Mae meddwl yn feirniadol yn sgil academaidd bwysig
Dewch i ddarganfod beth mae hyn yn ei olygu a sut i’w ddangos yn eich gwaith

Dydd Llun 16eg Chwefror 2026
Cyflwyniad i Feddwl Beirniadol
Mae meddwl yn feirniadol yn sgìl allweddol yn y brifysgol. Ond pam mae mor bwysig a sut gallwn ei ymarfer a'i gyflwyno? Yn y gweithdy ymarferol hwn byddwn yn nodi ac yn dadansoddi elfennau hanfodol meddwl yn feirniadol er mwyn gwella'ch dadleuon ysgrifenedig.
Campws Singleton
Dydd Llun 16eg Chwefror 2026
10:00 - 11:00
meddwl yn feirniadol, dadleuon, gwerthuso
Cofrestrwch ar gyfer y gweithdy hwn
Ysgrifennu Academaidd Saesneg
Mae’r cwrs hwn yn addas i fyfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf. Byddwch yn dysgu ac yn datblygu sgiliau ysgrifennu academaidd Saesneg. Mae'r cwrs yn trafod diben cyffredinol a strwythur ysgrifennu academaidd, ac elfennau gramadeg a geirfa academaidd i wella'ch ysgrifennu.
Campws Singleton
Dydd Llun 16eg Chwefror 2026 (Sesiwn 4 o 10)
12:00 - 13:00
ysgrifennu, gramadeg
Cofrestrwch i'r cwrs 10 wythnos hwn
Strwythur Dadleuon
Byddwch yn dysgu sut i gyflwyno a thrafod dadleuon academaidd yn gywir, yn rhesymegol ac yn ddarbwyllol.
Campws Singleton
Dydd Llun 16eg Chwefror 2026
13:00 - 14:00
ysgrifennu academaidd, dadleuon, arddull academaidd
Cofrestrwch ar gyfer y gweithdy hwn
Deall Rhethreg
Beth yw rhethreg? Ble ydym yn dod o hyd iddi, a pham mae hynny o bwys? Bydd y gweithdy hwn yn amlinellu’r cysyniad o rethreg drwy grynhoi’n fyr wreiddiau ei hastudiaeth, a darparu fframweithiau ar gyfer dadansoddi rhethregol. Bydd yn defnyddio enghreifftiau presennol o rethreg ar waith, ac yn hybu dadl.
Campws Singleton
Dydd Llun 16eg Chwefror 2026
14:00 - 16:00
ysgrifennu academaidd, dadleuon, arddull academaidd
Cofrestrwch ar gyfer y gweithdy hwn
Dydd Mawrth 17eg Chwefror 2026
Sesiynau galw heibio
Rydym yn cynnig cymorth cyfeillgar un i un trwy sesiynau galw heibio wythnosol i gefnogi ysgrifennu, cyflwyno cyflwyniadau a pharatoi ar gyfer arholiadau. Does dim angen gwneud apwyntiad, dim ond galw draw i gael sgwrs gydag un o'n cynghorwyr.
Derbynfa Bloc Stablau, Campws Singleton
Dydd Mawrth 17eg Chwefror 2026
10:00 - 11:30
Creu taenlen
Am gael ffordd effeithlon o brosesu eich data? Byddwch yn dysgu sut i ddidoli a labelu symiau mawr o wybodaeth gan eich galluogi i echdynnu'r wybodaeth angenrheidiol yn gyflym.
Campws Singleton
Dydd Mawrth 17eg Chwefror 2026
10:00 - 12:00
sgiliau digidol, Excel
Cofrestrwch ar gyfer y gweithdy hwn
Ysgrifennu’n feirniadol
Technegau ac ymarferion i ddatblygu a chryfhau eich ysgrifennu academaidd.
Campws Singleton
Dydd Mawrth 17eg Chwefror 2026
11:00 - 12:00
Ynganu
Dyma gwrs ar gyfer myfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf. Bydd yn rhoi cyfle i chi ymarfer seiniau gwahanol a phwysleisiau amrywiol mewn brawddegau yn Saesneg er mwyn eich galluogi i siarad yn fwy rhugl a naturiol a chael eich deall yn well.
