YR ŴYL ELENI
Mae'r rhaglen ar gyfer Gŵyl Ymchwil Ôl-raddedig eleni bellach yn fyw ac mae'r rhaglen eleni yn canolbwyntio ar gefnogi cydweithredu a chreadigrwydd, gyda chymysgedd o weithdai ymarferol, a chyfleoedd i feithrin rhwydweithiau a rhannu arfer gorau gydag Ymchwilwyr Ôl-raddedig ac aelodau eraill ein cymuned ymchwil.
P'un a wyt ti eisiau ysbrydoliaeth ysgrifennu, dysgu mwy am gyfleu ymchwil greadigol, neu weld y gorau o'r hyn sydd gan ein hymchwilwyr ôl-raddedig i'w gynnig, mae rhywbeth i ti.
Gelli di gael rhagor o wybodaeth am y sesiynau yn ogystal â dolenni cadw lle isod.
Cynadleddau’r Gyfadran
Bydd pob cyfadran yn cynnal cynhadledd Ymchwil Ôl-raddedig, gan roi cyfle i ymchwilwyr ôl-raddedig y gyfadran rannu ac arddangos eu gwaith hymchwil.
Mae cynadleddau cyfadran eleni yn cael eu cynnal drwy gydol yr ŵyl gan roi cyfle i ti weld beth mae ymchwilwyr ôl-raddedig yn ymchwilio iddo ar draws y brifysgol. Bydd hyn yn dy gefnogi i ehangu dy rwydwaith a nodi cyfleoedd cydweithredu posibl, ymgysylltu â methodolegau amrywiol a rhoi persbectif newydd i ti ar dy waith ymchwil.
FHSS | FMHLS | FSE |
---|---|---|
Dyddiad: 12 Mai Lleoliad: Campw Singleton |
Dyddiad: 19th-20th Mai 2025, 9:30am – 4:30pm Lleoliad: Glyndwr, Lecture Room D, Singleton |
Dyddiad: 15 Mai Lleoliad:Bay |