Pholisi Asesu, Marcio ac Adborth
Egwyddorion Canllaw
Mae’r polisi hwn yn cyd-fynd â Strategaeth Dysgu ac Addysgu Prifysgol Abertawe.* Yn benodol, ei nod yw gwella effeithiolrwydd dulliau asesu ac adborth i staff a myfyrwyr drwy bennu egwyddorion clir a phendant sy'n arwain ymarfer. Mae’r egwyddorion hyn yn deillio o ymchwil academaidd ac o Gôd Ansawdd yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch (QAA): Asesu. Mae canllawiau manwl ar asesu ac adborth i staff ar gael yng Nghôd Ymarfer Dysgu, Addysgu ac Asesu y Brifysgol.
Mae’r egwyddorion canllaw a amlinellir isod yn cynrychioli’r gwaelodlin ar gyfer sicrhau ansawdd a safonau asesu ac adborth a dyfarniadau ym Mhrifysgol Abertawe. Gall cyfadrannau ddewis gwneud mwy na’r gwaelodlin hyn ar sail gwella ymarfer effeithiol.
* Mae'r Polisi hefyd yn cael ei lywio gan y canlynol ar gyfer myfyrwyr a staff Deddf Cydraddoldeb 2010: canllawiau - GOV.UK.
1. Mae dulliau asesu yn cyd-fynd â deilliannau dysgu bwriedig a dulliau addysgu |
|
Beth y mae hyn yn ei olygu i’r myfyrwyr |
|
Beth y mae hyn yn ei olygu i’r staff |
|
Sut y gellir gweithredu hyn |
|
2. Mae dulliau asesu mewn rhaglenni yn amrywio ac maent yn defnyddio amrywiaeth o wahanol ddulliau i hyrwyddo hygyrchedd ac i sicrhau y caiff sgiliau a gwybodaeth berthnasol eu datblygu |
|
Beth y mae hyn yn ei olygu i’r myfyrwyr |
|
Beth y mae hyn yn ei olygu i’r staff |
|
Sut y gellir gweithredu hyn | |
3. Mae asesu’n gynhwysol ac yn deg |
|
Beth y mae hyn yn ei olygu i’r myfyrwyr |
|
Beth y mae hyn yn ei olygu i’r staff |
|
Sut y gellir gweithredu hyn | |
4. Mae dulliau asesu ac adborth/blaenborth yn effeithiol, yn deg ac yn amserol |
|
Beth y mae hyn yn ei olygu i’r myfyrwyr |
|
Beth y mae hyn yn ei olygu i’r staff |
*Pryd bynnag y bo’n bosib, bydd yr holl feini prawf asesu yn cael eu darparu’n ddwyieithog, ac fel isafswm i unrhyw fyfyriwr sy’n dilyn modiwl drwy gyfrwng y Gymraeg neu unrhyw fyfyriwr ar fodiwl di-Gymraeg sy’n dewis arfer ei hawl i gyflwyno gwaith ysgrifenedig yn Gymraeg fel rhan o asesiad neu arholiad, yn unol â phrosesau cytunedig y Brifysgol. ** Mae 'Marciau wedi'u Cymedroli' ar y cam hwn cyfeirio at farciau sydd wedi bod yn ddarostyngedig i'r Broses Gymedroli ond sydd heb eu cadarnhau gan y Berdd Arholi eto. |
Sut y gellir gweithredu hyn | |
5. Mae asesu'n ddilys, yn gadarn ac yn annog uniondeb academaiddv |
|
Beth y mae hyn yn ei olygu i’r myfyrwyr |
|
Beth y mae hyn yn ei olygu i’r staff |
|
Sut y gellir gweithredu hyn | |
6. Mae asesu ac adborth yn effeithiol ac yn hawdd i’w rheoli (i bawb) |
|
Beth y mae hyn yn ei olygu i’r myfyrwyr |
|
Beth y mae hyn yn ei olygu i’r staff |
|
Sut y gellir gweithredu hyn | |
7. Mae'r asesiad wedi'i gynllunio i ystyried Deallusrwydd Artiffisial (AI) |
|
Beth mae hyn yn ei olygu i fyfyrwyr |
Bydd myfyrwyr yn dilyn y canllawiau ar pryd y gallant, ac na allant, ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial mewn Asesiadau.
|
Beth mae hyn yn ei olygu i staff |
Bydd staff yn gweithio mewn partneriaeth â myfyrwyr i ddatblygu llythrennedd Deallusrwydd Artiffisial a chefnogi myfyrwyr i ddefnyddio offer Deallusrwydd Artiffisial cynhyrchiol yn effeithiol ac yn briodol yn eu profiad dysgu.
|
Sut y gellir gweithredu hyn |
1. Dylunio, Amserlennu a Chyflwyno Asesiadau
1.1 Dyluniad Asesu Cynhwysol ac wedi’i Alinio
Rhaid i asesiad gyd-fynd yn adeiladol â deilliannau dysgu bwriedig rhaglenni a modiwlau. Dylai fod wedi’i gynllunio i gefnogi dysgu dwfn, darparu tystiolaeth ystyrlon o gyflawniad myfyrwyr ac adlewyrchu anghenion a chyd-destunau amrywiol myfyrwyr. Bydd dyluniad asesu effeithiol yn:
- Sicrhau ei fod yn cyd-fynd â deilliannau dysgu clir, penodol a darparu dangosyddion mesuradwy o gyflawniad myfyrwyr.
- Cefnogi cynhwysiant drwy ymwreiddio egwyddorion Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu a sicrhau hygyrchedd o'r cychwyn cyntaf.
- Cynnwys addasiadau rhesymol a threfniadau asesu amgen lle bo angen.
- Ystyried nodweddion gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, gan ymgorffori safbwyntiau diwylliannol amrywiol a phrofiadau bywyd i sicrhau bod asesiadau'n deg ac yn berthnasol i bob myfyriwr.
Ymarfer asesu dibynadwy, teg a dilys
Rhaid i arferion asesu sicrhau uniondeb, tegwch a safonau academaidd. Dylent roi hyder bod perfformiad pob myfyriwr yn cael ei farnu'n gywir ac yn deg. Bydd ymarfer asesu cadarn:
- Yn defnyddio prosesau cymedroli a sicrhau ansawdd mewnol ac allanol trwyadl i sicrhau cysondeb a thegwch.
- Yn ddilys, gan sicrhau mai’r myfyriwr ei hun sy’n cwblhau'r gwaith, a bod y dasg yn wirioneddol asesu'r wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth y mae'n honni eu mesur.
- Yn cael ei gynllunio gyda Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol mewn golwg, gan leihau cyfleoedd ar gyfer camddefnyddio drwy ganolbwyntio ar feddwl ar lefel uwch ac asesu seiliedig ar broses lle bo’n briodol.
- Adolygu a diwygio strategaethau asesu yn rheolaidd yn seiliedig ar adborth gan fyfyrwyr, staff ac arholwyr allanol i sicrhau gwelliant parhaus a chadw at arferion gorau.
- Cynnwys asesiad ffurfiannol effeithiol ac adborth amserol i gefnogi dysgu a hunan-ddatblygiad.
- Osgoi ailddefnyddio papurau arholiad oni bai eu bod yn cael eu rheoli'n briodol trwy fanc cwestiynau gyda mesurau diogelu.
Rhaid i bob asesiad gael ei gynllunio i fod yn gadarn ac yn ddiogel bob amser, gyda chyfarwyddyd clir i fyfyrwyr ar y defnydd priodol o Ddeallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol o fewn asesiad, er mwyn sicrhau uniondeb academaidd (am wybodaeth ychwanegol am ddiogelwch arholiadau, gweler adran 1.8).
1.2 Amserlennu Asesiadau
Bydd amserlen asesu rhaglen (neu faes pwnc) ar gyfer asesiadau ym mhob modiwl[1] (pob asesiad crynodol ac unrhyw asesiad ffurfiannol wedi’i drefnu) yn cael ei darparu i bob myfyriwr cyn gynted ag y bo modd bob Semester mewn fformat priodol a hygyrch. Mae hyn er mwyn sicrhau amrywiaeth asesu, a bod asesiad ffurfiannol rheolaidd ac asesiad cyfunol effeithiol yn gytbwys ac nad ydynt yn gorlwytho myfyrwyr a staff. Bydd yr amserlen yn nodi dyddiadau cyflwyno a dulliau cyflwyno asesiadau, cyfnodau arholiadau, pwysoliad pob dull asesu, dulliau marcio a’r dyddiad y gall myfyrwyr ddisgwyl marciau dros dro ac adborth. Bydd Cynrychiolwyr y Myfyrwyr yn cael cyfle i drafod yr amserlen yng nghyfarfod cyntaf Fforwm y Myfyrwyr a’r Staff bob semester. Rhoddir ystyriaeth briodol i hyrwyddo lles myfyrwyr a staff drwy amserlennu asesiadau a chyfnodau marcio.
Amserlennir yr asesiadau at ddiben gwasgaru'r dyddiadau cyflwyno drwy gydol y flwyddyn academaidd, ac o amgylch y cyfnodau arholiadau diffiniedig, ar draws y rhaglen er mwyn osgoi cael sawl dyddiad cyflwyno ar yr un pryd[2]. Wrth amserlennu asesiadau, rhaid gofalu hefyd fod ystyriaeth briodol yn cael ei rhoi yn benodol i gydnabod gwyliau a defodau crefyddol pwysig, pryd bynnag y bo'n bosibl.
