A lively and varied program of workshops in the Welsh medium. These are available to students who are studying some or all of their courses through the medium of Welsh, and those who are interested in developing their Welsh skills.
Tuesday 10th March 2026
Ysgrifennu’n feirniadol
Technegau ac ymarferion i ddatblygu a chryfhau eich ysgrifennu academaidd.
Campws Singleton
Dydd Llun 10fed Mawrth 2026
11:00 - 12:00
Yr Adolygiad Llenyddiaeth
Sut i baratoi a strwythuro adolygiad llenyddiaeth serennog.
Campws Singleton
Dydd Iau 10fed Mawrth 2026
15:00 - 16:00
Brawddegau a pharagraffau cryf
Yn y gweithdy hwn, byddwn yn edrych yn fanylach ar y broses o gyfansoddi brawddegau a pharagraffau ar gyfer gwaith academaidd, er mwyn deall eu dyletswyddau, sut i fynegi’ch pwyntiau'n glir, a dangos naws a phwyslais yn eich ysgrifennu.
Campws Singleton
Dydd Llun 11ain Mawrth 2026
11:00 - 12:00
Friday 13th March 2026
Cynllunio traethodau
Mae ysgrifennu traethodau effeithiol yn sgil hanfodol yn y brifysgol. Yn y gweithdy hwn, byddwch yn dysgu sut i ddehongli cwestiynau traethawd, strwythuro eich darllen, a chyfansoddi cynllun traethawd. Byddwch hefyd yn dadansoddi enghreifftiau o draethodau er mwyn adnabod nodweddion cyflwyniadau a chasgliadau effeithiol, a sut i adeiladu llif a datblygu dadl ym mhrif gorff eich gwaith.
Ar-lein trwy Zoom
Dydd Gwener 13eg Mawrth 2026
10:00 - 11:00
Sut i ysgrifennu’n ffurfiol
Dysgwch sut i feithrin eich llais academaidd, ac ysgrifennu yn yr arddull ffurfiol sy’n nodweddiadol o waith academaidd.
Ar-lein trwy Zoom
Dydd Gwener 13eg Mawrth 2026
12:00 - 13:00
Aralleirio a thrafod ffynonell
Deall ac ymarfer sut (a phryd) i ymgorffori syniadau pobl eraill yn eich gwaith ysgrifenedig.
Ar-lein trwy Zoom
Dydd Mawrth 13eg Mawrth 2026
14:00 - 15:00
Tuesday 17th March 2026
Paratoi ar gyfer Cynadleddau
Mae mynychu cynadleddau’n ddisgwyliad cyffredin i nifer o fyfyrwyr ôl-radd. Mae’r gweithdy hwn yn gyflwyniad i’r broses o fynychu a chyflwyno mewn cynhadleddau, a’ch helpu i baratoi ar gyfer cyflwyno papur ar eich gwaith chi eich hun. Byddwn yn trafod nodau cyflwyno, beth i’w gynnwys yn eich papur, a gwahanol ffyrdd o strwythuro a chyflwyno papurau.
Campws Singleton
Dydd Mawrth 17ain Mawrth 2026
11:00 - 12:00
Trafod eich canlyniadau
Ar ôl dadansoddi data, rhaid trafod canlyniadau eich ymchwil. I ymchwilwyr ansoddol (qualitative) yn arbennig, mae perthynas agos rhwng dehongli a phrosesu data. Byd y gweithdy hwn yn ystyried beth i’w gynnwys a sut i strwythuro eich trafodaeth, gyda phwyslais ar rannu profiadau a holi cwestiynau er mwyn sicrhau bod y sesiwn yn berthnasol i'ch gofynion ymchwil personol.
Campws Singleton
Dydd Mawrth 17ain Mawrth 2026
13:00 - 14:00
Wednesday 18th March 2026
Cynllunio eich ymchwil
Yn y gweithdy hwn byddwn yn canolbwyntio ar sut i fynd ati i gynllunio cynllun ymchwil ar gyfer traethawd hir, a’r gwahanol elfennau y disgwylir eu gweld yn eich traethawd hir gorffenedig. Byddwn yn edrych ar enghreifftiau o strwythurau ar gyfer ymchwil meintiol ac ansoddol, ac yn trafod rhai o’r gwahaniaethau sy’n cymeriadu gwahanol fathau o ymchwil.