Singleton Campus
Dydd Mawrth 17eg Chwefror 2026 (Sesiwn 4 o 8)
12:00 - 13:00
ynganu Saesneg, seiniau Saesneg, pwyslais mewn brawddeg
Cofrestrwch i'r cwrs 8 wythnos hwn
Beirniadu Erthygl
Bydd y gweithdy hwn yn cyflwyno ffyrdd o ddeall, dadansoddi a gwerthuso testun fel y gallwch ei ddehongli'n hyderus ac yn feirniadol. Drwy wneud hyn byddwch yn arbed amser a bydd eich ysgrifennu'n fwy pwrpasol.
Campws Singleton
Dydd Mawrth 17eg Chwefror 2026
13:00 - 14:00
darllen yn feirniadol, meddwl yn feirniadol, dadleuon
Cofrestrwch ar gyfer y gweithdy hwn
Dehongli eich canlyniadau
Mae’r drafodaeth yn rhan bwysig o gyfathrebu ystyr, arwyddocâd, a goblygiadau eich canlyniadau. I ymchwilwyr ansoddol (qualitative) yn arbennig, mae perthynas agos rhwng dehongli a phrosesu data. Yn y gweithdy hwn, byddwn yn trafod gofynion cyffredin yr adran ‘trafodaeth’, a bydd cyfle i drafod eich ymchwil chi, a holi cwestiynau.
Campws Singleton
Dydd Mawrth 17eg Chwefror 2026
14:00 - 15:00
Strwythuro dadl
Trwy ymarferion ac enhreifftiau, dysgwch sut i gyflwyno a thrafod dadleuon academaidd effeithiol yn y gweithdy ymarferol hwn.
Campws Singleton
Dydd Mawrth 17eg Chwefror 2026
15:00 - 16:00
Defnyddio Fformiwlâu yn Excel
Byddwch yn dysgu hanfodion defnyddio fformiwlâu yn Excel, a sut i ddefnyddio fformiwlâu i symio, cyfrif, defnyddio ystadegau, gwyriad safonol, mesur o wasgariad, dehongliad rhesymegol i wirio data.
Campws Singleton
Dydd Mawrth 17eg Chwefror 2026
15:00 - 17:00
sgiliau digidol, Excel, fformiwlâu
Cofrestrwch ar gyfer y gweithdy hwn
Dydd Mercher 18fed Chwefror 2026
Cyflwyniad i Feddwl Beirniadol
Mae meddwl yn feirniadol yn sgìl allweddol yn y brifysgol. Ond pam mae mor bwysig a sut gallwn ei ymarfer a'i gyflwyno? Yn y gweithdy ymarferol hwn byddwn yn nodi ac yn dadansoddi elfennau hanfodol meddwl yn feirniadol er mwyn gwella'ch dadleuon ysgrifenedig.
Campws Singleton
Dydd Mercher 18fed Chwefror 2026
10:00 - 11:00
meddwl yn feirniadol, dadleuon, gwerthuso
Cofrestrwch ar gyfer y gweithdy hwn
Sesiynau galw heibio
Rydym yn cynnig cymorth cyfeillgar un i un trwy sesiynau galw heibio wythnosol i gefnogi ysgrifennu, cyflwyno cyflwyniadau a pharatoi ar gyfer arholiadau. Does dim angen gwneud apwyntiad, dim ond galw draw i gael sgwrs gydag un o'n cynghorwyr.
Derbynfa Bloc Stablau, Campws Singleton
Dydd Mercher 18fed Chwefror 2026
10:00 - 11:30
Creu tablau pifod
Dysgwch sut i ddefnyddio tablau pifod i echdynnu gwybodaeth allweddol heb effeithio ar y data gwreiddiol. Bydd y gweithdy hefyd yn trafod sut i ychwanegu cyfres o dablau pifod yn yr un daenlen Excel, gan edrych ar wahanol agweddau ar y data a sut i'w diweddaru a'i diwygio.
Campws Singleton
Dydd Mercher 18fed Chwefror 2026
10:00 - 12:00
sgiliau digidol, Excel
Cofrestrwch ar gyfer y gweithdy hwn
Meddwl yn feirniadol
Technegau ac ymarferion i’ch helpu i ddatblygu’r sgil academaidd hanfodol hwn.