Lle bo hynny’n bosib, bydd asesiadau’n cael eu hamserlennu i sicrhau y gall myfyrwyr ddefnyddio adborth/blaenborth a gafwyd ymhob asesiad fel sail i ddatblygu eu hasesiad perthnasol nesaf. Ni ddylid gosod dyddiadau cau i gyflwyno asesiadau yn ystod cyfnodau cau'r Brifysgol (gan gynnwys y tu allan i oriau swyddfa) na chyfnodau gwyliau dynodedig i sicrhau y gall myfyrwyr gael gafael ar gymorth, yn enwedig wrth gyflwyno.[3] Ni fydd dyddiadau cau i gyflwyno asesiadau ar gyfer rhaglenni a gyflwynir ar y cyd â sefydliad partner yn cael eu gosod ar gyfer cyfnodau cau'r sefydliad partner a bydd yr amseroedd cyflwyno yn ystyried gwahaniaethau mewn parthau amser.
Nid yw asesiadau parhaus yn cael eu hamserlennu na’u cyflwyno yn ystod Cyfnodau Arholiadau diffiniedig y Brifysgol fel arfer pan fo gan y myfyrwyr arholiadau ffurfiol, cyfyngedig eu hamser ac wedi’u trefnu dros gyfnod o sawl diwrnod, er mwyn osgoi gorlwytho’r myfyrwyr. Rhaid i unrhyw wyriadau o'r sefyllfa hon gael eu cytuno ymlaen llaw gan y Deon Cyswllt Addysg a Chynrychiolwyr Myfyrwyr perthnasol.
Pan nad oes unrhyw fyfyrwyr yn y garfan (gan gynnwys myfyrwyr Cyd-Anrhydedd) yn cael eu heffeithio (h.y. nid oes ganddynt arholiadau wedi'u hamserlennu), yna gellir gosod terfynau amser asesu parhaus o fewn cyfnodau arholiadau diffiniedig.
[1] Bydd dyddiadau’r cyfnodau arholiadau ar gael, ond bydd dyddiadau arholiadau unigol o fewn y cyfnodau hyn yn cael eu darparu yn nes at y cyfnod arholiadau.
[2] Yn dibynnu ar yr ystod o fodiwlau opsiynol a ddewisir, efallai na fydd yn bosib osgoi cael rhai dyddiadau sy’n agos at ei gilydd. Dylid hysybsu myfyrwyr o ddyddiadau’r asesiadau ar ddechrau pob semester, a gallant ddewis newid eu modiwlau ar yr adeg honno.
[3] Ac eithrio asesiadau atodol a rhai asesiadau gohiriedig.
1.3 Cyflwyno Asesu Parhaus
Fel arfer, bydd asesiadau parhaus yn cael eu cyflwyno ar ffurf electronig drwy'r Platfform Dysgu Digidol (DLP) neu systemau eraill a gymeradwywyd gan y Brifysgol (e.e. PebblePad) i wella hygyrchedd, effeithlonrwydd a chynaliadwyedd asesu. Fel rheol, bydd pob myfyriwr yn derbyn cadarnhad ei fod wedi cyflwyno’n llwyddiannus (drwy’r Platfform Dysgu Digidol os yw wedi cyflwyno’n electronig).
Pan fydd angen cyflwyno gwaith ar ffurf amgen, gellir gofyn am eithriad gan Arweinydd Addysg yr Ysgol.Ym mhob achos, bydd Y Gyfadran/Ysgol/Adran yn sicrhau bod y myfyrwyr yn ymwybodol o’r dull cyflwyno ymlaen llaw. Ni ddylai fod yn ofynnol i fyfyrwyr dalu i argraffu ar gyfer cyflwyno copi caled gofynnol.
Unwaith y bydd yr asesiadau wedi’u cyflwyno a’r dyddiad cyflwyno wedi mynd heibio, ni chaiff myfyrwyr wneud unrhyw newidiadau i’w gwaith asesedig. Cyfrifoldeb y myfyriwr yw sicrhau bod unrhyw waith wedi’i gwblhau a’i wirio cyn ei gyflwyno. Gall myfyrwyr gyflwyno asesiadau hyd at y dyddiad cyflwyno a disodli unrhyw gyflwyniadau blaenorol lle bo angen.
Cymerir mai’r myfyriwr y mae ei rif adnabod myfyriwr ynghlwm wrth y gwaith a gyflwynwyd sydd wedi ysgrifennu’r gwaith a’i fod yn datgan mai ei waith ef neu hi ydyw a’i fod yn cyfeirio a chydnabod gwaith eraill yn llawn. Hefyd, ni chaiff myfyrwyr gyflwyno gwaith ar ran myfyriwr arall, oni bai bod myfyriwr yn cyflwyno asesiad ar ran grŵp.
Gall myfyrwyr sydd wedi gwneud datganiadau ffug fod yn destun gweithdrefnau Camymddygiad Academaidd.
Fel arfer, ystyrir bod eiddo deallusol y gwaith asesedig a gyflwynwyd yn eiddo i’r myfyriwr, ac eithrio pan gaiff ei ddiffinio’n benodol drwy drefniadau contractiol. Gweler Polisi Eiddo Deallusol Myfyrwyr y Brifysgol am ragor o wybodaeth.
1.4 Asesiadau Atodol
Dim ond myfyrwyr sy’n methu modiwlau neu asesiadau gorfodol a all gael caniatâd gan Bwyllgor priodol y Brifysgol neu Gyfadran/Ysgol neu Bartneriaeth, Bwrdd Arholi neu Ddilyniant a Dyfarniadau i gyflwyno asesiad(au) atodol, yn unol â’r rheoliadau asesu perthnasol. Gall unrhyw ailgyflwyniadau gael eu capio yn unol â rheoliadau asesu perthnasol y rhaglen.
Fel arfer, bydd Asesiadau Parhaus Atodol yn ddarn o waith newydd, oni bai y bydd y Gyfadran/Ysgol/Bartneriaeth yn cytuno’n benodol bod modd ailgyflwyno’r asesiad gwreiddiol (er enghraifft, traethawd hir neu brosiectau estynedig).
Ni chaniateir i fyfyrwyr ailadrodd unrhyw fodiwlau (na chydrannau asesu lle bo hynny’n berthnasol) y dyfarnwyd marc llwyddo ynddynt.
Dylai myfyrwyr sy'n cael unrhyw broblemau gyfeirio at y Polisïau 'Digon Iach i Sefyll' asesiad a/neu Amgylchiadau Esgusodol am ragor o wybodaeth.
1.5 Cosbau am Gyflwyno'n Hwyr
Caiff unrhyw fyfyriwr a fydd yn cyflwyno asesiad ar ôl y dyddiad cyflwyno heb gyflwyno cais am Amgylchiadau Esgusodol (yn unol â’r Polisi Amgylchiadau Esgusodol) ei ystyried yn fyfyriwr heb gyflwyno a bydd yn derbyn marc o 0% am yr asesiad (oni bai y nodir yn wahanol yn y Llawlyfr Myfyrwyr). Ni fydd asesiadau a gyflwynir ar ôl y dyddiad cyflwyno heb Amgylchiadau Esgusodol yn cael eu marcio ac ni fydd y myfyrwyr yn derbyn adborth.Dylai myfyrwyr sy’n debygol o gael eu hatal rhag cadw at y dyddiad cyflwyno yn sgîl amgylchiadau esgusodol hysbysu eu Cyfadran/Ysgol/Prifysgol/Partneriaeth cyn gynted â phosib a chyn y dyddiad cau i gyflwyno’r asesiad lle bo hynny’n bosib. Gweler y Polisi Amgylchiadau Esgusodol am ragor o wybodaeth. Gellir rhoi dyddiadau cau amgen i fyfyrwyr sy'n cael addasiadau rhesymol, os cytunir arnynt fel rhan o'u haddasiadau rhesymol.
1.6 Cosbau am Gyflwyno Gwaith sy’n torri Paramedrau Diffiniedig (e.e. Terfyn Geiriau)
Mae’n rhaid datgan paramedrau asesu yn glir (gan gynnwys terfynau amser/geiriau) ar yr holl wybodaeth am yr aseiniad/arholiad ac ar y tudalennau Canvas priodol.
Mae'n ofynnol i fyfyrwyr gadw at y paramedrau diffiniedig uchaf) a dylent nodi gwybodaeth berthnasol ar gyfer eu haseiniad/harholiad yn y gofod a ddarperir ar adeg cyflwyno. Ar gyfer asesiadau sy'n torri'r paramedrau diffiniedig, bydd marcwyr yn rhoi'r gorau i farcio wrth gyrraedd terfyn uchaf a ganiateir.
Sylwer na ddylai cyfrifiadau geiriau gynnwys taflenni blaen, troednodiadau llyfryddiaethol, na llyfryddiaethau oni nodir yn y cyfarwyddyd asesu.
Ni fydd unrhyw waith a gyflwynir yn Gymraeg, neu'r iaith addysgu gytunedig ar gyfer rhaglenni cydweithredol, sy’n cael ei gyfieithu fel dewis olaf er mwyn ei farcio yn cael ei gosbi os yw’r cyfieithiad yn torri’r paramedrau asesu, lle’r oedd y cyflwyniad gwreiddiol o fewn y paramedrau diffiniedig.
1.7 Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial (AI) mewn Asesiad Myfyrwyr
1.7.1 Defnydd moesegol o Ddeallusrwydd Artiffisial
Rhaid i holl ddefnyddwyr cymwysiadau Deallusrwydd Artiffisial yn y Brifysgol lynu wrth egwyddorion moesegol, gan barchu hawliau dynol, preifatrwydd a diogelu data.
