Dewch i’r gweithdai hyn i ddysgu mwy am bob agwedd o ysgrifennu academaidd.

O strwythur, i iaith a naws, mae’r gefnogaeth ar gael i chi yma!

pensiliau

Pob sesiwn

Singleton Campus

Bay Campus

Ar-lein

Dydd Mawrth 10fed Mawrth 2026

Ysgrifennu Adroddiadau

Mae'r gweithdy hwn yn trafod hanfodion ysgrifennu adroddiadau, gan gynnwys y strwythur, y diben a chyflwyno gwybodaeth yn effeithiol.

 Campws Bae
 Dydd Mawrth 10fed Mawrth 2026
 10:00 - 11:00

 hanfodion ysgrifennu adroddiadau

Cofrestrwch ar gyfer y gweithdy hwn
myfyriwr yn ysgrifennu adroddiad

Traethodau: cam wrth gam

Magu hyder wrth ysgrifennu'n academaidd. Mae'r cwrs ymarferol hwn a gynhelir dros gyfnod o 6 wythnos wedi'i ddylunio ar gyfer myfyrwyr sydd eisiau meistroli traethodau academaidd. Dysgwch am bob cam o'r broses ysgrifennu - o ddeall eich aseiniad i gyflwyno darn o waith caboledig. Datblygwch eich traethodau eich hun mewn amgylchedd cefnogol ar ffurf gweithdy.

Campws Bae
Dydd Mawrth 10fed Mawrth 2026 (Sesiwn 5 o 6)
12:00 - 13:30

Cofrestrwch i'r cwrs 6 wythnos hwn
Myfyriwr yn astudio

Golygu a Phrawf-ddarllen

Mae aseiniadau da’n datblygu o sawl drafft, felly mae golygu a phrawf-ddarllen yn hanfodol i ysgrifennu academaidd da. Mae'r gweithdy hwn yn canolbwyntio ar yr offer a'r technegau angenrheidiol i sicrhau bod eich ysgrifennu'n glir a heb wallau.

  Campws Bae
  Dydd Mawrth 10fed Mawrth 2026
  14:00 - 15:00

 ysgrifennu academaidd, golygu, prawf-ddarllen, drafftio

Cofrestrwch ar gyfer y gweithdy hwn
person yn darllen ei waith

Dydd Iau 12fed Mawrth 2026

Greu Cyflwyniad a Chasgliadau

Byddwch yn dysgu sut i ddechrau a gorffen eich aseiniad yn dda, gan gynnwys technegau i wella effaith eich cyflwyniadau a'ch casgliadau academaidd.

  Campws Bae
  Dydd Iau 12fed Mawrth 2026
  10:00 - 11:00

 ysgrifennu academaidd, cyflwyniadau, casgliadau

Cofrestrwch ar gyfer y gweithdy hwn
ysgwyd dwylo

Dod i adnabod LaTeX

Mae'r gweithdy hwn yn ganllaw i ddechreuwyr i ysgrifennu dogfennau yn LaTeX gan ddefnyddio Overleaf. Nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol nac unrhyw iaith gyfrifiadura arall ar gyfer y gweithdy hwn, bydd yn ymdrin â hanfodion LaTeX gan gynnwys strwythur y ddogfen, testun cysodi, tablau, ffigurau, hafaliadau a mewnosod cyfeiriadau.

  Campws Bae
  Dydd Iau 12fed Mawrth 2026
  11:00 - 12:00

Cofrestrwch ar gyfer y gweithdy hwn
Meddalwedd LaTeX ar gyfrifiadur

Datrys hafaliadau differol

Bydd y gweithdy hwn yn archwilio sut i ddatrys hafaliadau differol gan ddefnyddio dulliau gwahanol: integreiddio uniongyrchol, gwahanu amrywiannau a'r ffactor integreiddio.

 Campws Bae
 Dydd Iau 12fed Mawrth 2026
 12:00 - 13:00

Cofrestrwch ar gyfer y gweithdy hwn
Datrys hafaliadau differol

Profi Hypothesis

Mae'r gweithdy hwn yn rhoi cyflwyniad sylfaenol i ddadansoddiad ystadegol o ddata meintiol, gan gyflwyno dadansoddi data a phrofi hypothesis: Byddwn yn siarad am y cysyniad o brofi hypothesis, a'r rheswm pam mae hwn yn ddull hanfodol ar gyfer cynnal ein dadansoddiadau.

  Campws Bae
  Dydd Iau 12fed Mawrth 2026
  13:00 - 14:00

Cofrestrwch ar gyfer sesiwn 1 o 4
ie neu beidio

Profi Hypothesis ar Waith

Gan ddefnyddio setiau data penodol, gofynnir i chi lunio hypothesis, dewis profion ystadegol a dehongli canlyniadau. Byddwn yn gweithio yn y rhaglen R ac anogir myfyrwyr i ddilyn. Bydd y dadansoddiad ystadegol yn cynnwys dadansoddiadau cyffredin megis t-test, chi-squared a dadansoddi cydberthynas.

 Campws Bae
  Dydd Iau 12fed Mawrth 2026
  14:00 - 15:00

Cofrestrwch ar gyfer sesiwn 2 o 4
dychryn