Gwobrau Ymchwil Ôl-raddedig

Dathlwch y PGRs a'r staff sydd wedi cael effaith yn ein cymuned

Mae'r Gwobrau Ymchwil Ôl-raddedig yn gyfle i gydnabod gwaith caled a chyflawniadau pobl ledled ein cymuned ymchwil ôl-raddedig. O ragoriaeth academaidd i sêr ymgysylltu â'r cyhoedd, o staff sy'n mynd y tu hwnt i'r disgwyl i fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig sy'n canolbwyntio ar feithrin eu cymuned a dod â phobl ynghyd.

Dyfarniad Ymchwil James Callaghan

Yn cydnabod cyflawniad a chynnydd neilltuol myfyrwyr ôl-raddedig presennol. Dyfernir grant gwerth £2,000 i enillydd Dyfarniad Ymchwil James Callaghan i gefnogi ei ymchwil a'i ddatblygiad a bydd yr ymgeisydd yn yr ail le yn derbyn dyfarniad gwerth £1,000.

Nid yw myfyrwyr sy'n dal ysgoloriaeth ar hyn o bryd yn gymwys i'w hystyried am y dyfarniad hwn. 

Gwobr Traethawd Ymchwil James Callaghan

yn cydnabod traethodau ymchwil neilltuol a gyflwynwyd.  Mae dwy wobr ar gael, un sy’n werth £1,000 am Draethawd Ymchwil Doethurol ac un sy’n werth £500 am Draethawd Ymchwil Gradd Meistr. 

Rhaid i fyfyrwyr gael eu henwebu gan eu goruchwylwyr am Ddyfarniad/Wobr James Callaghan drwy gyflwyno ffurflen enwebu'r wobr benodol. 

 
Gwobr Diwylliant a Chymuned Ymchwil Ôl-raddedig

Mae'r gwobrau hyn yn cydnabod pobl sy'n gwneud gwahaniaeth ystyrlon a chadarnhaol i Ymchwil Ôl-raddedig yn Abertawe drwy wella'r diwylliant ymchwil, y gymuned a phrofiad cyffredinol ymchwilwyr ôl-raddedig eraill yn y brifysgol.  Mae dau gategori gwobrwyo: un ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig, ac un ar gyfer staff gwasanaethau proffesiynol (nad ydynt yn staff academaidd/ymchwil). 

Enwebwh Fyfriwr Ôl-raddedig ar gyfer Gwobr Diwyllian a Chymuned Ôl-raddedig

Enwebwch aelod o staff gwasanaethau profesiynol ar gyfer Gwobr Diwllian a Chymuned yr Ymchwilwr Ôl-raddedig

Gwobr Ymgysylltu â'r Cyhoedd Ymchwil Ôl-raddedig 

Mae'r wobr hon yn cydnabod myfyrwyr ôl-raddedig sydd wedi rhagori mewn gweithgareddau cyfranogiad cyhoeddus o unrhyw fath yn ystod eu hastudiaethau ôl-raddedig, gan ddangos ymrwymiad a brwdfrydedd wrth rannu manteision a mewnwelediadau eu hymchwil y tu hwnt i'r gymuned academaidd. 

Enwebwch nawr - Gwobr Ymgysylltu â'r Cyhoedd Ymchwil Ôl-raddedig

Gwobrau Goruchwylio Ymchwil Ôl-raddedig 

Mae'r wobr hon yn cydnabod arfer gorau o ran goruchwylio ymchwil ôl-raddedig, gan ddathlu goruchwylwyr sy'n dangos ymrwymiad eithriadol i gefnogi datblygiad ymchwilwyr, meithrin amgylchedd cynhwysol a chydweithredol, a hyrwyddo rhagoriaeth academaidd a lles. 

Enwebwch nawr - Gwobrau Goruchwylio Ymchwil Ôl-raddedig

Gwobr Menter Ymchwil Ôl-raddedig 

Mae Gwobr Menter Ymchwil Ôl-raddedig yn dathlu ymchwilwyr ôl-raddedig sy'n troi syniadau yn effaith yn y byd go iawn, gan ddefnyddio eu hymchwil i sbarduno, datblygu neu gefnogi gweithgaredd menter—gan hybu arloesedd, creu gwerth ac ysbrydoli cyfranogiad y tu hwnt i'r byd academaidd.