Dylai’r defnydd o Ddeallusrwydd Artiffisial gyd-fynd â chenhadaeth, gwerthoedd a nodau academaidd y Brifysgol, gan gefnogi swyddogaethau addysgu, dysgu, ymchwil a gweinyddu.
Ni ddylai ymagweddau sy'n cynnwys defnyddio systemau Deallusrwydd Artiffisial wahaniaethu yn erbyn unigolion neu grwpiau ar sail nodweddion sy'n cael eu gwarchod gan y gyfraith, megis hil, rhywedd, ethnigrwydd, crefydd, anabledd neu statws economaidd-gymdeithasol.
Ni chaniateir i staff a myfyrwyr gyflwyno gwaith a gwblhawyd gan gymwysiadau Deallusrwydd Artiffisial fel eu gwaith eu hunain heb gydnabod y ffaith.
1.7.2 Tryloywder, Cywirdeb, Tegwch a Rhagfarn
Microsoft Co-Pilot ar hyn o bryd yw'r unig blatfform Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol a gymeradwywyd gan y Brifysgol. Dylai fod gan ddefnyddwyr ddealltwriaeth glir o sut mae systemau Deallusrwydd Artiffisial yn gwneud penderfyniadau a'r algorithmau sylfaenol sy'n cael eu defnyddio, gan gynnwys y risgiau, y cyfyngiadau a'r biasau yn yr algorithmau hynny.
Rhaid i ddefnyddwyr bob amser wirio cywirdeb canlyniadau a gynhyrchir gan offer Deallusrwydd Artiffisial cynhyrchiol mewn asesiad.
1.7.3 Llywodraethu Data, Preifatrwydd ac Eiddo Deallusol
Rhaid i unrhyw ddefnydd o gymwysiadau Deallusrwydd Artiffisial gydymffurfio â’r Rheoliadau Cyffredinol ar Ddiogelu Data perthnasol (GDPR).
Ni ddylai staff na myfyrwyr fewnbynnu gwybodaeth personol i unrhyw gymhwysiad Deallusrwydd Artiffisial.
Dylid ceisio'r caniatâd priodol cyn caffael unrhyw ddata sy'n cael ei gasglu a/neu ei ddadansoddi gan systemau Deallusrwydd Artiffisial i sicrhau preifatrwydd a chyfrinachedd.
Ni chaniateir i staff na myfyrwyr lanlwytho asesiad myfyriwr neu unrhyw ddata adnabyddadwy heb ganiatâd ysgrifenedig penodol, i gymwysiadau Deallusrwydd Artiffisial am unrhyw reswm (gan gynnwys ymdrechion i wirio am gynnwys sydd wedi'i gynhyrchu gan Ddeallusrwydd Artiffisial).
1.7.4 Dylunio Asesiad a Chynnal Safonau Academaidd
Bydd y Brifysgol yn galluogi defnyddio cymwysiadau Deallusrwydd Artiffisial mewn asesiad lle mae hyn yn briodol ac yn berthnasol i wella dysgu myfyrwyr, gan ei gwneud yn glir i fyfyrwyr pryd y gallant, ac na allant, ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial mewn asesiad, drwy Dempled Aseiniad clir.
Dylunnir asesiadau i sicrhau bod uniondeb a safonau'n cael eu cynnal pan fydd gan fyfyrwyr fynediad at Ddeallusrwydd Artiffisial cynhyrchiol, heb aberthu pwysigrwydd na dilysrwydd asesu ac arfer addysgegol.
Mae'r Polisi Asesu, Marcio ac Adborth hwn, Polisi Prawfddarllen a Gweithdrefn Camymddwyn Academaidd y Brifysgol yn cyfeirio at ddefnydd priodol o Ddeallusrwydd Artiffisial mewn asesiad, gan esbonio risgiau a chanlyniadau defnydd amhriodol i fyfyrwyr.
1.8 Diogelwch Arholiadau
Mae pob arholiad Prifysgol yn cael ei lywodraethu gan y rheoliadau canlynol:
Ar gyfer Arholiadau yn y Cnawd:
Rheoliadau a Gweithdrefnau ar gyfer Cynnal Arholiadau - Prifysgol Abertawe.
Rhaid i bob arholiad yn y cnawd fod yn ddarostyngedig i fesurau diogelwch priodol i sicrhau uniondeb academaidd.
Ar gyfer Arholiadau ar-lein:
Polisi ar gyfer Arholiadau/Asesiadau Ar-lein - Prifysgol Abertawe
Rhaid i bob arholiad ar-lein fod yn destun mesurau diogelwch priodol i sicrhau uniondeb academaidd.
2. Marcio, Cymedroli a Rhyddhau Marciau
Darllenwch yr adran hon ar y cyd â’r Côd Ymarfer Dysgu, Addysgu ac Asesu: Dulliau Asesu a Darparu Adborth Cynhwysol ac unrhyw arweiniad penodol ar gyfer Partneriaid Cydweithredol.
2.1 Marcio Gwaith Asesedig
Rhaid i’r holl asesiadau fod â Meini Marcio clir, a fydd yn pennu sut y caiff pob asesiad ei farcio, a rhaid iddynt gael eu cyhoeddi i fyfyrwyr cyn yr asesiad a’i gwneud hi'n bosib defnyddio'r marciau dros yr ystod lawn (0-100), y gellir eu defnyddio mewn dull marcio cam wrth gam. Dylai Cyfadrannau ddefnyddio'r Templedi Aseiniad Canvas (neu gyfwerth) y cytunwyd arnynt a dull marcio seiliedig ar gyfarwyddyd lle bo hynny'n briodol.
Rhaid i farcwyr osgoi defnyddio marciau sy'n gorffen gyda '9' (29/39/49/59/69 ac ati) er mwyn osgoi problemau sy'n ymwneud â chamddosbarthu, aneffeithlonrwydd penderfyniadau a risgiau posibl i fyfyrwyr o ran cynnydd a deilliannau'r Brifysgol, gan gynnwys cyflymder ymadael ac egwyddorion mwyafrif. Cyfeiriwch at y canllawiau yn y Cod Ymarfer Dysgu, Addysgu ac Asesu.*
*Pan fo’n ofynnol yn benodol gan unrhyw Gorff Proffesiynol, Statudol neu Reoleiddio, efallai y bydd rhai rhaglenni wedi'u heithrio.
Rhaid i bob asesiad ac arholiad gael ei farcio gan staff academaidd neu** berthynol sydd wedi derbyn hyfforddiant priodol ar gyfer marcio, cynwysoldeb a rhagfarn ddiarwybod, ac sy’n gyfarwydd â deilliannau dysgu’r rhaglen a'r modiwl, y canllawiau marcio a meini prawf yr asesu. Gall Myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig sy’n Uwch-gynorthwywyr Addysgu/yn Gynorthwywyr Addysgu Graddedig fod yn farciwr cyntaf ar gyfer gwaith ar Lefelau 3, 4 a 5, a bod yn ail farciwr ar gyfer Lefelau 6 a 7, ar yr amod eu bod nhw wedi derbyn hyfforddiant sydd gyfwerth â hyfforddiant staff academaidd a'u bod yn cael eu cymedroli a'u goruchwylio'n agos gan staff academaidd. Ni chaiff Arddangoswyr Dysgu islaw'r lefel hon farcio asesiadau myfyrwyr yn ffurfiol.
**Gall ‘staff cysylltiedig’ gynnwys clinigwyr a chydweithwyr allanol eraill, gan gynnwys staff mewn sefydliadau partner a gweithwyr cymorth staff, lle bo hynny'n briodol, ar yr amod bod gofynion perthnasol y Brifysgol ar gyfer marcio yn cael eu dilyn.
Wrth farcio, rhaid i'r holl farcwyr fod yn gwbl ymwybodol o fyfyrwyr sydd â gofynion dysgu penodol ac addasiadau rhesymol, a sicrhau y rhoir ystyriaeth briodol ohonynt.
Bydd Cyfadrannau/Ysgolion yn sicrhau bod eu gweithdrefnau marcio yn glir a hygyrch i’r holl fyfyrwyr.
Bydd marciau wedi’u cymedroli dros dro ac*** adborth ar gyfer asesu parhaus fel arfer yn cael eu rhyddhau i fyfyrwyr o fewn uchafswm o 15 niwrnod gwaith o’r dyddiad cyflwyno, oni nodir yn wahanol****. Bydd unrhyw newidiadau i'r amserlen hon yn cael eu cyfleu'n effeithiol i'r holl fyfyrwyr.
***At ddibenion y Polisi hwn, diffinnir 'Diwrnodau Gwaith' fel dydd Llun i ddydd Gwener, ac eithrio Gwyliau Cyhoeddus a chyfnodau pan fydd y Brifysgol neu ei sefydliadau partner ar gau.
****Lle y gallai fod angen addasiadau rhesymol i gefnogi staff academaidd, cytunir ar y rhain gyda Rheolwyr Llinell a Deoniaid Cysylltiol Addysg. Rhagwelir o hyd y bydd addasiadau yn galluogi'r holl staff i gyflwyno marcio ac adborth o fewn yr amserlen o 15 diwrnod.
Ni chaniateir marcio negyddol mewn asesiad crynodol. Dylai marciau a ddyrannwyd adlewyrchu deilliannau dysgu a gyflawnwyd ac ni ddylid tynnu marciau am atebion anghywir.
