pen a phapur

Mae gofyn i chi ysgrifennu ar gyfer y rhan fwyaf o aseiniadau i'r brifysgol – a cheir rheswm da dros wneud hynny. Nid dangos ein dealltwriaeth o bwnc yw unig ddiben ysgrifennu – mewn llawer o achosion, dyma sut rydym yn dysgu. Un o'r sgiliau mwyaf pwysig i'w ddatblygu yn y brifysgol yw'r gallu i ddechrau gyda thudalen wag a rhoi trefn ar eich syniadau er mwyn creu rhywbeth sy'n rhesymegol, yn ddiddorol ac yn fewnweledol.

Yma gallwch archwilio’r gweithdai byw sydd gan y Ganolfan Llwyddiant Academaidd i’w cynnig dros yr ychydig wythnosau nesaf ar y thema Ysgrifennu.