Mae meddwl yn feirniadol yn sgil academaidd bwysig
Dewch i ddarganfod beth mae hyn yn ei olygu a sut i’w ddangos yn eich gwaith

Dydd Mawrth 17eg Chwefror 2026
Cyflwyniad i Feddwl Beirniadol
Mae meddwl yn feirniadol yn sgìl allweddol yn y brifysgol. Ond pam mae mor bwysig a sut gallwn ei ymarfer a'i gyflwyno? Yn y gweithdy ymarferol hwn byddwn yn nodi ac yn dadansoddi elfennau hanfodol meddwl yn feirniadol er mwyn gwella'ch dadleuon ysgrifenedig.
Ar-lein trwy Zoom
Dydd Mawrth 17eg Chwefror 2026
09:00 - 10:00
meddwl yn feirniadol, dadleuon, gwerthuso
Cofrestrwch ar gyfer y gweithdy hwn
Ysgrifennu’n Feirniadol
Archwiliwch y gwahaniaeth rhwng ysgrifennu disgrifiadol ac ysgrifennu beirniadol, beth mae eich darlithwyr yn ei olygu wrth ofyn i chi fod yn 'fwy beirniadol' neu'n 'llai disgrifiadol' a sut i gyfleu eich meddwl yn feirniadol drwy ysgrifennu.
Ar-lein trwy Zoom
Dydd Mawrth 17eg Chwefror 2026
11:00 - 12:00
ysgrifennu beirniadol, dadansoddi beirniadol, dadleuon
Cofrestrwch ar gyfer y gweithdy hwn
Lluosi Matrics
Mae'r gweithdy hwn yn archwilio cynnyrch dot dau fector, lluosi matrics â sgalar, lluosi matrics â fector, lluosi matrics â matrics, a chyfreithiau ar gyfer lluosi matrics.
Campws Singleton
Dydd Mawrth 17eg Chwefror 2026
12:00 - 13:00
Integreiddio drwy Rannau
Yn y gweithdy hwn byddwn yn adolygu ac yn ymarfer Integreiddio drwy Rannau, Integreiddio drwy Rannau fwy nag unwaith, ac Integreiddio Swyddogaethau Rhesymegol.
Ar-lein trwy Zoom
Dydd Mawrth 17eg Chwefror 2026
15:00 - 16:00
Algebra Llinol
Yn y gweithdy hwn, byddwn yn cyflwyno'r cysyniad o algebra llinol. Efallai eich bod wedi dod ar draws setiau o ddau neu dri hafaliad ar y pryd o'r blaen. Byddwn yn ymestyn y syniad o hafaliadau cydamserol ym maes ehangach algebra llinol. Byddwn yn edrych ar ddatrysiadau gwahanol setiau o hafaliadau cydamserol.
Ar-lein trwy Zoom
Dydd Mawrth 17eg Chwefror 2026
16:00 - 17:00
Dydd Mercher 18fed Chwefror 2026
Ysgrifennu Academaidd Saesneg
Mae’r cwrs hwn yn addas i fyfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf. Byddwch yn dysgu ac yn datblygu sgiliau ysgrifennu academaidd Saesneg. Mae'r cwrs yn trafod diben cyffredinol a strwythur ysgrifennu academaidd, ac elfennau gramadeg a geirfa academaidd i wella'ch ysgrifennu.
Ar-lein trwy Zoom
Dydd Mercher 18fed Chwefror 2026 (Seswn 4 o 10)
13:00 - 14:00
ysgrifennu, gramadeg
Cofrestrwch i'r cwrs 10 wythnos hwn
Dydd Iau 19eg Chwefror 2026
Meddwl yn Feirniadol Mewn Dadl
Mae'r gweithdy hwn yn cymhwyso sgiliau meddwl yn feirniadol i ddadleuon a sgyrsiau. Byddwn yn ystyried beth sy'n gwneud siaradwr yn ddarbwyllol, ac yna sut gallem gymhwyso gwybodaeth am ddadleuon i fod yn fwy darbwyllol ac effeithiol mewn dadleuon a sgyrsiau.
Ar-lein trwy Zoom
Dydd Iau 19eg Chwefror 2026
09:00 - 10:00
meddwl yn feirniadol, trafodaethau, dadl
Cofrestrwch ar gyfer y gweithdy hwn
Strwythur Dadleuon
Byddwch yn dysgu sut i gyflwyno a thrafod dadleuon academaidd yn gywir, yn rhesymegol ac yn ddarbwyllol.
Ar-lein trwy Zoom
Dydd Iau 19eg Chwefror 2026
11:00 - 12:00
ysgrifennu academaidd, dadleuon, arddull academaidd
Cofrestrwch ar gyfer y gweithdy hwn
Dydd Gwener 20fed Chwefror 2026
Cyflwyniad i Dwyllresymegau
Mae llawer o'r dadleuon rydym yn dod ar eu traws o ddydd i ddydd yn ymddangos yn eithaf argyhoeddiadol, ond wrth edrych arnynt yn fanylach, maen nhw'n anghywir. Sut gall hyn ddigwydd? Mae'r gweithdy hwn yn cynnig cyflwyniad i fyd cymhleth ond diddorol 'cam-syniadau rhesymegol', gan esbonio sut gall dadleuon gwael ymddangos yn dda a sut gall hyn effeithio ar ein ffordd o feddwl.
Ar-lein trwy Zoom
Dydd Gwener 20fed Chwefror 2026
09:00 - 10:00
Ysgrifennu’n feirniadol
Technegau ac ymarferion i ddatblygu a chryfhau eich ysgrifennu academaidd.
Ar-lein trwy Zoom
Dydd Gwener 20fed Chwefror 2026
10:00 - 11:00
Beirniadu Erthygl
Bydd y gweithdy hwn yn cyflwyno ffyrdd o ddeall, dadansoddi a gwerthuso testun fel y gallwch ei ddehongli'n hyderus ac yn feirniadol. Drwy wneud hyn byddwch yn arbed amser a bydd eich ysgrifennu'n fwy pwrpasol.
Ar-lein trwy Zoom
Dydd Gwener 20fed Chwefror 2026
11:00 - 12:00
darllen yn feirniadol, meddwl yn feirniadol, dadleuon
Cofrestrwch ar gyfer y gweithdy hwn
Darllen yn feirniadol
Bydd y gweithdy hwn yn cyflwyno ffyrdd o ddeall, dadansoddi a gwerthuso testunnau er mwyn eu dehongli yn feirniadol ac yn hyderus. Bydd hyn yn arbed amser i chi, ac yn helpu i wneud eich ysgrifennu’n fwy ystyrlon.
Ar-lein trwy Zoom
Dydd Gwener 20fed Chwefror 2026
12:00 - 13:00