2.2 Marcio Dienw
At ddibenion y polisi hwn, bydd myfyrwyr yn ddienw ac yn defnyddio eu rhif adnabod myfyriwr, ac ni chaiff enwau eu defnyddio wrth farcio lle bynnag y bo hynny’n bosib. Ni fydd staff yn cymryd unrhyw gamau i ganfod pwy yw’r myfyriwr drwy ei rif myfyriwr.
Bydd yr holl waith asesedig gan fyfyrwyr sy'n cael ei gyflwyno drwy'r Platfform Dysgu Digidol (DLP) yn cael ei farcio’n ddienw i sicrhau nad oes rhagfarn (boed yn ymwybodol neu’n ddiarwybod) wrth farcio. Dim ond rhif myfyriwr gaiff ei ddefnyddio mewn gwaith a gyflwynwyd y tu allan i'r DLP, neu lle mae angen dulliau marcio penodol (e.e. canllawiau marcio penodol neu farcio drwy gyfrwng y Gymraeg).
Mae eithriadau angenrheidiol i fod yn ddienw pan fydd asesiadau'n cynnwys elfennau 'personol' (gan gynnwys rhithwir), sy'n gallu cynnwys (heb fod yn gyfyngedig i) berfformiadau, gwaith ymarferol, cyflwyniadau, gwaith maes, lleoliadau, sgiliau clinigol a rhai asesiadau tîm neu grŵp.
Bydd Cyfadrannau/Ysgolion yn hysbysu myfyrwyr lle na fydd modd marcio asesiadau penodol yn ddienw.
2.3 Datgelu Enwau
Ni chaiff enwau myfyrwyr eu defnyddio wrth farcio, ac am gyhyd ag sy'n rhesymol ymarferol ar ôl hynny. Mae'r Brifysgol yn cydnabod:
- Ei bod yn bosibl na fydd cadw marciau'n ddienw bob amser yn cadw enw'r myfyriwr yn ddienw;
- Y gall fod angen i adnabod gwaith myfyrwyr sydd wedi cyflwyno cais am amgylchiadau esgusodol, neu addasiadau rhesymol, er mwyn ystyried pa gamau pellach sydd angen eu cymryd;
- Nid yw anhysbysrwydd yn cael ei gynnal ar gyfer penderfyniadau cynnydd a dosbarthiadau gradd terfynol.
2.4 Gwrthdaro Buddiannau wrth Farcio
Er gwaethaf y defnydd o farcio dienw, mae sefyllfaoedd lle gallai staff weld fod ganddynt achos o wrthdaro buddiannau wrth farcio. Rhaid i staff ddatgan unrhyw wrthdaro buddiannau posib i sicrhau y caiff myfyrwyr eu trin yn deg ac nad yw staff yn teimlo dan ormod o bwysau. Os bydd staff yn canfod eu bod yn marcio gwaith myfyrwyr maent wedi cael perthynas flaenorol â nhw, rhaid iddynt ddatgan gwrthdaro buddiannau, gan ddilyn y broses Gwrthdaro Buddiannau wrth Farcio.
Gall Cyfadrannau/Ysgolion/Partneriaethau gynnal Byrddau Arholi ar Lefel Pwnc naill ai'n ddienw neu yn ôl enw. Ni fydd Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau’r Brifysgol yn ddienw a chaiff ei gynnal yn ôl enw.
2.5 Asesu Annarllenadwy
Mae gan fyfyrwyr gyfrifoldeb i sicrhau bod modd darllen eu gwaith asesedig. Os nad oes rhan o'r gwaith yn ddarllenadwy, neu fod y gwaith cyfan yn annarllenadwy, nid oes modd ei ddarllen yn llawn a bydd hyn yn cael effaith ar farc terfynol y gwaith asesedig. Yn yr achos hwn, gall y Gyfadran gymryd un o'r tri cham canlynol:
a) Mewn achosion lle byddai darllen yr asesiad annarllenadwy yn cymryd amser afresymol i aelod staff academaidd, ac ni fyddai'n caniatáu i'r cynnwys gael ei ystyried yn briodol, gall y Gyfadran ddewis defnyddio gwasanaeth trawsgrifio, a mynnu i'r myfyriwr dalu'r costau;
b) Mewn achos lle mae'r asesiad yn gwbl amhosibl i'w ddarllen, mynnir i'r ymgeisydd ddod i'r campws i ddarllen y cynnwys i drydydd parti ym mhresenoldeb goruchwyliwr. Disgwylir i'r myfyriwr dalu am y gwasanaeth hwn;
c) Os nad yw un o'r ddau opsiwn hyn yn berthnasol, mae'r sefydliad yn cadw'r hawl i roi marc o 0%.
Mae'n ofynnol i'r Gyfadran/Ysgol, mewn cysylltiad â Bywyd Myfyrwyr, sicrhau bod digon o gymorth (fel arfer drwy Addasiadau Rhesymol neu Asesiadau Amgen pan fo angen) ar waith ar gyfer myfyrwyr sydd ag anawsterau dysgu penodol a ddatgelwyd neu ofynion cymorth addysgol penodol eraill a ddogfennwyd a allai effeithio ar gymhwysedd asesu, cyn unrhyw asesiad.
2.6 Cymedroli Marcio*
Mae cymedroli marcio (Marcio a Chymedroli Asesu) yn broses annibynnol ar wahân i farcio asesiadau, sy'n sicrhau bod canlyniadau asesu (marciau) yn deg, yn ddilys ac yn ddibynadwy, bod y meini prawf asesu wedi'u cymhwyso'n gyson, bod modd cydnabod unrhyw wahaniaeth o ran barn academaidd rhwng marcwyr unigol a mynd i'r afael â hynny, a bod yr adborth o safon uchel a chyson. Dylid hefyd adolygu marciau'r modiwl yn y Bwrdd Arholi.
Rhaid i weithdrefnau marcio a chymedroli fod yn glir, yn gyson, yn dryloyw a chael eu cyfathrebu'n effeithiol i fyfyrwyr.
Rhaid i gymedrolwyr beidio â bod yn rhan o farcio asesiad fel arall, ac fel arfer nid yw'n ofynnol iddynt wneud sylwadau manwl ar ddarnau unigol o asesiad. Disgwylir i gymedrolwyr wneud sylwadau cyffredinol ar y sampl marcio, ac awgrymu unrhyw newidiadau a argymhellir i farciau ar draws y garfan. Rhaid dangos tystiolaeth o gymedroli a'i gofnodi'n gyson. Dylid cofnodi cymedroli ar Ffurflen Gymedroli'r Brifysgol y cytunwyd arni neu drwy brosesau cymedroli cytunedig y sefydliad partner.
Fel disgwyliad sylfaenol, caiff cymedroli sampl ei gynnal ar asesiadau ar bob lefel (gan gynnwys traethodau hir Ôl-raddedig a Addysgir ac asesiadau atodol), ac eithrio dulliau asesu sy'n awtomatig (h.y. caiff yr atebion eu darllen gan beiriannau neu'n optegol), neu mewn asesiadau meintiol lle darperir atebion enghreifftiol i'r marciwr. Nid yw'r rhain yn cael eu cymedroli fel arfer ond mae'n bosib bydd angen eu gwirio am gywirdeb neu raddnod.
Mae cymedroli yn berthnasol i o leiaf sampl o bob elfen o'r asesiad, gan gynnwys samplau o waith sydd wedi methu a gwaith sy'n agos i'r ffin o ran methiannau a ddigolledir yn benodol (30% ar gyfer modiwlau israddedig a 40% ar gyfer modiwlau ôl-raddedig a addysgir). Rhaid i samplau ar gyfer cymedroli gynnwys o leiaf 10 sgript, a dylent gynnwys:
10% o gyfanswm yr asesiadau sy'n cynrychioli croestoriad o ddosbarthiadau, gan dalu sylw penodol i asesiadau sydd wedi methu a gwaith sy'n agos i ffiniau dosbarthiadau.
Ar gyfer modiwlau sydd â niferoedd isel (h.y. llai na 10 myfyriwr), bydd yr holl asesiadau'n cael eu cymedroli.
Rhaid cwblhau'r gwaith cymedroli cyn i farciau ac adborth dros dro gael eu rhyddhau i fyfyrwyr, ac anfonir asesiadau at Arholwyr Allanol i'w craffu, a darperir tystiolaeth i'r Arholwr Allanol ynghyd â samplau o'r gwaith wedi'i farcio a'i gymedroli.
Yn gyffredinol, bydd cymedroli sampl effeithiol yn cael gwared ar yr angen am farcio dwbl llawn sgriptiau. Fodd bynnag, efallai y bydd angen i asesiadau penodol a ddiffiniwyd gan y Gyfadran/Ysgol neu reoleiddiwr allanol fod yn destun Marcio Dwbl neu Ddwbl Ddall, a bydd yn rhaid dilyn y broses sefydledig ar gyfer cytuno ar farciau. Fel arfer, bydd ail farcio neu farcio dwbl dim ond yn angenrheidiol pan fydd cyrff Proffesiynol, Statudol neu Reoleiddio yn galw amdano, neu os nodwyd problemau o ran cysondeb marcio (gan gynnwys drwy'r broses gymedroli).
Gall Cyfadrannau ddewis rhagori ar y disgwyliad gwaelodlin a chynnal cymedroli ychwanegol, pan maent yn teimlo bod hyn yn angenrheidiol neu y gellir ei gyfiawnhau o ran ymdrech.
Rôl yr Arholwr Allanol wrth Farcio a Chymedroli
Ni ddylai Arholwyr Allanol, ar lefel israddedig neu ôl-raddedig a addysgir, ond goruchwylio'r broses gymedroli. Ni ddylent weithredu fel ailfarcwyr neu safonwyr eu hunain.
