Ydych chi'n meddwl eich bod chi'n gyfathrebwr da? Allwch chi esbonio eich traethawd ymchwil mewn ffordd ddarbwyllol i bobl y tu allan i'ch maes chi? Beth am wneud hynny mewn tair munud yn unig?
Mae Thesis Tair Munud, 3MT, yn gystadleuaeth genedlaethol sy'n gofyn i chi wneud hynny.
Mae 3MT yn herio myfyrwyr doethurol i gyflwyno eu pwnc ymchwil i gynulleidfa nad ydynt yn arbenigwyr mewn tair munud yn unig gan roi cyfle iddynt arddangos eu hymchwil a datblygu sgiliau hanfodol ar gyfer ymgysylltu â’r cyhoedd.
3MT 2025 - Cyflwynwch Gais Nawr
Mae cystadleuaeth 3MT Prifysgol Abertawe bellach ar agor i'r holl fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig. I gael rhagor o wybodaeth am y gystadleuaeth, cofrestrwch i fynd i sesiwn Gwybodaeth 3MT:
Session wybodaeth 3MT Campws Singleton - 30th Ionawr 10:00 - 12:00
3Session wybodaeth 3MT Campws y Bae - 5th Chwefror 13:00 - 15:00
P'un a ydych chi'n siaradwr cyhoeddus profiadol neu eisiau rhoi cynnig arno, mae 3MT i bob myfyriwr ymchwil ôl-raddedig. Bydd tîm hyfforddiant a datblygu'r Swyddfa Ymchwil Ôl-raddedig yn eich cefnogi drwy gydol y gystadleuaeth a bydd pob cystadleuydd yn elwa o gyfarfod un i un cyn y rownd gymhwyso er mwyn ategu ei gais. Darperir rhagor o hyfforddiant, cymorth ac adborth i bawb sy'n cyrraedd rownd derfynol 3MT.
Y cyfan mae angen i chi ei wneud i gymryd rhan yn y gystadleuaeth yw cofrestru am un neu ddwy o'r rowndiau cymhwyso. Bydd y siaradwyr gorau'n symud ymlaen i rownd derfynol 3MT Abertawe a gynhelir ar 21 Mai fel rhan o'r Ŵyl Ymchwil Ôl-raddedig.
Thesis Tair Munud - Campws y Bae - 17th Mawrth 11:00 - 13:00
Thesis Tair Munud - Campws Singleton - 19th Mawrth 13:00 - 15:00