graddedig

Er mwyn ennill y safonau sydd eu hangen ar gyfer astudio ar lefel ôl-raddedig, mae bron yn sicr y bydd angen i chi wella eich sgiliau astudio ymhellach. Disgwylir y bydd eich gwaith ymchwil a'ch lefelau dadansoddi yn fwy manwl a gwreiddiol. Bydd angen i'ch sgiliau cyfathrebu, yn ysgrifenedig ac ar lafar, fod yn uwch.

Yma gallwch archwilio’r gweithdai byw sydd gan y Ganolfan Llwyddiant Academaidd i’w cynnig dros yr ychydig wythnosau nesaf ar thema Astudio Ôl-raddedig.

ysgrifennu ymchwil ôl-raddedig

Bydd y gweithdai hyn yn addas i fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig. Maent yn canolbwyntio ar y sgiliau sy'n angenrheidiol i ysgrifennu'n llwyddiannus am ymchwil. Mewn amgylchedd cydweithredol, byddwch yn datblygu arferion ysgrifennu da, yn gwella eich sgiliau ysgrifennu academaidd ac yn dysgu sut i fyfyrio’n feirniadol ar ddrafft eich traethawd estynedig.

 Campws Singleton
 Yn dechrau dydd Mawrth 4ydd Mawrth 2025
 10:00 - 12:00 GMT

Cyfres ysgrifennu ymchwil ôl-raddedig
Llyfrau yn y llyfrgell

Dydd Gwener 7fed Mawrth 2025

Moesau ymchwil

Sesiwn drafod a holi ac ateb lle byddwn yn egluro'r perthynas rhwng dulliau ymchwil, a'r broses o gasglu data, gan gynnwys y penderfyniadau ac ymresymu sy'n rhan o'r broses fethodolegol. Byddwn yn trafod eich anghenion ymchwil penodol fel rhan o'r sesiwn.

  Ar-lein trwy Zoom
  Dydd Gwener 7fed Mawrth 2025
 12:00 - 13:00 GMT

Cofrestrwch ar gyfer y gweithdy hwn
Moesau ymchwil