Campws Singleton
Dydd Mercher 18ain Mawrth 2026
10:00 - 11:00
Dulliau a Methodoleg
Sesiwn drafod a holi ac ateb lle byddwn yn egluro'r perthynas rhwng dulliau ymchwil, a'r broses o gasglu data, gan gynnwys y penderfyniadau ac ymresymu sy'n rhan o'r broses fethodolegol. Byddwn yn trafod eich anghenion ymchwil penodol fel rhan o'r sesiwn.
Campws Singleton
Dydd Mercher 18eg Mawrth 2026
15:00 - 16:00
Thursday 19th March 2026
Cwestiynnau ymchwil
Ar ôl dadansoddi data, rhaid trafod canlyniadau eich ymchwil. I ymchwilwyr ansoddol (qualitative) yn arbennig, mae perthynas agos rhwng dehongli a phrosesu data. Byd y gweithdy hwn yn ystyried beth i’w gynnwys a sut i strwythuro eich trafodaeth, gyda phwyslais ar rannu profiadau a holi cwestiynau er mwyn sicrhau bod y sesiwn yn berthnasol i'ch gofynion ymchwil personol.
Ar-lein trwy Zoom
Dydd Iau 19fed Mawrth 2026
10:00 - 11:00
Friday 20th March 2026
Trafod eich canlyniadau
Byd y gweithdy hwn yn ystyried beth i’w gynnwys a sut i strwythuro eich trafodaeth, gyda phwyslais ar rannu profiadau a holi cwestiynau er mwyn sicrhau bod y sesiwn yn berthnasol i'ch gofynion ymchwil personol.
Ar-lein trwy Zoom
Dydd Gwener 20fed Mawrth 2026
12:00 - 13:00
Yr Adolygiad Llenyddiaeth
Sut i baratoi a strwythuro adolygiad llenyddiaeth serennog.
Ar-lein trwy Zoom
Dydd Gwener 20fed Mawrth 2026
14:00 - 15:00
Tuesday 24th March 2026
Adolygu effeithiol
Meistrolwch eich cynllun adolygu, a pharatowch am lwyddiant, yn y gweithdy hwn sy’n llawn cyngor ymarferol ar sut i baratoi tuag at eich arholiadau.
Campws Singleton
Dydd Mawrth 24ain Mawrth 2026
12:00 - 13:00
Ysgrifennu traethodau arholiad
Mae'r gweithdy hwn yn cyflwyno cyngor a strategaethau i’ch helpu chi i berfformio’n well mewn arholiadau, gan ganolbwyntio ar sut i gyfansoddi ac ysgrifennu traethodau dan amodau arholiad. Byddwn yn edrych ar ddehongli gofynion cwestiynau traethawd, a sut i fynd ati i baratoi strwythur cychwynnol, ac yn edrych ar enghreifftiau o atebion arholiad er mwyn dadansoddi eu cryfderau neu wendidau.
Campws Singleton
Dydd Mawrth 24ain Mawrth 2026
14:00 - 15:00
Wednesday 25th March 2026
Arholiadau ar-lafar
Archebwch eich lle yn y gweithdy anffurfiol hwn i ymarfer ar gyfer eich arholiad ar lafar. Dewch a’ch nodiadau ac unrhyw ddeunyddiau cyflwyno, a manteisiwch ar y cyfle i ymarfer a derbyn adborth, neu holi unrhyw gwestiynau sydd gennych am y broses.
Campws Singleton
Dydd Mercher 25ain Mawrth 2026
10:00 - 11:00
Adolygu effeithiol
Meistrolwch eich cynllun adolygu, a pharatowch am lwyddiant, yn y gweithdy hwn sy’n llawn cyngor ymarferol ar sut i baratoi tuag at eich arholiadau.
Campws Singleton
Dydd Mercher 25ain Mawrth 2026
11:00 - 12:00
Friday 27th March 2026
Ysgrifennu traethodau arholiad
Mae'r gweithdy hwn yn cyflwyno cyngor a strategaethau i’ch helpu chi i berfformio'n well mewn arholiadau, gan ganolbwyntio ar sut i gyfansoddi ac ysgrifennu traethodau dan amodau arholiad. Byddwn yn edrych ar ddehongli gofynion cwestiynau traethawd, a sut i fynd ati i baratoi strwythur cychwynnol, ac yn edrych ar enghreifftiau o atebion arholiad er mwyn dadansoddi eu cryfderau neu wendidau.
Ar-lein trwy Zoom
Dydd Gwener 27ain Mawrth 2026
10:00 - 11:00