Pan fydd anghytundeb am farciau, disgwylir i Gyfadrannau/Ysgolion ddatrys anghydfod rhwng marcwyr drwy ddefnyddio trydydd marciwr neu gymedrolwr allanol pan fydd angen. Rhaid datrys problemau cyn cyflwyno'r gwaith i'r Arholwyr Allanol i'w adolygu.
Rhaid i'r Arholwyr Allanol perthnasol adolygu sampl o'r holl waith a farciwyd a'i gymedroli er mwyn sicrhau tegwch a chysondeb marcio.
Mae rhagor o wybodaeth am rôl yr Arholwyr Allanol wedi'i chyhoeddi yng Nghôd Ymarfer Arholwyr Allanol.
*Ar gyfer Cymedroli yn y lleoliad a dilysu asesiadau, gweler y Côd Ymarfer Dysgu, Addysgu ac Asesu.
2.7 Asesu yn Gymraeg
Mae Prifysgol Abertawe'n trin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal yn unol â Deddf yr Iaith Gymraeg. Mae gan bob myfyriwr yr hawl i ymgymryd ag asesiad yn y Gymraeg, oni bai bod gofyniad penodol i fyfyrwyr gwblhau asesiadau mewn iaith arall, (er enghraifft mewn rhaglenni Ieithoedd Tramor Modern). Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo lle bynnag y bo modd i farcio'r gwaith yn yr iaith y cafodd ei gyflwyno ynddi, ac i beidio â dibynnu ar gyfieithiad at ddibenion marcio. Gellir dim ond cyfieithu gwaith at ddibenion marcio lle nad oes opsiwn arall, ac yn unol â chanllawiau a gyhoeddwyd gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd. Mae hyn wedi'i amlinellu yn y Fframwaith Asesu Cyfrwng Cymraeg.
Ar gyfer myfyrwyr sy'n dymuno ymgymryd ag asesiad drwy gyfrwng y Gymraeg ac nid ydynt fel arall yn astudio modiwlau cyfrwng Cymraeg, rhaid iddynt roi gwybod i'w Cyfadran/Hysgol cyn gynted â phosibl, ac yn ddelfrydol cyn dechrau'r modiwl(au) perthnasol, er mwyn sicrhau y gellir gwneud paratoadau ar gyfer cynnal yr asesiad yn Gymraeg.* Gellir dod o hyd i’r broses yma: Cyflwyno gwaith a chael eich asesu yn Gymraeg.
Cyfieithu Cwestiynau Arholiadau
Lle darparwyd cyfieithiad Cymraeg o bapur arholiad ar gyfer modiwl cyfrwng Saesneg, dylid caniatáu i fyfyrwyr hefyd weld y papur Saesneg ac ateb yn Saesneg os byddant yn dewis gwneud hynny.
*Pan fydd myfyrwyr yn dechrau eu blwyddyn gyntaf o astudio, dylent wneud hyn o fewn 4 wythnos i ddechrau'r modiwl.
2.8 Asesu a Marcio mewn iaith ar wahân i'r Gymraeg neu'r Saesneg
Ar gyfer myfyrwyr sy'n dilyn rhaglenni gydag asesiadau mewn ieithoedd heblaw Cymraeg neu Saesneg (er enghraifft, rhaglenni Ieithoedd Modern, rhaglenni a gyflwynir gan bartneriaid), efallai y bydd disgwyl i fyfyrwyr gwblhau asesiad parhaus neu arholiadau yn iaith y pwnc neu fel arall yn yr iaith addysgu.Fodd bynnag, os yw'r meini prawf asesu yn gofyn am gyflwyno gwaith yn y Gymraeg neu'r Saesneg, yna bydd y gofyniad hwn yn rhagori.
Rhaid i farcwyr, cymedrolwyr ac arholwyr allanol fod yn ddigon cymwys i farcio, cymedroli ac archwilio'n allanol yn yr iaith berthnasol, ac ni ddylid cyfieithu gwaith cyn ei farcio, heblaw fel dewis olaf.
Ar gyfer rhaglenni a ddarperir mewn cydweithrediad â sefydliadau partner rhyngwladol, bydd myfyrwyr yn cael gwybod ai Saesneg a/neu iaith y sefydliad partner fydd yr iaith addysgu. Os nad Saesneg yw'r iaith addysgu gytunedig, naill ai ar gyfer y rhaglen yn llawn neu'r modiwl dan sylw, darperir adnoddau addysgu ac asesu priodol i'r myfyrwyr a byddant yn cael cyflwyno asesiadau yn yr iaith honno. Fel arfer, bydd gwaith asesu'n cael ei farcio, ei gymedroli a'i adolygu'n allanol yn yr iaith y cyflwynir ynddi. Fodd bynnag, mewn amgylchiadau eithriadol, gellir cyfieithu asesiadau i'r Saesneg gan gyfieithwyr annibynnol neu staff Prifysgol Abertawe.
2.9 Cyhoeddi Marciau Myfyrwyr
Ystyrir yr holl farciau nad ydynt wedi cael eu cyflwyno eto gerbron Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau’r Brifysgol i fod yn rhai dros dro, ac felly gallant newid.
Fel arfer, bydd marciau dros dro ar gyfer asesiadau parhaus ar gael i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig drwy eu cyfrif myfyrwyr ar y fewnrwyd cyn gynted ag y bydd y Gyfadran/Ysgol yn eu gwirio, neu drwy'r mecanwaith cytunedig ar gyfer rhaglenni a ddarperir mewn cydweithrediad â sefydliadau partner (pan fydd hyn yn wahanol). Bydd marc cyffredinol dros dro y modiwl yn ymddangos pan fydd yr holl farciau cydrannol ar gyfer y modiwl wedi'u cofnodi. Caiff myfyrwyr eu hysbysu am unrhyw eithriadau i hyn.
Caiff marciau modiwl eu cadarnhau ar ôl iddynt gael eu hadolygu a'u cytuno gan Fyrddau Dilyniant a Dyfarniadau’r Brifysgol ac Arholwr Allanol y Rhaglen. Bydd marciau a chanlyniadau a gadarnhawyd ar gael i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig trwy gyfrif mewnrwyd y myfyriwr.
Fel arfer, y Gwasanaethau Addysg sy’n gyfrifol am roi gwybod yn ffurfiol i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig a addysgir am farciau a gadarnhawyd ar ôl cyfarfod Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau'r Brifysgol. Gwneir pob ymdrech i hysbysu ymgeiswyr o'u canlyniadau o fewn un wythnos waith ar ôl cynnal Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau’r Brifysgol.
Y Coleg, Prifysgol Abertawe a fydd yn gyfrifol am y broses hon mewn perthynas â myfyrwyr Y Coleg. Gall myfyrwyr sy'n astudio gyda sefydliadau partner cydweithredol gael hysbysiad ffurfiol o farciau gan y sefydliad partner, yn dilyn cadarnhad gan Brifysgol Abertawe a/neu'r sefydliad partner.
Rhaid i farciau/benderfyniadau a ryddheir fod yn gyfrinachol a chael eu datgelu i'r bobl y mae angen mynediad arnynt ac sydd â hawl i'w gweld yn unig.
Gall myfyrwyr wneud cais i ddilysu cywirdeb marciau a gyhoeddwyd drwy'r Weithdrefn Cywirdeb Marciau Cyhoeddedig. Ni all myfyrwyr herio'r marcio, gan fod hyn yn seiliedig ar farn academaidd yn unol â'r meini prawf asesu a ddiffiniwyd.
3. Adborth a Blaenborth Effeithiol
3.1
Bydd pob myfyriwr yn cael adborth adeiladol a datblygiadol o ansawdd uchel ar eu holl asesiadau (gan gynnwys asesiad ffurfiannol ac arholiadau), a dylid ei ddarparu mewn amrywiaeth o fformatau (e.e. ysgrifenedig, sain, llafar) fel y bo'n briodol ar gyfer mathau o asesiad a hygyrchedd, a lle bynnag y bo modd cael cyfle i ddefnyddio'r adborth hwn i lywio asesiadau yn y dyfodol.
Fel arfer, bydd adborth/blaenborth ar gyfer asesiadau parhaus yn benodol ac yn unigol i bob myfyriwr, gan ddarparu gwybodaeth am yr hyn mae'r myfyriwr wedi'i wneud yn dda a meysydd y gellid eu gwella. Gall adborth/blaenborth fod gan farcwyr neu gymheiriaid, gan ddibynnu ar yr ymagwedd asesu sy’n cael ei defnyddio. Gellir hefyd ddefnyddio adborth gan y garfan ar gyfer mathau priodol o asesu, yn enwedig yn achos asesiadau ac arholiadau gwrthrychol ar raddfa fawr.
Bydd adborth/blaenborth yn cael ei gysylltu'n glir â'r meini prawf marcio a'r deilliannau dysgu arfaethedig ar gyfer yr asesiad, y modiwl a/neu'r rhaglen.
Ni ddylid oedi cyn rhyddhau marciau neu adborth dros dro i fyfyrwyr os oes unrhyw fyfyrwyr sydd ag estyniad* am unrhyw reswm, neu fod angen ymgynghori â'r Arholwr Allanol. Mae'n ofynnol i Gyfadrannau Ysgolion/Partneriaethau gadw marciau ac adborth myfyrwyr unigol pan fydd achos o Gamymddwyn Academaidd yn weithredol yn erbyn y myfyriwr dan sylw.
*Mewn achosion o estyniad, dylid cwblhau'r gwaith marcio, adborth a chymedroli o fewn 15 niwrnod gwaith o'r dyddiad cyflwyno.
