Wythnos o weithdai ar gyfer deall disgwyliadau uniondeb academaidd
a sut i gynhyrchu gwaith academaidd clir a chywir

Dydd Mawrth 3ydd Mawrth 2026
Ysgrifennu beirniadol: Adolygu
Dysgwch syntheseiddio ymchwil bresennol â'ch syniadau eich hun, gan leoli eich gwaith yn y maes ehangach, darganfod ffyrdd o ddatblygu eich dadl a meithrin llais ysgolheigaidd hyderus wrth lunio adolygiadau llenyddiaeth sy'n dangos eich gwybodaeth a'ch cyfraniad unigryw.
Ar-lein trwy Zoom
Dydd Mawrth 3ydd Mawrth 2026
10:00 - 12:00
adolygiad llenyddiaeth
Cofrestrwch ar gyfer sesiwn 3 o 6
Pwysigrwydd Uniondeb Academaid
Mae'r gweithdy hwn am uniondeb academaidd yn esbonio sut i osgoi llên-ladrad, atal cydgynllwynio ac osgoi comisiynu a thorri rheoliadau arholiadau. Bydd yn rhoi i chi'r offer a'r wybodaeth i ragori mewn modd gonest yn eich ysgrifennu academaidd.
Ar-lein Trwy Zoom
Dydd Mawrth 3ydd Mawrth 2026
11:00 - 12:00
Uniondeb Academaidd, camymddygiad academaidd
Cofrestrwch i'r gweithdy hwn
Mynegiadau Mathemategol
Mae mynegiadau mathemategol yn rhifau, yn weithredwyr ac yn symbolau sydd wedi'u grwpio i 'fynegi' neu 'ddangos' gwerth. Unwaith y byddwch yn deall egwyddorion trin mynegiadau, gallwch ffactoreiddio a symleiddio mynegiadau. Mae'r gweithdy hwn yn archwilio casglu termau tebyg, ehangu cromfachau, ffactoreiddio mynegiadau cwadratig a thrin ffracsiynau algebraidd.
Ar-lein trwy Zoom
Dydd Mawrth 3ydd Mawrth 2026
12:00 - 13:00
AI a Sgiliau Academaidd
Mae'r cwrs hwn yn cyflwyno Deallusrwydd Artiffisial fel technoleg ddatblygol ac yn esbonio sut y gellir ei defnyddio i wella eich astudiaethau academaidd mewn ffordd effeithiol a gonest.
Ar-lein trwy Zoom
Dydd Mawrth 3ydd Mawrth 2026
13:00 - 15:00
sgiliau astudio, darllen, ysgrifennu, uniondeb academaidd
Cofrestrwch ar gyfer y gweithdy hwn
Profi Hypothesis
Mae'r gweithdy hwn yn rhoi cyflwyniad sylfaenol i ddadansoddiad ystadegol o ddata meintiol, gan gyflwyno dadansoddi data a phrofi hypothesis: Byddwn yn siarad am y cysyniad o brofi hypothesis, a'r rheswm pam mae hwn yn ddull hanfodol ar gyfer cynnal ein dadansoddiadau.
Ar-lein trwy Zoom
Dydd Mawrth 3ydd Mawrth 2025
15:00 - 16:00
Datrys hafaliadau differol
Bydd y gweithdy hwn yn archwilio sut i ddatrys hafaliadau differol gan ddefnyddio dulliau gwahanol: integreiddio uniongyrchol, gwahanu amrywiannau a'r ffactor integreiddio.
Ar-lein trwy Zoom
Dydd Mawrth 3ydd Mawrth 2026
16:00 - 17:00
Dydd Mercher 4ydd Mawrth 2026
Ysgrifennu Academaidd Saesneg
Mae’r cwrs hwn yn addas i fyfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf. Byddwch yn dysgu ac yn datblygu sgiliau ysgrifennu academaidd Saesneg. Mae'r cwrs yn trafod diben cyffredinol a strwythur ysgrifennu academaidd, ac elfennau gramadeg a geirfa academaidd i wella'ch ysgrifennu.
Ar-lein trwy Zoom
Dydd Mercher 4ydd Mawrth 2025 (Seswn 6 o 10)
13:00 - 14:00
ysgrifennu, gramadeg
Cofrestrwch i'r cwrs 10 wythnos hwn
Dydd Iau 5ed Mawrth 2026
Aralleirio a Dyfyniadau
Mae'r gweithdy hwn yn cynnig awgrymiadau am aralleirio, dyfynnu a chyfeirnodi ffynonellau allanol. Mae'r sgiliau hyn yn hanfodol i osgoi cyhuddiadau o lên-ladrad ac i gynnal uniondeb academaidd. Hefyd, dyma'r camau cyntaf i chi ymwneud yn feirniadol â'ch ffynonellau.
Ar-lein trwy Zoom
Dydd Iau 5ed Mawrth 2026
11:00 - 12:00
aralleirio, dyfynnu, cyfeirnodi
Cofrestrwch ar gyfer y gweithdy hwn
Dydd Gwener 6ed Mawrth 2026
Moesau ymchwil
Sesiwn drafod a holi ac ateb lle byddwn yn egluro'r perthynas rhwng dulliau ymchwil, a'r broses o gasglu data, gan gynnwys y penderfyniadau ac ymresymu sy'n rhan o'r broses fethodolegol. Byddwn yn trafod eich anghenion ymchwil penodol fel rhan o'r sesiwn.
Ar-lein trwy Zoom
Dydd Gwener 6ed Mawrth 2026
12:00 - 13:00


