'Sbeicio' yw pan fydd rhywun yn rhoi alcohol neu gyffuriau i mewn i ddiod/bwyd neu gorff person arall heb yn wybod iddo neu heb ei ganiatad.
Gall hyn effeithio ar sut mae’r person yn ymddwyn ac yn ymateb, ac mewn achosion eithafol gall hyn ei analluogi, gan achosi iddo fod mewn sefyllfa fregus iawn a’i roi mewn perygl o niwed a allai gael effaith barhaol ar ei fywyd a'i les.
Mae’r achosion mwyaf cyffredin o sbeicio yn cynnwys ychwanegu sylweddau at ddiod person heb yn wybod iddo neu heb ei ganiatâd.
Fodd bynnag, gellir rhoi cyffuriau (cyfreithiol neu anghyfreithlon) yng nghorff rhywun mewn ffordd arall hefyd, fel:
- Rhoi cyffur i rywun ond dweud wrtho ei fod yn ddos gwahanol neu'n gyffur cwbl wahanol - er enghraifft, cyffur sydd yn aml yn cael ei roi trwy bresgripsiwn neu ei werthu fel meddyginiaeth.
- Chwistrellu cyffur i mewn i'w gorff.
Cofiwch mai dim ond ychydig enghreifftiau yw'r rhain o sut y gallai pobl gael eu sbeicio.
Mae sbeicio yn drosedd ddifrifol, bydd unrhyw un sy'n cyflawni'r drosedd hon yn wynebu cyhuddiadau troseddol difrifol.