Two students chatting in a booth within Harbwr Fulton on Singleton Campus
Argraff arlunydd o Harbwr Fulton
Four students chatting at a table within Harbwr Fulton on Swansea University's Singleton Campus

Harbwr Fulton – Eich Lle Cymdeithasol ar Gampws Singleton

Wedi’i leoli ar lawr cyntaf Tŷ Fulton ac ar agor 24/7, mae Harbwr Fulton yn cynnig man cyfarfod cyfforddus a chroesawgar yng nghanol y campws i bawb ei fwynhau. Mae’n cynnig lle cymdeithasol ac ymarferol aml-swyddogaethol, gyda chyfuniad o opsiynau eistedd, stondinau ac arddangosfeydd digidol, yn ogystal ag ardal awyr agored unigryw, y ‘Teras’.

Mae Harbwr Fulton hefyd yn gweini amrywiaeth o gysyniadau bwyd i weddu i bob chwaeth a phob cyllideb – gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am hyn ar ein tudalennau arlwyo.

Cyfleusterau sydd ar gael

Mae Harbwr Fulton wedi’i gyfarparu’n dda, gan gynnig ystod eang o gyfleusterau. Gyda sawl opsiwn eistedd gan gynnwys soffas cyfforddus, eistedd mewn stondinau ac ardaloedd eistedd haenog, mae’r lle cymdeithasol gwych hwn yn cynnwys sgrin wybodaeth enfawr, cyfleusterau toiled y tu allan i’r ardal, a llawer o lefydd i wefru eich dyfeisiau. Gallwch hefyd fwynhau golygfeydd ar draws y bae o’r teras.

Y Lolfa Croeso

Wrth ymyl Harbwr mae’r Lolfa Croeso, lle i fyfyrwyr gysylltu, cydweithio a phrofi gwahanol ddiwylliannau – gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y Lolfa Croeso yma.

Ystafell Ficrodon

Wrth ymyl y Lolfa Fyd-eang, mae lle bach gyda dŵr poeth, microdonnau a seddi i chi eu defnyddio. Gallwch gynhesu eich prydau yn y gofod sy’n cydymffurfio â’r Ddeddf Cydraddoldeb (DDA) a’u bwyta’n gyfforddus gyda ffrindiau a chyd-fyfyrwyr.

Oriau agor

Prif le Harbwr – Ar agor 24/7* yn ystod y tymor.
Gwasanaethau arlwyo – 8am – 8pm yn ystod y tymor – rhagor yma.
Ystafell ficrodon – 8am – 11pm, dydd Llun i ddydd Sul.

Noder, o 11pm ymlaen, bydd Harbwr ar agor fel lle i aros yn unig – ni fydd gwasanaethau arlwyo ar gael ar ôl 8pm ac fe fydd mannau eraill yn Nhŷ Fulton, gan gynnwys y Teras, y Lolfa Fyd-eang, yr ystafell ficrodon a’r mannau ar y llawr gwaelod a’r ail/trydydd llawr, ar gau. Bydd teledu cylch cyfyng (CCTV) ar waith ac rydym yn argymell eich bod yn lawrlwytho’r Ap SafeZone i gael mynediad hawdd at ein Tîm Diogelwch ac Ymateb i’r Campws sy’n bresennol 24/7 ar y campws.