Campws Singleton
Dydd Mercher 18fed Chwefror 2026
11:00 - 12:00
Hanfodion gramadeg
Mae'r cwrs yn addas i fyfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf. Bydd yn helpu i wella'ch gramadeg sylfaenol cyn i chi ysgrifennu'ch aseiniadau. Mae’n trafod meysydd allweddol gramadeg Saesneg fel y stad weithredol/oddefol a strwythurau brawddegau sylfaenol i wella cywirdeb ysgrifenedig.
Campws Singleton
Dydd Mercher 18fed Chwefror 2026 (Sesiwn 4 o 10)
12:00 - 13:00
ysgrifennu, gramadeg
Cofrestrwch i'r cwrs 10 wythnos hwn
Algebra Llinol
Yn y gweithdy hwn, byddwn yn cyflwyno'r cysyniad o algebra llinol. Efallai eich bod wedi dod ar draws setiau o ddau neu dri hafaliad ar y pryd o'r blaen. Byddwn yn ymestyn y syniad o hafaliadau cydamserol ym maes ehangach algebra llinol. Byddwn yn edrych ar ddatrysiadau gwahanol setiau o hafaliadau cydamserol.
Campws Singleton
Dydd Mercher 18fed Chwefror 2026
12:00 - 13:00
Traethodau: cam wrth gam
Magu hyder wrth ysgrifennu'n academaidd. Mae'r cwrs ymarferol hwn a gynhelir dros gyfnod o 6 wythnos wedi'i ddylunio ar gyfer myfyrwyr sydd eisiau meistroli traethodau academaidd. Dysgwch am bob cam o'r broses ysgrifennu - o ddeall eich aseiniad i gyflwyno darn o waith caboledig. Datblygwch eich traethodau eich hun mewn amgylchedd cefnogol ar ffurf gweithdy.
Campws Singleton
Dydd Mercher 18fed Chwefror 2026 (Sesiwn 2 o 6)
13:00 - 14:30
Meddwl Creadigol
Allwch chi, mewn gwirionedd, ddysgu bod yn fwy creadigol? Wrth gwrs y gallwch chi! Bydd y gweithdy hwn yn rhoi i chi 7 ffordd newydd o ddatblygu eich galluoedd creadigol.
Campws Singleton
Dydd Mercher 18fed Chwefror 2026
13:00 - 15:00
sgiliau astudio, creadigrwydd
Cofrestrwch ar gyfer y gweithdy hwn
Profion Modelau Ystadegol yn R
Bydd y gweithdy hwn yn cyflwyno profion dadansoddi ystadegol mwy cymhleth ond cyffredin: dadansoddiad atchweliad. Gan weithio yn y rhaglen R, bydd myfyrwyr yn cael setiau data ac yn gweithio drwy'r dadansoddiad ystadegol a'r dehongliad priodol (gan gynnwys atchweliad llinellol ac atchweliad model cymysg).
Campws Singleton
Dydd Mercher 18fed Chwefror 2026
14:00 - 15:00
Siartiau a graffiau yn Excel
Dysgwch arddangos eich canfyddiadau gan ddefnyddio'r siart priodol a diwygio elfennau'r siart i olygu'r dyluniad a'r cynllun. Bydd y gweithdy hwn hefyd yn eich addysgu sut i ddefnyddio graddfa logarithmig a bariau gwall a sut i allforio siartiau i ddogfennau eraill.
Campws Singleton
Dydd Mercher 18fed Chwefror 2026
14:00 - 16:00
sgiliau digidol, Excel, siartiau
Cofrestrwch ar gyfer y gweithdy hwn
Delweddu Data yn R
Bydd y gweithdy hwn yn canolbwyntio ar ddelweddu data, bydd myfyrwyr yn gweithio drwy'r ffordd orau o ddelweddu canlyniadau dadansoddi ystadegol mewn ffordd ystyrlon.
Campws Singleton
Dydd Mercher 18fed Chwefror 2026
15:00 - 16:00
Galw heibio Mathemateg
Rydym yn cynnig cefnogaeth gyfeillgar un i un drwy sesiynau galw heibio wythnosol ar gyfer cymorth gyda mathemateg ac ystadegau. Nid oes angen gwneud apwyntiad. Galwch draw i gael sgwrs gydag un o'n cynghorwyr.
