Bydd y gweithdai hyn yn addas i fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig. Maent yn canolbwyntio ar y sgiliau sy'n angenrheidiol i ysgrifennu'n llwyddiannus am ymchwil. Mewn amgylchedd cydweithredol, byddwch yn datblygu arferion ysgrifennu da, yn gwella eich sgiliau ysgrifennu academaidd ac yn dysgu sut i fyfyrio’n feirniadol ar ddrafft eich traethawd estynedig.

Mae'r gyfres hon yn cynnwys y ddwy sesiwn ganlynol sy'n para dwy awr - gallwch ddewis pa weithdai i gymryd rhan ynddynt wrth gofrestru:

Crynodeb, Cyflwyniadau a Llif

Dal sylw’r darllenydd o'r gair cyntaf, creu cyflwyniadau a chrynodebau gafaelgar sy'n amlinellu eich ymchwil, gwella'r strwythur a'r llif, esbonio gwerth unigryw eich gwaith a meistroli crefft cyflwyno gwybodaeth.

 Campws Singleton
 Dydd Mawrth 12fed Tachwydd 2024
 10:00 - 12:00 BST

 cyflwyniadau traethodau ymchwil, crynodebau i gyfnodolion, llif wrth ysgrifennu ymchwil

Cofrestrwch ar gyfer sesiwn 2 o 6
nant sy'n llifo

Ysgrifennu beirniadol: Adolygu

Dysgwch syntheseiddio ymchwil bresennol â'ch syniadau eich hun, gan leoli eich gwaith yn y maes ehangach, darganfod ffyrdd o ddatblygu eich dadl a meithrin llais ysgolheigaidd hyderus wrth lunio adolygiadau llenyddiaeth sy'n dangos eich gwybodaeth a'ch cyfraniad unigryw.

  Campws Singleton
  Dydd Mawrth 19eg Tachwedd 2024
 10:00 - 12:00 BST

 adolygiad llenyddiaeth

Cofrestrwch ar gyfer sesiwn 3 o 6
pentwr o lyfrau gyda sbectol ddarllen

Ysgrifennu am ddulliau ymchwil

Byddwch yn dysgu'r gwahaniaeth rhwng methodoleg a dulliau a'r hyn y dylid ei gynnwys ym mhenodau dylunio ymchwil eich traethawd ymchwil. Byddwch yn gallu ysgrifennu'n glir ac yn gryno am eich proses dylunio ymchwil.

  Campws Singleton
  Dydd Mawrth 26ain Tachwedd 2024
 10:00 - 12:00 BST

 ysgrifennu am ddulliau ymchwil

Cofrestrwch ar gyfer sesiwn 4 o 6
myfyriwr mewn labordy

Penodau olaf a golygu

Yn y gweithdy hwn byddwch yn dysgu strwythuro eich trafodaethau a'ch casgliadau'n effeithiol, sut i gyflwyno honiadau a'u hategu'n hyderus a gadael argraff barhaol ar eich darllenwyr. Yn olaf, byddwch yn mireinio'ch sgiliau golygu i berffeithio'ch gwaith.

Campws Singleton
Dydd Mawrth 3ydd Rhagfyr 2024
10:00 - 12:00 BST

 trafodaethau, casgliadau, golygu

Cofrestrwch ar gyfer sesiwn 5 o 6
gwirio gwaith

Fformatio traethawd ymchwil

Mae gwaith wedi'i gyflwyno'n dda yn ennill graddau uwch. Bydd y gweithdy ymarferol hwn yn addysgu’r holl awgrymiadau ac argymhellion i chi er mwyn gwneud y gorau o Microsoft Word. Byddwch yn dysgu sut i fodloni safonau academaidd a rhoi golwg broffesiynol ar eich gwaith.

Campws Singleton
Dydd Mawrth 10fed Rhagfyr 2024
10:00 - 12:00 BST

 gwaith wedi'i gyflwyno'n dda

Cofrestrwch ar gyfer sesiwn 6 o 6
Myfyriwr hapus gyda dogfen wedi'i chyflwyno'n dda