gliniadur

Sgiliau digidol yw'r ffordd rydych yn trin, cyflwyno a chyfleu gwybodaeth a chynnwys gan ddefnyddio offer a phlatfformau digidol. Mae hyn yn cynnwys datrys problemau, arloesi, a chreu cynnwys a chyfryngau digidol, yn academaidd ac yn broffesiynol.

Yma gallwch archwilio’r gweithdai byw sydd gan y Ganolfan Llwyddiant Academaidd i’w cynnig dros yr ychydig wythnosau nesaf ar y thema Sgiliau Digidol.


Dydd Gwener 21ain Chwefror 2025

Defnyddio capsiynau yn Word

Byddwch yn dysgu ychwanegu lluniau, siartiau, tablau a hafaliadau at ddogfen Word gyda'r capsiynau priodol, ac addasu labeli ac arddulliau rhifo. Creu rhestrau o dablau neu ffigurau a dolen gyfeirio at y capsiwn yn eich testun.

 Campws Bae
  Dydd Gwener 21ain Chwefror 2025
 10:00 - 12:00 GMT

 sgiliau digidol, Word, capsiynau, croesgyfeirio, tabl ffigurau

Cofrestrwch ar gyfer y gweithdy hwn
Person yn golygu dogfen Word gyda chapsiwn

Dydd Mawrth 25ain Chwefror 2025

Dylunio posteri yn PowerPoint

Hoffech chi ddylunio posteri o safon broffesiynol i ennyn diddordeb eich cynulleidfa? Mae'r gweithdy hwn yn dangos i chi sut i greu posteri academaidd effeithiol, gan sicrhau bod yr wybodaeth yn ddarllenadwy o bellter priodol.

 Campws Singleton
  Dydd Mawrth 25ain Chwefror 2025
 14:00 - 16:00 GMT

 sgiliau digidol, PowerPoint, dylunio posteri

Cofrestrwch ar gyfer y gweithdy hwn
dyluniad poster wedi'i ffugio ar hysbysfwrdd

Dydd Mercher 26ain Chwefror 2025

Ymgyfarwyddo â Python

Mae'r gweithdy hwn yn ganllaw i ddechreuwyr i Python. Byddwn yn ymdrin â chysyniadau sylfaenol (amrywiolyn, mathau, rhestrau), ac yna'n symud ymlaen gan ddefnyddio swyddogaethau, dulliau a phecynnau i wella eich sgiliau ysgrifennu côd. Ar y diwedd byddwn yn ymdrin â NumPy, sef pecyn gwyddor data sylfaenol yn Python.

  Campws Singleton
  Dydd Mercher 26ain Chwefror 2025
  14:00 - 15:00 GMT

Cofrestrwch ar gyfer y gweithdy hwn
myfyriwr yn edrych ar werslyfr Python

Python Canolradd

Mae'r gweithdy canolraddol hwn yn adeiladu ar weithdy Ymgyfarwyddo â Python drwy archwilio delweddu data drwy Matplotlib, deall geiriaduron a Pandas, gan ddefnyddio rhesymeg, llif rheoli a hidlo yn ogystal â dolen ar gyfer gweithredu côd ailadroddus.

 Campws Singleton
  Dydd Mercher 26ain Chwefror 2025
 15:00 - 16:00 GMT

Cofrestrwch ar gyfer y gweithdy hwn
sleidiau cyflwyniad ar gyfrifiadur

Egwyddorion Dylunio Sleidiau

Ydy'ch cyflwyniadau’n dal sylw’ch cynulleidfa? Yn ein gweithdy dylunio sleidiau dysgwch ganllawiau call i wneud y gorau o Microsoft PowerPoint, creu cyflwyniadau mwy deniadol ac osgoi'r camgymeriadau sylfaenol sy'n colli diddordeb eich cynulleidfa.

Campws Singleton
Dydd Mercher 26ain Chwefror 2025
14:00 - 16:00 GMT

sgiliau digidol, PowerPoint, dylunio sleidiau

Cofrestrwch ar gyfer y gweithdy hwn
sleidiau cyflwyniad ar gyfrifiadur

Dydd Gwener 28ain Chwefror 2025

Creu taenlen

Am gael ffordd effeithlon o brosesu eich data? Byddwch yn dysgu sut i ddidoli a labelu symiau mawr o wybodaeth gan eich galluogi i echdynnu'r wybodaeth angenrheidiol yn gyflym.

 Campws Bae
 Dydd Gwener 28ain Chwefror 2025
10:00 - 12:00 GMT

 sgiliau digidol, Excel

Cofrestrwch ar gyfer y gweithdy hwn
person sy'n gweithio ar daenlen