Rydym yn deall efallai yr hoffech siarad ag un o'n Swyddogion Bywyd Myfyrwyr os ydych wedi dioddef achos o sbeicio.
Mae Llesiant@BywydCampws yn dîm sy'n rhoi cyngor, cymorth a chyfarwyddyd ymarferol i fyfyrwyr, yn ogystal â'u cyfeirio at wasanaethau cymorth arbenigol.
Gallwch gysylltu â'r tîm Llesiant@BywydCampws drwy e-bostio welfare.campuslife@abertawe.ac.uk.
Fel arall, efallai y byddai'n well gennych ddefnyddio’r Gwasanaeth Lles ac Anabledd sy'n cynnig adnoddau, strategaethau hunangymorth, gwasanaethau ar-lein, gwasanaethau cymorth a chwnsela i helpu chi i reoli eich lles.
Os ydych chi'n teimlo bod angen cymorth y Gwasanaeth Lles ac Anabledd arnoch, llenwch Ffurflen Cymorth i Fyfyrwyr.