd i hysbysu'r Hwb am unrhyw addasiadau rhesymol fel y gellir cynnig rhagor o gymorth ac arweiniad i'r myfyriwr.
Mae'r holl Staff Addysgu yn gyfrifol am weithredu addasiadau rhesymol perthnasol a nodwyd ar brofforma'r myfyriwr. Mae Cydlynwyr Modiwlau yn gyfrifol am wirio pa fyfyrwyr ar y modiwl y mae arnynt angen addasiadau rhesymol a sicrhau bod staff sy'n addysgu ar y modiwl yn ymwybodol o ofynion y myfyrwyr hyn. (Mae'r wybodaeth hon ar gael drwy adroddiadau ar System Rheoli Anableddau Ar-lein y Gyfadran/Ysgol).
Mae Goruchwylwyr Ymchwil Ôl-raddedig, arweinwyr Ymchwil Ôl-raddedig y Gyfadran a'r Ysgol a staff gwasanaeth proffesiynol y Swyddfa Ymchwil Ôl-raddedig yn gyfrifol am bennu a gweithredu unrhyw addasiadau rhesymol mewn perthynas ag arholiadau llafar Ymchwil Ôl-raddedig.
Mae pob aelod o staff yn gyfrifol am ymgymryd â hyfforddiant i sicrhau ei fod yn ymwybodol o'i ddyletswydd o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 ac yn teimlo ei fod yn gallu cael sgyrsiau tosturiol â myfyrwyr ac adnabod arwyddion anabledd/anawsterau parhaus a allai effeithio ar astudiaethau.
Mae Penaethiaid Unedau Academaidd yn gyfrifol am sicrhau bod Cydlynwyr Anabledd Academaidd ar gael yn yr adran ac am iechyd a diogelwch myfyrwyr anabl. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod Cynllun Personol Dianc mewn Argyfwng yn cael ei ddarparu i unrhyw fyfyriwr anabl y mae arno ei angen. Mae Penaethiaid Unedau Academaidd hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod dulliau rhagddyfalus yn cael eu cytuno'n flynyddol a bod dulliau cynhwysol ac addasiadau rhesymol ar waith ar gyfer asesiadau a drefnir mewn rhaglenni a addysgir o fewn eu cylch gwaith, gan gynnwys profion yn y dosbarth.
Mae Cyfarwyddwyr Rhaglenni yn gyfrifol am adolygu cwricwlwm eu rhaglenni a nodi dulliau cynhwysol priodol, gan gynnwys tynnu sylw at unrhyw asesiad o safonau cymhwysedd nad ydyw o bosibl yn destun addasiadau rhesymol oherwydd gofynion y Cyrff Proffesiynol, Statudol a Rheoleiddiol. Yn ogystal, maent yn gyfrifol am sicrhau bod deunyddiau ac arferion dysgu ac addysgu yn eu hadran yn hygyrch ac yn diwallu anghenion myfyrwyr anabl a nodwyd. Yn olaf, maent yn gyfrifol am sicrhau bod eu staff yn ymwybodol o'r polisi hwn.
Mae'r Cyfarwyddwr Ystadau yn gyfrifol am sicrhau bod campws y Brifysgol, gan gynnwys holl adeiladau'r Brifysgol, yn hygyrch yn ffisegol a bod offer hygyrchedd a dodrefn ergonomig yn cael eu rheoli'n effeithiol. Mae hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod gwasanaethau’r campws, fel parcio ac arlwyo, yn hygyrch.
Mae'r Uwch dîm Arweinyddiaeth yn gyfrifol am strategaeth y Brifysgol o ran myfyrwyr ag anableddau, gan sicrhau cydymffurfiaeth â Deddf Cydraddoldeb 2010 a rheoleiddio'r adnoddau cysylltiedig i ariannu cymorth i fyfyrwyr anabl.
Mae’r Gwasanaethau Lles ac Anabledd yn gyfrifol am gynnal deunyddiau hyfforddi, rheoli'r broses ddatgelu a chanllawiau perthnasol, a darparu argymhellion ar gyfer Addasiadau Rhesymol ar gyfer dysgu, addysgu ac asesu i'r aelod staff academaidd priodol a/neu’r deiliad rôl priodol.
Mae'r Swyddfa Arholiadau yn gyfrifol am gydlynu a rheoli gofynion arholiadau ar gyfer arholiadau wyneb yn wyneb.
5.4
Cyfrifoldebau'r Myfyriwr:
a) Datgelu anabledd a/neu gyflwr meddygol cyn gynted â phosibl.
b) Cofrestru gyda'r gwasanaeth priodol a sicrhau bod cymorth priodol ar waith cyn gynted â phosibl yn y flwyddyn academaidd.
c) Rhoi manylion cyswllt cyfredol i'r Brifysgol, cadw apwyntiadau, cyrraedd ar amser, a rhoi gwybod i wasanaethau cyn gynted â phosibl os nad oes modd mynd.
d) Rhannu â’r Brifysgol wybodaeth sydd ar gael sy'n ymwneud â'u hanabledd/cyflwr meddygol e.e. tystiolaeth feddygol a/neu asesiad seicolegydd addysgol a/neu asesiad o angen.
e) Yn achos myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig (PGR), hysbysu'r goruchwyliwr/Swyddfa Ymchwil Ôl-raddedig am ofyniad am addasiadau rhesymol ar gyfer yr arholiad llafar o leiaf fis cyn dyddiad yr arholiad llafar.
f) Rhoi gwybod i'r Brifysgol am unrhyw newidiadau i amgylchiadau a allai effeithio ar lefel y cymorth y mae ei angen.
g) Cael mynediad at y cymorth a argymhellir a manteisio arno.
h) Cymryd cyfrifoldeb am reoli astudiaethau unwaith y bydd cymorth addas wedi'i roi ar waith.
i) Rhoi adborth ar brofiadau i wella gwasanaeth ac arferion. (Rhagor o wybodaeth ar gael yn Siarter Myfyrwyr - Prifysgol Abertawe.)
j) Trin staff gwasanaethau â pharch yn unol â rheoliadau a chodau ymddygiad y Brifysgol.