Ar gyfer ardal Dinas a Sir Abertawe:
Os mai chi yw'r person sydd wedi gweld problem bosib neu'n rhan o ddamwain a fu bron â digwydd, rydym yn argymell eich bod yn rhoi gwybod amdano i'r tîm Teithio Llesol yng Nghyngor Abertawe, yn activetravel@abertawe.gov.uk
Rhowch ddisgrifiad manwl o'r perygl posibl neu rhowch wybod am y broblem gyda'r manylion canlynol:
- Lluniau os oes gennych rai
- Disgrifiad llawn o'r broblem, e.e. gwydr ar y llwybr, deiliant sydd wedi gordyfu, coeden wedi cwympo, beiciau anghyfreithlon
- Ar gyfer beiciau anghyfreithlon h.y. sgwteri trydanol a beiciau trydanol sydd wedi cael eu haddasu'n anghyfreithlon, rhowch wybod i 101 hefyd os yw'n bosib
Yn ogystal â hyn, gan fod y llwybr y tu allan i diroedd y Brifysgol, rhaid rhoi gwybod am hyn hefyd i Gyngor Abertawe drwy ei ffurflenni Rhoi Gwybod Amdano, yn arbennig at y diben hwn. Ar gyfer Cyngor Abertawe, sy'n gyfrifol am ran o'r llwybr, mae'r ffurflen 'rhoi gwybod amdano', y gallwch lanlwytho lluniau a mapiau iddi, ar gael yma: Tyllau yn y Ffyrdd - Abertawe
Ar gyfer ardal Castell-nedd Port Talbot:
Os mai chi yw'r person sydd wedi gweld problem bosib neu'n rhan o ddamwain a fu bron â digwydd, rydym yn argymell eich bod yn rhoi gwybod amdano i highwaysadmin@npt.gov.uk
Rhowch ddisgrifiad manwl o'r perygl posibl neu rhowch wybod am y broblem gyda'r manylion canlynol:
- Lluniau os oes gennych rai
- Disgrifiad llawn o'r broblem, e.e. gwydr ar y llwybr, deiliant sydd wedi gordyfu, coeden wedi cwympo, beiciau anghyfreithlon
- Ar gyfer beiciau anghyfreithlon h.y. sgwteri trydanol a beiciau trydanol sydd wedi cael eu haddasu'n anghyfreithlon, rhowch wybod i 101 hefyd os yw'n bosib
Yn ogystal â hyn, gan fod y llwybr y tu allan i diroedd y Brifysgol, rhaid rhoi gwybod am hyn hefyd i Gyngor Castell-nedd Port Talbot drwy ei ffurflenni Rhoi Gwybod Amdano, yn arbennig at y diben hwn. Ar gyfer Cyngor Castell-nedd Port Talbot, sy'n gyfrifol am ran o'r llwybr, mae'r ffurflen 'rhoi gwybod amdano', y gallwch lanlwytho lluniau a mapiau iddi, ar gael yma:
Rhoi Gwybod am Broblem - Ffurflenni CNPT