Ystafell CAS 36, Bloc Stablau, Campws Singleton
Dydd Mercher 18fed Chwefror 2026
15:00 - 17:00
Dydd Iau 19eg Chwefror 2026
Ysgrifennu’n Feirniadol
Archwiliwch y gwahaniaeth rhwng ysgrifennu disgrifiadol ac ysgrifennu beirniadol, beth mae eich darlithwyr yn ei olygu wrth ofyn i chi fod yn 'fwy beirniadol' neu'n 'llai disgrifiadol' a sut i gyfleu eich meddwl yn feirniadol drwy ysgrifennu.
Campws Singleton
Dydd Iau 19eg Chwefror 2026
10:00 - 11:00
ysgrifennu beirniadol, dadansoddi beirniadol, dadleuon
Cofrestrwch ar gyfer y gweithdy hwn
Gramadeg Uwch
Bydd y cwrs hwn yn eich helpto ddatblygu eich sgiliau cyfathrebu, yn ysgrifenedig ac yn lafar. Bydd gallu adnabod patrymau gramadegol ac yna eu rhoi ar waith yn eich gwaith eich hun yn gwella eglurder eich gwaith.
Campws Singleton
Dydd Iau 19eg Chwefror 2026 (Sesiwn 4 o 8)
11:00 - 12:00
ysgrifennu, gramadeg
Cofrestrwch i'r cwrs 8 wythnos hwn
Sgiliau Darllen
Bydd y cwrs hwn yn cyflwyno strategaethau gwahanol i wella'ch geirfa a'ch dealltwriaeth wrth ddarllen. Byddwch yn dysgu ffyrdd o wella eich darllen yn Saesneg, gan ddefnyddio ffynonellau academaidd a thestun newyddion.
Campws Singleton
Dydd Iau 19eg Chwefror 2026 (Sesiwn 4 o 5)
12:00 - 13:00
sgiliau astudio, cymorth iaith Saesneg, darllen academaidd
Cofrestrwch i'r cwrs 5 wythnos hwn
Meddwl yn Feirniadol Mewn Dadl
Mae'r gweithdy hwn yn cymhwyso sgiliau meddwl yn feirniadol i ddadleuon a sgyrsiau. Byddwn yn ystyried beth sy'n gwneud siaradwr yn ddarbwyllol, ac yna sut gallem gymhwyso gwybodaeth am ddadleuon i fod yn fwy darbwyllol ac effeithiol mewn dadleuon a sgyrsiau.
Campws Singleton
Dydd Iau 19eg Chwefror 2026
13:00 - 14:00
meddwl yn feirniadol, trafodaethau, dadl
Cofrestrwch ar gyfer y gweithdy hwn
Dydd Gwener 20fed Chwefror 2026
Cyflwyniad i Dwyllresymegau
Mae llawer o'r dadleuon rydym yn dod ar eu traws o ddydd i ddydd yn ymddangos yn eithaf argyhoeddiadol, ond wrth edrych arnynt yn fanylach, maen nhw'n anghywir. Sut gall hyn ddigwydd? Mae'r gweithdy hwn yn cynnig cyflwyniad i fyd cymhleth ond diddorol 'cam-syniadau rhesymegol', gan esbonio sut gall dadleuon gwael ymddangos yn dda a sut gall hyn effeithio ar ein ffordd o feddwl.
Campws Singleton
Dydd Gwener 20fed Chwefror 2026
10:00 - 11:00
Clwb siarad
Mae'r Clwb Siarad yn rhoi cyfle i fyfyrwyr rhyngwladol gwrdd a sgwrsio â chyd-fyfyrwyr mewn amgylchedd lled-strwythuredig a chefnogol. Dyma gyfle i wella'ch sgiliau cyfathrebu a magu hyder. Dewch i ymuno â ni!
Campws Singleton
Dydd Gwener 20fed Chwefror 2026 (Sesiwn 4 o 10)
11:00 - 12:00
cyfathrebu llafar, siarad yn hyderus
Cofrestrwch i'r cwrs 10 wythnos hwn