Pan nad yw hyn yn bosibl, rhaid ei gyfleu'n glir i fyfyrwyr cyn gynted â phosibl, a chynnwys dyddiad rhyddhau diwygiedig a rhesymeg glir neu esboniad am yr oedi.
Bydd marciau ac adborth/blaenborth ar gyfer arholiadau a gynhelir yn ystod cyfnodau asesu diffiniedig y Brifysgol yn cael eu rhyddhau o fewn 15 niwrnod gwaith i ddyddiad olaf y cyfnod asesu.
Fel arfer, caiff yr holl adborth/blaenborth ei ddychwelyd i fyfyrwyr ar ffurf ddigidol a bydd Cyfadrannau/Ysgolion yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau a chyfryngau i sicrhau bod adborth yn gynhwysol, yn ennyn diddordeb ac yn hygyrch i'r holl fyfyrwyr, gan gynnwys y defnydd o daflenni adborth neu anodiadau wedi'u digideiddio lle bydd hynny'n berthnasol. Pan ddarperir adborth a ysgrifennwyd â llaw, rhaid iddo fod yn glir ac yn ddarllenadwy, ac yn ddelfrydol, dylid osgoi ei ysgrifennu mewn inc coch. I fyfyrwyr y mae angen addasiadau rhesymol arnynt, rhaid darparu adborth ysgrifenedig yn electronig hefyd am resymau hygyrchedd.
Ni chaniateir oedi wrth ryddhau marciau dros dro neu adborth** i fyfyrwyr os oes myfyrwyr ag estyniad am unrhyw reswm, neu er mwyn ymgynghori â'r Arholwr Allanol. Mae'n ofynnol i Gyfadrannau/Ysgolion ddal marciau ac adborth yn ôl oddi wrth fyfyrwyr unigol pan fydd achos Camymddygiad Academaidd gweithredol ar waith.
Bydd myfyrwyr yn cael cyfleoedd clir i drafod neu ofyn am eglurhad ar eu hadborth ar unrhyw ffurf ar asesu, gan gynnwys arholiadau, gyda'r Tiwtor Personol neu Gydlynydd y Modiwl (neu aelodau academaidd eraill o staff) fel y bo'n briodol.
**Mewn achosion o estyniad, dylid cwblhau'r gwaith marcio, adborth a chymedroli o fewn 15 niwrnod gwaith o'r dyddiad cyflwyno.
3.2 Mynediad at Sgriptiau Arholiad wedi'u Marcio
Bydd myfyrwyr yn gallu gofyn am eglurhad o adborth sy'n ymwneud â sgriptiau arholiadau. Gall myfyrwyr adolygu'r rhain gyda'u tiwtor personol neu aelod staff perthnasol arall, gan gynnwys y papurau cwestiynau hynny sy'n defnyddio banciau cwestiynau. Fel arfer, ni fydd myfyrwyr yn cael copi llawn o'u sgriptiau arholiadau i fynd â nhw i ffwrdd, er mwyn cadw diogelwch ac uniondeb yr asesiad.
4. Defnyddio Turnitin a Feedback Studio
Mae'r Brifysgol yn defnyddio Turnitin a Feedback Studio a systemau uniondeb academaidd i helpu i sicrhau bod asesiadau'n gadarn ac yn drylwyr, yn cynnal safon graddau ac yn brwydro yn erbyn twyllo contract. Bydd yr holl fyfyrwyr yn gallu cyrchu'r cyfleusterau hyn drwy'r Platfform Dysgu Digidol i bob modiwl. Mae'r Brifysgol hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i asesiadau gael eu cynllunio gydag offer Deallusrwydd Artiffisial mewn golwg (gweler adran 1.7).
4.1 Datganiad o Gydymffurfiaeth
Mae myfyrwyr yn cytuno drwy gofrestru ar raglen a dewis modiwl neu fodiwlau, bod yr holl asesiadau gofynnol yn destun cyflwyno i Turnitinuk.com ar gyfer adolygiad tebygrwydd testun i gynorthwyo i ddatgelu llên-ladrad. Caiff yr holl asesiadau a gyflwynwyd eu cynnwys fel dogfennau ffynhonnell yng nghronfa ddata gyfeirio Turnitin.com at ddiben datgelu darnau sydd yn union yr un peth yn y papurau hynny. Mae defnyddio gwasanaeth Turnitin.com yn destun y Polisi Defnyddio a gyhoeddwyd ar wefan Turnitin.com.
4.2 Defnyddio Turnitin a Feedback Studio
Caiff yr holl asesiadau priodol eu cyflwyno drwy Turnitin i'w hadolygu i weld a oes darnau yr un peth â ffynonellau eraill, ac fel arfer, darperir adborth drwy Feedback Studio. Gellir hefyd ddefnyddio Turnitin fel arf dysgu, a gall Cyfadrannau/Ysgolion ei gwneud hi'n bosib i fyfyrwyr gyflwyno asesiadau i Turnitin a derbyn Adroddiadau Tebygrwydd fel rhan o'u datblygiad sgiliau astudio, ar gyfer asesiadau ffurfiannol diffiniedig a chytunedig yn unig.
4.3 Uniondeb Academaidd a Chamymddygiad Academaidd
Darperir gwybodaeth am Uniondeb Academaidd a Chamymddygiad Academaidd yn Llawlyfrau Myfyrwyr y Brifysgol. Bydd pob Cyfadran/Ysgol/Partneriaeth hefyd yn darparu gwybodaeth a chanllawiau atodol a/neu benodol i fyfyrwyr.
Atgyfnerthir yr wybodaeth hon gan fodiwlau sgiliau astudio ychwanegol a sesiynau sefydlu myfyrwyr. Darperir cyngor a chymorth ychwanegol i fyfyrwyr drwy lyfrgellwyr pwnc, neu drwy'r Rhaglen Llwyddiant Academaidd.
Bydd unrhyw fyfyriwr dan amheuaeth o gyflawni llên-ladrad yn dilyn adolygiad o Adroddiad Tebygrwydd Turnitin yn destun gweithdrefnau Camymddygiad Academaidd y Brifysgol.
4.4 Dehongli'r Adroddiadau Tebygrwydd
Mae Adroddiadau Tebygrwydd yn rhoi arwyddion i staff academaidd o gynnwys a allai fod wedi'i lên-ladrata drwy gymharu a pharu cofnodion testun. Nid ydynt yn cynnig tystiolaeth ddi-ffael, a bydd rhaid i'r marciwr neu'r adolygwr adolygu'r gwaith o hyd gyda'r Adroddiad Tebygrwydd, a defnyddio rhesymeg, synnwyr cyffredin a chrebwyll academaidd i benderfynu a yw'r myfyriwr wedi cyflawni Camymddygiad Academaidd ai peidio.
Bydd cronfa ddata Turnitin yn croesgyfeirio asesiadau a gyflwynwyd gyda'r holl gofnodion o waith blaenorol a gyflwynwyd i’r system, a'r holl ffynonellau sydd ar gael i ddarparu asesiad o wreiddioldeb gwaith y myfyriwr.
Caiff yr holl Adroddiadau Tebygrwydd eu hadolygu gan staff academaidd priodol. Disgwylir i farcwyr archwilio'r holl waith yn ofalus i benderfynu a oes pryderon dilys, ac efallai y bydd staff am drafod pryderon â Swyddog Uniondeb Academaidd y Gyfadran/Ysgol/Bartneriaeth. Dylid uwchgyfeirio achosion lle codir pryderon drwy weithdrefnau Camymddygiad Academaidd.
Mae canllawiau pellach ar ddefnyddio Adroddiadau Tebygrwydd wedi'u cynnwys yn y Côd Ymarfer Dysgu, Addysgu ac Asesu.
5. Rheoli a Storio Gwaith Asesedig
Bydd pob Cyfadran/Ysgol yn penodi Swyddog(ion) Arholiadau/Asesu neu unigolyn enwebedig arall, a fydd yn gyfrifol am oruchwylio rheolaeth a diogelwch asesiadau ar gyfer y Gyfadran/Ysgol/Maes Pwnc, ac am adrodd i'r Byrddau Astudio perthnasol a Phwyllgor Addysg y Gyfadran/Ysgol. Ar gyfer rhaglenni a ddarperir mewn cydweithrediad â sefydliad partner, gall unigolyn cyfatebol wneud hyn yn y sefydliad partner.
Rhaid i Gyfadran/Ysgol nodi'r unigolion sy'n gyfrifol am gyfrifiadau cywir, gwneud cofnod o benderfyniadau asesu a'u gwirio, sydd fel arfer yn staff Cydlynu Modiwlau a'r Gwasanaethau Proffesiynol.
Cyfrifoldeb Cydlynydd y Modiwl a'r Swyddogion Arholiadau perthnasol yn y Gyfadran/Ysgol yw cofnodi penderfyniadau asesu yn gywir ac yn brydlon.
Rhaid bod gan Gyfadrannau/Ysgolion/Bartneriaethau systemau a phrosesau cadarn a diogel ar waith i sicrhau y caiff gwaith asesedig ei storio'n ddiogel, a'i fod ar gael i'w adolygu gan Arholwyr Allanol ac i'w gyflwyno yn achosion lle mae amheuon o Gamymddygiad Academaidd a/neu apeliadau.
