Diweddariad Gwasanaeth Dydd Mercher 13 Tachwedd
Oherwydd amgylchiadau annisgwyl, rydym wedi gwneud y penderfyniad anodd i gau desg MyUniHub ar Gampws Singleton dros dro. Tra bydd y ddesg ar gau, dim ond dros y ffôn y byddwch yn gallu cysylltu â'r tîm ar 01792 606000, drwy e-bost yn MyUniHub@abertawe.ac.uk a/neu drwy sgwrs fyw. Rydym yn gweithio'n galed i ailagor y gwasanaeth cyn gynted â phosibl.
Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Sut gallwn ni eich helpu?
Mae tîm MyUniHub yma i'ch helpu i gael mynediad at ystod eang o wasanaethau cymorth y Brifysgol a'ch helpu i ddatrys unrhyw ymholiadau a allai fod gennych.
Beth rydym yn ei wneud a ble i ddod o hyd i ni
Mae tîm cyfeillgar MyUniHub yma i helpu gydag ymholiadau cofrestru, cynnig prawf o statws myfyrwyr, a chyfeirio pobl i adrannau a gwasanaethau eraill yn y brifysgol. Os nad ydych yn siŵr pwy i ofyn iddo, dewch i'n gweld ni - rydym bob amser yn ceisio helpu, ac os nad ydym yn gwybod yr ateb, byddwn yn dod o hyd i rywun sy'n gallu helpu.
Ar Gampws Parc Singleton, rydym yn y llyfrgell, drws nesaf i'r ddesg gymorth. Rydym yn adeilad 7.
Ar Gampws y Bae, rydym yng Nghanolfan Wybodaeth y Tŵr. Rydym yn adeilad 9.
Edrychwn ymlaen at gwrdd â chi!