Beth sy'n digwydd?
Rydym yn cydweithio ag ystod eang o gyflogwyr, o fusnesau bach i gwmnïau amlwladol, er mwyn cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr ryngweithio â darpar gyflogwyr. Dyma rai o'r digwyddiadau rydyn ni'n eu trefnu:
- Ffeiriau Gyrfaoedd - mae ein Ffair Yrfaoedd flaenllaw'n denu miloedd o fyfyrwyr bob blwyddyn. Cynhelir y ffair ym mis Hydref bob blwyddyn, yn unol â chylch recriwtio llawer o'r sefydliadau mawr sy'n mynychu. Cynhelir ffeiriau gyrfaoedd diwydiant penodol drwy gydol y flwyddyn hefyd.
- Ffeiriau Swyddi Rhan-amser - cynhelir y ffair swyddi rhan-amser ar ddechrau'r flwyddyn academaidd, ac mae'n denu cwmnïau lleol sydd eisiau cyflogi myfyrwyr fel chi, ar gyfer swyddi rhan-amser.
- Sgyrsiau gan Gyflogwyr - cyfle i glywed gan weithwyr proffesiynol yn eich maes diddordeb er mwyn archwilio cyfleoedd gyrfa, cael cyngor ar brosesau cyflwyno cais a gofyn cwestiynau.
- Cwrdd â'r Cyflogwr - sgwrs anffurfiol gyda chynrychiolwyr o sefydliadau amrywiol. Gofynnwch gwestiynau ynghylch y cyfleoedd a allai fod ar gael i chi a dysgwch fwy am yr hyn y mae sefydliad yn ei wneud.
- Canolfannau Asesu Ffug - bydd cyflwyno cais i gymryd rhan mewn Canolfan Asesu Ffug yn rhoi'r cyfle i chi gael y profiad o fod ynghlwm â'r rhan hon o'r broses recriwtio, a hynny mewn amgylchedd heb risgiau.
- Diwrnod Sgiliau Cyflogadwyedd - cyfle i feithrin sgiliau proffesiynol megis rhwydweithio, cymryd rhan mewn cyfweliadau ffug, a darganfod llwybrau gyrfa efallai nad oeddech wedi'u hystyried o'r blaen.
Caiff ein calendr llawn o ddigwyddiadau ei gynnal ar Job Teaser. Bydd angen i fyfyrwyr fewngofnodi i gofrestru am ddigwyddiadau.
Gall graddedigion Abertawe barhau i gyrchu’r Job Teaser. Yr unig beth bydd angen i chi ei wneud fydd cofrestru am gyfrif cyn-fyfyriwr gan ddefnyddio eich e-bost personol. Os byddwch chi'n colli mynediad at eich cyfrif, e-bostiwch ni careers@abertawe.ac.uk i gael mynediad eto.