Rhaid i Gyfadrannau/Ysgolion/Bartneriaethau sicrhau diogelwch yr asesu ar yr adeg cyflwyno (gan gynnwys cadw cofnod o'r cyflwyno, boed trwy dderbynneb, llofnod, neu'n electronig), yn ystod y marcio, ac wrth ddychwelyd asesiadau/adborth i fyfyrwyr. Dylid trin Asesiadau a Phapurau Arholiad fel deunydd 'cyfrinachol' o ran diogelwch, a dylid eu cadw'n unol â Pholisi Rheoli Cofnodion y Brifysgol.
5.1 Cadw Gwaith Asesedig
Rhaid i Gyfadrannau/Ysgolion/Bartneriaethau gadw asesiadau at y dibenion canlynol:
- Darparu tystiolaeth os bydd achos neu gŵyn, apêl neu achos a amheuir o ymarfer annheg;
- Sicrhau a Gwella Ansawdd.
Fel arfer, bydd y Brifysgol yn cadw copïau (a chopi digidol ar gyfer asesiadau a gyflwynwyd yn ddigidol) o'r holl asesiadau, gan gynnwys gwaith cwrs, papurau a sgriptiau arholiad, cyflwyniadau a gwaith a gyflwynir ar ffurfiau digidol, sain neu weledol sy'n cyfrannu at ddyfarniad terfynol, ynghyd â chofnodion o farciau, cymedroli ac adborth y myfyriwr, am gyfnod sylfaenol o flwyddyn ar ôl i'r myfyriwr raddio neu ar ôl i'w gofrestriad fel myfyriwr ddod i ben yn y Brifysgol.
Yn achos traethodau hir Ôl-raddedig a Addysgir, rhaid cadw'r rhain am ddwy flynedd ar ôl i'r myfyriwr raddio.
Yn dilyn y cyfnod hwn, caiff unrhyw asesiadau copi caled eu dinistrio mewn ffordd ddiogel i osgoi gormod o ddogfennaeth am resymau diogelu data ac effeithiolrwydd busnes.
Rhaid cadw deunydd asesedig nad yw'n cyfri tuag at y dyfarniad terfynol ond sy'n rhan ofynnol o gwblhau tuag at y dyfarniad, e.e. FHEQ lefel 3 neu 4 ar gyfer Graddau Baglor neu Gychwynnol Uwch (neu raglenni tebyg, gan gynnwys MBBCh), am flwyddyn yn dilyn y dyddiad cyflwyno i fodloni ceisiadau i wirio cywirdeb y marciau, apeliadau a/neu gwynion.
Gall y cyfnodau lleiaf amrywio ar gyfer rhaglenni a ddarperir ar y cyd â sefydliad partner, lle mae rheoliadau cenedlaethol neu sefydliadol yn gofyn am gyfnod cadw hirach. Mewn achosion o'r fath, bydd y cyfnod lleiaf yn cydymffurfio â'r gofyniad hiraf o ran cyfnod cadw lleiaf.
5.2 Cadw cofnodion goruchwylio ar gynnydd myfyrwyr
Rhaid cadw'r holl adroddiadau ar gynnydd myfyrwyr mewn perthynas â thraethodau hir (h.y. nodiadau y mae goruchwylwyr yn eu dal ac adroddiadau ffurfiol a gyflwynwyd i bwyllgorau'r Gyfadran a'r Brifysgol ar gyfer yr holl flynyddoedd astudio) gan y Cyfadrannau/Ysgolion/Bartneriaeth am gyfnod o flwyddyn ar ôl graddio.
5.3 Cadw gwaith am gyfnodau hwy o amser
Mae gan Gyfadran/Ysgol/Bartneriaeth yr hawl i gadw gwaith am gyfnod hwy o amser am sawl rheswm a allai gynnwys:
- Cadw gwaith prosiect sy'n cynnwys data a/neu ddata gwreiddiol.
- Cadw gwaith ar gyfer arolygon hydredol o dueddiadau yng nghyrhaeddiad myfyrwyr.
- Cadw gwaith i ddangos fel enghraifft i fyfyrwyr yn y dyfodol – e.e. cyflwyno traethawd hir. (Dylid cael cydsyniad ysgrifenedig y myfyrwyr y mae eu gwaith yn cael ei gadw at ddefnydd y dyfodol, a sicrhau bod gwaith yn ddienw cyn ei rannu).
5.4 Cadw gwaith ar Turnitin
Bydd y gwasanaeth yn cadw cynnwys a gyflwynwyd iddo a'r data cysylltiedig tan derfynu'r gwasanaeth neu ei olynydd, gan helpu i gronni corpws o wybodaeth mor helaeth â phosib y gellir ei ddefnyddio i gymharu cynnwys a gyflwynir.
5.5 Cadw penderfyniadau Byrddau Arholi
Mae'r Brifysgol yn cadw cofnodion y Bwrdd Arholi a Dilyniant a Dyfarniadau a'r gwaith papur cysylltiedig, gan gynnwys ffurflenni Adrodd a Chanlyniadau myfyrwyr ymchwil am 10 mlynedd (Dilyniant) neu 15 mlynedd (Dyfarnu) ar gyfer y Byrddau Dyfarnu a Dilyniant. Mae marciau a phenderfyniadau dilyniant myfyrwyr yn cael eu cadw’n ganolog ar systemau electronig sydd hefyd yn cael eu cadw am gyfnod amhenodol.
5.6 Eithriadau
Nid yw'r polisi hwn yn berthnasol i ddata ymchwil/gwybodaeth a gesglir gan brosiect ymchwil a gymeradwywyd yn foesegol yn ystod rhaglen Meistr ymchwil (MA/MSc, MPhil, MRes), rhaglen PhD neu brosiect staff ymchwil.
5.7 Rolau a Chyfrifoldebau Asesu
Staff a Myfyrwyr
Mae cyfrifoldeb ar staff academaidd a myfyrwyr ar bob lefel gyfrifoldeb i gyfrannu at y gwaith o wella asesu ac adborth.
Myfyrwyr
Fel partneriaid yn y dysgu, rhaid i fyfyrwyr gyfranogi'n llawn yn y broses o wella eu profiad o asesu ac adborth. Disgwylir i fyfyrwyr roi adborth i'w Cyfadrannau/Ysgolion ar asesiadau trwy werthuso modiwlau a thrwy arolygon myfyrwyr, ond gallant hefyd gymryd rhan mewn trafodaethau mewn pwyllgorau, a hefyd mewn grwpiau anffurfiol llai.
Anogir myfyrwyr nad ydynt wedi datgelu unrhyw anabledd, problem lles neu broblem iechyd arall hyd yma i hysbysu'r Swyddfa Anabledd mor fuan â phosibl. Ni fydd myfyrwyr yn gallu cyrchu cymorth asesu ffurfiol o'r Brifysgol os na fyddant yn datgelu eu hanabledd.
Rhaid i fyfyrwyr sy'n dymuno gwneud asesiadau yn Gymraeg hysbysu eu Cyfadran/Hysgol cyn dechrau addysgu, neu ar gyfer myfyrwyr blwyddyn gyntaf, o fewn pedair wythnos i ddechrau'r modiwl.
Cynrychiolwyr Myfyrwyr
Caiff cynrychiolwyr myfyrwyr eu hethol ar gyfer rhaglenni a Chyfadrannau/Ysgolion. Mae cynrychiolwyr yn gyfrifol am godi materion sy'n ymwneud ag asesu ac adborth, ar ran eu cymheiriaid. Fel arfer, gwneir hyn drwy Fyrddau Astudio a/neu fforymau Myfyrwyr-Staff, oni bai na fydd amseru yn caniatáu hyn.
Tiwtoriaid Personol
Mae Tiwtoriaid Personol yn gyfrifol am fonitro perfformiad asesu eu myfyrwyr dros amser, gan gynnig cymorth, cyngor a mentora i gefnogi'r myfyriwr i wella a llwyddo.
Disgwylir i Diwtoriaid Personol ddarparu adborth wyneb yn wyneb i fyfyriwr ar eu perfformiad asesu, ynghyd â helpu myfyrwyr i ddeall a defnyddio eu hadborth/blaenborth yn well.
Cydlynwyr Modiwlau
Mae Cydlynwyr Modiwlau yn gyfrifol am ddatblygu ac amserlenni asesiadau ar gyfer eu modiwlau ac am ymgysylltu â Chyfarwyddwyr Rhaglenni i sicrhau bod y patrwm asesu'n effeithiol ar gyfer y Rhaglen yn ei chyfanrwydd, ac am sicrhau bod yr asesiadau hynny'n briodol ar gyfer mesur cynnydd myfyrwyr wrth gyflawni'r deilliannau dysgu gosod. Felly, mae pennu deilliannau dysgu modiwl yn elfen allweddol o gynllunio modiwl. Rhaid i Gydlynwyr Modiwl gydbwyso gofynion y polisi hwn o ran asesu cynhwysol ac amrywiol â'r adnoddau sydd ar gael iddynt.
Mae Cydlynwyr Modiwl â'r cyfrifoldeb hefyd am sicrhau bod myfyrwyr yn derbyn adborth addas ac effeithiol ar eu hasesiadau o fewn yr amserlen a ddiffinnir.
Rhaid i Gydlynwyr Modiwlau sicrhau eu bod yn gyfarwydd ag egwyddorion asesu cynhwysol a chefnogi myfyrwyr â nodweddion gwarchodedig, a mynd i'r sesiynau hyfforddiant perthnasol pan fydd angen.
Dylai Cydlynwyr Modiwlau weithio'n gydweithredol â chydweithwyr i sicrhau cydraddoldeb rhwng darpariaeth Gymraeg a Saesneg.
