O sut i ddelio â phryder, i ddal sylw eich cynulleidfa
dyma weithdai i helpu chi wella’ch sgiliau siarad yn gyhoeddus

Dydd Llun 23ain Chwefror 2026
Sgiliau cyflwyno effeithiol
Mae'r gweithdy hwn yn rhoi trosolwg cyffredinol o arfer gorau wrth baratoi ar gyfer cyflwyniad. Mae'n berffaith i'r rhai sydd ar fin rhoi cyflwyniad neu a hoffai ddiweddaru eu sgiliau.
Ar-lein trwy Zoom
Dydd Llun 23ain Chwefror 2026
09:00 - 10:00
sgiliau siaradwr, sgiliau cyflwyno
Cofrestrwch ar gyfer y gweithdy hwn
Cyflwyniad i sgiliau seminar
Byddwch yn gwella eich sgiliau siarad gyda'n Gweithdy Cyflwyniadau Addysgiadol. Byddwn yn astudio elfennau araith â strwythur da, yn dadansoddi 6 elfen areithiau addysgiadol, ac yn ystyried sut i gynnwys eich ffynonellau'n effeithiol.
Ar-lein trwy Zoom
Dydd Llun 23ain Chwefror 2026
11:00 - 12:00
hanfodion dylunio sleidiau, siarad er mwyn addysgu, strwythur
Cofrestrwch ar gyfer y gweithdy hwn
Dydd Mawrth 24ain Chwefror 2026
Awgrymiadau am waith grŵp
Gall gweithio mewn grŵp beri pryder ac mae llawer o bobl yn teimlo'n annifyr amdano. Mae'r gweithdy hwn yn ystyried y camau gwahanol o ffurfio grŵp a bydd yn eich helpu i ymdopi â dynameg grŵp, fel y gallwch gael y budd mwyaf o'ch gwaith grŵp.
Ar-lein trwy Zoom
Dydd Mawrth 24ain Chwefror 2026
09:00 - 10:00
gwaith grŵp, dynameg grŵp, asesiadau grŵp
Cofrestrwch ar gyfer y gweithdy hwn
Crynodeb, Cyflwyniadau a Llif
Dal sylw’r darllenydd o'r gair cyntaf, creu cyflwyniadau a chrynodebau gafaelgar sy'n amlinellu eich ymchwil, gwella'r strwythur a'r llif, esbonio gwerth unigryw eich gwaith a meistroli crefft cyflwyno gwybodaeth.
Ar-lein trwy Zoom
Dydd Mawrth 24ain Chwefror 2026
10:00 - 12:00
cyflwyniadau traethodau ymchwil, crynodebau i gyfnodolion, llif wrth ysgrifennu ymchwil
Cofrestrwch ar gyfer sesiwn 2 o 6
Rhoi areithiau darbwyllol
Byddwch yn meistroli crefft siarad yn ddarbwyllol, o'r cam cynllunio hyd at roi eich araith. Mae'r gweithdy hwn yn ddelfrydol i'r rhai sydd am fwyafu effeithiolrwydd eu dadleuon drwy bŵer rhethreg argyhoeddiadol.
Ar-lein trwy Zoom
Dydd Mawrth 24ain Chwefror 2026
11:00 - 12:00
siarad yn gyhoeddus, cyfathrebu effeithiol, dylanwadu a darbwyllo
Cofrestrwch ar gyfer y gweithdy hwn
Dileu Gauss
Mae'r gweithdy hwn yn adeiladu ar y gweithdy blaenorol ac yn archwilio strategaeth effeithlon ar gyfer pennu datrysiad system o hafaliadau llinol o'r enw dileu Gauss.
Ar-lein trwy Zoom
Dydd Mawrth 24ain Chwefror 2026
12:00 - 13:00
Rheolau differu
Bydd y gweithdy hwn yn archwilio differu o'r egwyddorion cyntaf, i'ch helpu i ddeall sut i ddefnyddio'r rheolau cyniferydd, cadwyn a lluoswm. Mae hefyd yn mynd i'r afael â gwerthoedd uchaf ac isaf ffwythiannau.
Ar-lein trwy Zoom
Dydd Mawrth 24ain Chwefror 2026
15:00 - 16:00
Dydd Mercher 25ain Chwefror 2026
Ysgrifennu Academaidd Saesneg
Mae’r cwrs hwn yn addas i fyfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf. Byddwch yn dysgu ac yn datblygu sgiliau ysgrifennu academaidd Saesneg. Mae'r cwrs yn trafod diben cyffredinol a strwythur ysgrifennu academaidd, ac elfennau gramadeg a geirfa academaidd i wella'ch ysgrifennu.
Ar-lein trwy Zoom
Dydd Mercher 25ain Chwefror 2026 (Seswn 5 o 10)
13:00 - 14:00
ysgrifennu, gramadeg
Cofrestrwch i'r cwrs 10 wythnos hwn
Dydd Iau 26ain Chwefror 2026
Canllawiau cyflwyno poster
Gall cyflwyno poster ymddangos yn ddull hawdd o gyflwyno eich ymchwil, ond mae sawl elfen i boster llwyddiannus. Mae'r gweithdy’n archwilio'r cysylltiadau rhwng dyluniad, cynnwys a'r cyflwyniad, yn darparu enghreifftiau o bosteri da ac awgrymiadau am gyflwyniad hyderus.
Ar-lein trwy Zoom
Dydd Iau 26ain Chwefror 2026
09:00 - 10:00
dylunio poster, poster ymchwil
Cofrestrwch ar gyfer y gweithdy hwn
Strwythuro cyflwyniad cofiadol
Mae’r gallu i fathu sylw cynulleidfa a’i gadw trwy gydol eich cyflwyniad yn sgil amhrisiadwy. Yn y sesiwn hwn, edrychwn ar strategaethau sy’n gweithio, camgymeriadau cyffredin i’w hosgoi, a deall sut i strwythuro cyflwyniadau sy’n cyfathrebu eich neges yn effeithiol.
Ar-lein trwy Zoom
Dydd Iau 26ain Chwefror 2026
10:00 - 11:00
Sgiliau cyflwyno effeithiol
Mae'r gweithdy hwn yn rhoi trosolwg cyffredinol o arfer gorau wrth baratoi ar gyfer cyflwyniad. Mae'n berffaith i'r rhai sydd ar fin rhoi cyflwyniad neu a hoffai ddiweddaru eu sgiliau.
Ar-lein tryw Zoom
Dydd Iau 26ain Chwefror 2026
11:00 - 12:00
sgiliau siaradwr, sgiliau cyflwyno
Cofrestrwch ar gyfer y gweithdy hwn
Dydd Gwener 27ain Chwefror 2026
Cyflwyniadau arlein
Bydd y gweithdy hwn yn ystyried gwahanol lwyfannau a meddalwedd ar gyfer cyflwyno ar-lein, gan gynnwys sut i ddefnyddio’r offer yn effeithiol ac yn hyderus, goresgyn a pharatoi ar gyfer heriau technolegol, a chyngor ymarferol i’w hystyried ynglŷn â’ch arddull cyflwyno.
Ar-lein trwy Zoom
Dydd Gwener 27ain Chwefror 2026
12:00 - 13:00


