Er mwyn ennill y safonau sydd eu hangen ar gyfer astudio ar lefel ôl-raddedig, mae bron yn sicr y bydd angen i chi wella eich sgiliau astudio ymhellach. Disgwylir y bydd eich gwaith ymchwil a'ch lefelau dadansoddi yn fwy manwl a gwreiddiol. Bydd angen i'ch sgiliau cyfathrebu, yn ysgrifenedig ac ar lafar, fod yn uwch.
Gweithdai ol-raddedig

Dydd Mawrth 21ain Hydref - Dydd Mawrth 25ain Tachwedd 2025
ysgrifennu ymchwil ôl-raddedig
Bydd y gweithdai hyn yn addas i fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig. Maent yn canolbwyntio ar y sgiliau sy'n angenrheidiol i ysgrifennu'n llwyddiannus am ymchwil. Mewn amgylchedd cydweithredol, byddwch yn datblygu arferion ysgrifennu da, yn gwella eich sgiliau ysgrifennu academaidd ac yn dysgu sut i fyfyrio’n feirniadol ar ddrafft eich traethawd estynedig.
Campws Singleton
Yn dechrau dydd Mawrth 21ain Hydref 2025
10:00 - 12:00