Cyfarwyddwyr Rhaglen
Mae Cyfarwyddwyr Rhaglen yn gyfrifol am sicrhau bod asesu ar draws y rhaglen gyfan yn ddilys, yn gadarn, yn gyson, ac yn amrywiol. Rhaid iddynt sicrhau bod myfyrwyr yn cael profiad o asesiadau ffurfiannol priodol a pherthnasol i'w galluogi i ddatblygu. Hefyd, bydd Cyfarwyddwyr Rhaglen yn arwain y gwaith o amserlennu asesu mewn modd cydlynol ar draws y rhaglen er mwyn sicrhau bod y llwyth gwaith yn cael ei ledu'n gyfartal, ac osgoi cyfnodau trwm i fyfyrwyr o ran dyddiadau cyflwyno gwaith.
Byrddau Astudio
Dylai Byrddau Astudio adolygu'r dulliau asesu bob blwyddyn i sicrhau ei fod yn ddigon cynhwysol, amrywiol, a chytbwys ar gyfer y myfyrwyr. Mae Byrddau Astudio'n adolygu ac yn cymeradwyo unrhyw ddulliau asesu newydd a gynigir, yn barod i'w cymeradwyo gan unrhyw gyrff goruchwylio mewnol neu allanol perthnasol, ac yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael asesiad ffurfiannol digonol ar gyfer y dulliau newydd hyn. Yn ogystal, bydd Byrddau Astudio yn goruchwylio cydraddoldeb dysgu, addysgu ac asesu o ran darpariaeth Gymraeg a Saesneg. Yn ogystal, bydd Byrddau Astudio yn gyfrifol am fonitro gweithrediad Polisi ac amseroedd rhoi adborth, gan adrodd am y rhain wrth Arweinydd Addysg yr Ysgol. Gall rhaglenni a ddarperir ar y cyd â sefydliad partner ymgymryd â swyddogaethau Bwrdd Astudio mewn pwyllgor partneriaeth amgen.
Y Cyfarwyddwr Uniondeb Academaidd
Y Cyfarwyddwr Uniondeb Academaidd sy'n gyfrifol am oruchwylio uniondeb arholiadau'r Brifysgol, gan sefydlu a chyflwyno achosion prima facie o gamymddygiad academaidd, ar lefel y Brifysgol, gan sicrhau cydymffurfiaeth â'r rheoliadau a gweithdrefnau perthnasol a'r strategaethau gwerthuso sy'n ymwneud ag atal, datgelu a phrosesu camymddygiad academaidd.
Swyddogion Uniondeb Academaidd
Mae Swyddogion Uniondeb Academaidd yn gyfrifol am ystyried holl achosion y Gyfadran a gwneud penderfyniadau arnynt, gan gynnwys rhoi cyngor i gydweithwyr ar reoliadau, gweithdrefnau a chylchredeg gwybodaeth am gamymddygiad academaidd i staff a myfyrwyr.
Pwyllgor Addysg Cyfadran a Fforwm Addysg Cyfadrannau/Ysgolion
Mae Pwyllgor Addysg Cyfadran a Fforymau Addysg Ysgolion yn gyfrifol am roi pob agwedd ar y Polisi Asesu ac Adborth ar waith a'u monitro ar draws eu Cyfadran/Hysgol, ac am sicrhau y caiff asesu ei wella mewn ffordd barhaus mewn partneriaeth â myfyrwyr. Bydd Cadeirydd y Gyfadran/Pwyllgor Addysg yn adrodd wrth Bwyllgor Addysg y Brifysgol o bryd i'w gilydd ar effeithiolrwydd rhoi'r polisi ar waith a'i wella.
Deon Gweithredol y Gyfadran
Yn y pen draw, y Deon Gweithredol fydd yn gyfrifol am sicrhau y caiff Polisi Asesu ac Adborth y Brifysgol ei roi ar waith yn effeithiol yn y Gyfadran.
Deon Cysylltiol Addysg
Bydd y Deon Cysylltiol Addysg yn goruchwylio ansawdd a safonau'r holl asesiadau ym mhob Cyfadran, yn rhannol drwy ei rôl fel cyd-gadeirydd y Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau. Bydd hefyd, fel cyd-gadeirydd y Bwrdd Adolygu a Chymeradwyo Portffolios, yn gyfrifol am sicrhau bod pob datblygiad newydd yn bodloni disgwyliadau'r Polisi hwn drwy ddylunio.
Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau'r Brifysgol
Mae'r Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau’n goruchwylio trylwyredd a dilysrwydd asesu a marcio er mwyn sicrhau bod safon y dyfarniadau'n cael ei chynnal.
Pwyllgor Addysg y Brifysgol
Mae Pwyllgor Addysg y Brifysgol yn goruchwylio sicrhau a gwella ansawdd, ac yn monitro cynnydd o ran sicrhau ansawdd a safonau asesu ac adborth yn rheolaidd ar draws darpariaeth cyfrwng Cymraeg a Saesneg, gan ymyrryd os yw safon ddisgwyliedig profiad myfyrwyr yn y fantol.
Bwrdd Adolygu a Chymeradwyo Portffolios (PAEB)
Bwrdd Adolygu a Chymeradwyo Portffolios (PAEB) Mae'r Bwrdd Adolygu a Chymeradwyo Portffolios yn gyfrifol am adolygu a chymeradwyo cynigion ar gyfer rhaglenni, modiwlau, addasiadau a phartneriaethau newydd, ar bob lefel. Fel rhan o'r broses adolygu, dylai'r Pwyllgor roi sylw penodol i elfennau asesu ac adborth cynigion rhaglenni er mwyn sicrhau eu bod yn bodloni'r gofynion a amlinellir yn y polisi hwn.
Swyddfa Arholiadau'r Brifysgol
Mae'r Swyddfa Arholiadau (yn y Gwasanaethau Addysg) yn gyfrifol am amserlenni arholiadau ar gyfer y rhan fwyaf o raglenni (ac eithrio rhai profion dosbarth ac asesiadau yn y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd, a rhaglenni cydweithredol a ddarperir mewn sefydliad partner), ac am sicrhau bod darpariaeth ar gyfer myfyrwyr â gofynion penodol. Bydd y Swyddfa Arholiadau hefyd yn rheoli diogelwch ac uniondeb yr holl Arholiadau sy'n rhan o'i chylch gorchwyl.
Bywyd myfyriwr: Gwasanaethau Myfyrwyr Hygyrch (Y Swyddfa Anabledd a'r Gwasanaeth Lles)
Bydd y Swyddfa Anabledd a'r Gwasanaeth Lles yn darparu gwybodaeth i'r Cyfadrannau/Ysgolion am anghenion cymorth myfyrwyr ag anableddau, myfyrwyr â chyflyrau iechyd, a/neu fyfyrwyr â phroblemau lles cyn gynted â phosib ar ôl cofrestru a/neu ar ôl datgelu'r anabledd/cyflwr i'r Brifysgol. Nid yw'r Swyddfa Anabledd na'r Gwasanaeth Lles yn gyfrifol am ddweud wrth staff sut y dylent asesu myfyrwyr. Pan na ellir dod i gytundeb rhwng Cyfadrannau/Ysgolion, Gwasanaethau Myfyrwyr a'r myfyriwr/myfyrwyr dan sylw, ceir proses uwchgyfeirio a datrys anghydfod i sicrhau y caiff myfyrwyr eu cefnogi'n briodol.
Academi Hywel Teifi
Mae Academi Hywel Teifi yn cefnogi myfyrwyr Cymraeg eu hiaith a'r rhai hynny sy'n dysgu Cymraeg i wneud eu hastudiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hefyd yn cefnogi staff sy'n addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg neu sy'n cefnogi myfyrwyr sy'n dymuno cwblhau eu hastudiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg, gan gynnwys asesiadau. Gall yr Academi roi cyngor i Gyfadrannau ar nodi Ymgynghorwyr Asesu allanol priodol fel yr amlinellir yn y canllawiau 'Asesu drwy gyfrwng y Gymraeg'.
6. Adolygu a Monitro Rhoi'r Polisi ar Waith
Mae Cyfadrannau/Ysgolion yn adolygu'r holl ddarpariaeth asesu yn unol â'r Polisi Asesu, Marcio ac Adborth, gan dalu sylw penodol i gyfranogiad myfyrwyr, llwythau asesu ac arferion asesu a'r dulliau i sicrhau eu bod yn gynhwysol. Caiff cydymffurfiaeth â'r Polisi ei fonitro drwy'r dulliau canlynol:
- Adolygiad o Raglenni Blynyddol a'r broses Adolygu Modiwlau;
- Gwerthuso Modiwlau Myfyrwyr;
- Canlyniadau Arolwg Profiad Myfyrwyr a Chynlluniau Camau Gweithredu ;
- Adroddiadau Rheolaidd am brydlondeb adborth.
Cadeirydd y Gyfadran/Ysgol a'r Pwyllgor Addysg a fydd yn adrodd wrth Bwyllgor Addysg y Brifysgol yn achlysurol ar weithrediad y polisi a phrydlondeb adborth.
Adolygiad o'r Polisi
Caiff y polisi hwn ei adolygu'n flynyddol gan Bwyllgor Addysg y Brifysgol i sicrhau ei fod yn ymateb i ofynion allanol a mewnol a newidiadau o ran ymarferion effeithiol ym maes asesu mewn sefydliadau Addysg Uwch. Cynhelir adolygiad mwy sylweddol bob tair blynedd.
Dyddiad Cyhoeddi: 11/09/2025
Dyddiad Adolygu Interim: 31/05/2026
Dyddiad Adolygu Llawn: 31/08/2026