Beth yw symptomau nodweddiadol TB Gweithredol?
Mae dau fath o Dwbercwlosis:
Mae TB yn haint bacterol. TB sy'n effeithio ar yr ysgyfaint (TB ysgyfeiniol) yw'r math mwyaf heintus. Fel arfer, mae hi dim ond yn lledaenu yn dilyn cyswllt hirfaith â rhywun sydd â'r haint.
Yn y rhan fwyaf o bobl iach, mae amddiffyniad naturiol y corff yn erbyn haint a salwch (y system imiwnedd) yn lladd y bacteria, ac felly does dim symptomau.
TB cudd - Weithiau, ni all y system imiwnedd ladd y bacteria, ond mae'n llwyddo i'w hatal rhag lledaenu yn y corff. Ni fydd gennych chi symptomau, ond bydd y bacteria yn aros yn eich corff. Gelwir hyn yn TB cudd. Nid yw pobl â TB cudd yn heintus i bobl eraill.
TB gweithredol - Os yw'r system imiwnedd yn methu lladd neu reoli'r haint, gall ledaenu i'r ysgyfaint neu rannau eraill o'r corff. Bydd symptomau'n datblygu o fewn ychydig wythnosau neu fisoedd. Gelwir hyn yn TB gweithredol.
Oes angen i mi gael prawf am TB cudd?
Mewn rhai amgylchiadau, efallai y bydd angen i chi gael prawf am TB cudd, lle byddwch chi wedi cael eich heintio â bacteria TB, ond nid oes gennych chi unrhyw symptomau.
Er enghraifft, efallai y bydd angen i chi gael prawf os ydych chi wedi bod mewn cysylltiad agos â rhywun â chlefyd TB gweithredol sy'n cynnwys yr ysgyfaint. Os ydych chi wedi treulio amser yn ddiweddar mewn gwlad lle mae lefelau TB yn uchel, byddai prawf yn ddefnyddiol.
Os ydych chi newydd symud i'r DU o wlad lle mae TB yn gyffredin, dylech chi ddisgwyl derbyn manylion am sgrinio TB wrth gyrraedd Prifysgol Abertawe.
Mae'n orfodol mynd i'r holl apwyntiadau ar gyfer sgrinio TB, hyd yn oed oes ydych chi eisoes wedi cael prawf cyn i chi gyrraedd y DU. Mae'r profion er eich diogelwch a'ch lles chi a diogelwch a lles eich cyd-fyfyrwyr. Ni ddylech chi golli'r rhain.
Os ydych chi'n meddwl y dylech chi gael prawf TB ond rydych chi wedi colli eich apwyntiadau neu os na dderbynioch chi’r negesuon, cofrestrwch gyda meddyg teulu lleol. Gall drefnu prawf i chi os yw’n briodol.
(Gwybodaeth wedi'i chymryd o https://www.nhs.uk/conditions/tuberculosis-tb/)