Rydym yn cynnig ystod eang o weithdai ar gyfer pob sgil y gallai fod ei hangen arnoch i lwyddo yn y brifysgol; O ysgrifennu'r traethawd perffaith, i gyflwyno neu feistroli'r sgiliau digidol hynny. 

Yma gallwch archwilio'r gweithdai byw sydd gan y Ganolfan Llwyddiant Academaidd i'w cynnig dros yr wythnosau nesaf. Bydd y dudalen hon yn cael ei diweddaru'n gyson gyda sesiynau newydd wedi'u rhestru drwy gydol y tymor.

Eisiau cael rhagolwg o'r holl ddigwyddiadau y tymor hwn? Cliciwch yma i weld ein Catalog Cyrsiau Hydref / Gaeaf 24


Dydd Mawrth 28ain Ionawr 2025

Penodau olaf a golygu

Yn y gweithdy hwn byddwch yn dysgu strwythuro eich trafodaethau a'ch casgliadau'n effeithiol, sut i gyflwyno honiadau a'u hategu'n hyderus a gadael argraff barhaol ar eich darllenwyr. Yn olaf, byddwch yn mireinio'ch sgiliau golygu i berffeithio'ch gwaith.

Campws Singleton
Dydd Mawrth 28ain Ionawr 2025
10:00 - 12:00 GMT

 trafodaethau, casgliadau, golygu

Cofrestrwch ar gyfer y gweithdy hwn
gwirio gwaith