Bob tro y mae person yn dewis defnyddio cyffuriau anghyfreithlon, mae’n cymryd siawns fawr gyda’i iechyd a’i ddiogelwch. Ni allwch byth fod yn sicr beth yw’r cynhwysion sydd mewn unrhyw gyffur. Gall y cyffur fod yn gymysgedd o wahanol sylweddau (rhai ohonynt yn niweidiol a gwenwynig). Gall cryfder unrhyw gyflenwad o gyffur fod yn wahanol i’r disgwyl, ac nid oes modd gwybod pa effaith y bydd yn ei gael ar unrhyw ddefnyddiwr unigol.
Mae cyffuriau hefyd yn adweithio’n wahanol os cânt eu cymryd gydag alcohol. Ni allwch ragweld sut y bydd cyffur yn effeithio arnoch chi. Yn ogystal, byddai cymryd cyffuriau yn y Brifysgol yn peryglu eich siawns o lwyddo yn eich cwrs gradd. Gallai arwain at gynnydd mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol ac absenoldeb, achosi problemau iechyd meddwl ac anawsterau ariannol.
Trowch i’r wefan Frank i gael rhagor o wybodaeth am gyffuriau anghyfreithlon a’r risgiau sy’n gysylltiedig.
Sylweddau Seicoweithredol Newydd (a elwid gynt y ‘Legal Highs’ neu ‘Anterthau Cyfreithlon’)
Beth yw’r Sylweddau Seicoweithredol Newydd?
Sylweddau Seicoweithredol Newydd (SSN) yw’r enw newydd ar y cyffuriau a elwid gynt yn “Legal Highs”, term a gyfieithwyd i’r Gymraeg fel “anterthau cyfreithlon”. Roedd y term blaenorol yn gamarweiniol, gan nad pob un o’r cyffuriau hyn oedd yn cynnwys sylweddau ‘cyfreithlon’ ac nad oedd pob un ychwaith y rhoi i’r defnyddiwr unrhyw ‘anterth’. Sylweddau yw’r SSN nad ydynt eisoes yn gyffuriau a reolir (fel y rheolir y cyffur dosbarthedig Dosbarth A, cocên er enghraifft, neu’r cyffur Dosbarth B, canabis). Maent yn aml yn achosi risg i iechyd y cyhoedd.
Mae’n bwysig cofio bod y sylweddau hyn, o ganlyniad i’r newid yn y gyfraith yn ystod gwanwyn 2016, bellach yn anghyfreithlon.
Gellir disgrifio effeithiau’r SSNau trwy’u dosbarthu’n bedwar prif gategori:
- Symbylyddion
- ‘Lleddfolion’ neu dawelyddion
- Seicedeligion neu rithbeiriau
- Canabinoidau synthetig
Pam y mae pobl yn cymryd Sylweddau Seicoweithredol Newydd?
Gall rhai pobl ddewis cymryd y sylweddau hyn yn hytrach na chyffuriau dosbarthedig oherwydd eu bod yn llawer rhatach ac yn haws cael gafael arnynt.
Peryglon cymryd SSNau
Un o’r prif risgiau a wynebir wrth gymryd cyffur SSN yw nad oes modd i’r defnyddiwr wybod beth sydd yn y sylwedd mewn gwirionedd. Felly, ni all ragweld beth fydd effeithiau corfforol a meddyliol cymryd y cyffur. Yn yr un modd, ni fydd y gwasanaethau iechyd yn gwybod pa ymateb meddygol fydd orau, os bydd defnyddiwr yn adweithio’n ddrwg ar ôl cymryd y cyffur. Ni fyddant yn gwybod pa gemegion a fydd yn gynwysedig yn y sylwedd. Ychydig neu ddim canlyniadau ymchwil a fydd ar gael, i’r effeithiau a’r risgiau a fydd yn deillio o gymryd y sylweddau hyn. Mae’r effeithiau SSN ar wahanol unigolion yn debygol o amrywio’n eang. Dangosodd profion fforensig eu bod yn aml yn cynnwys sylweddau gwahanol i’r hyn a hysbysir ar y pecynnau. Golyga hyn nad oes modd bod yn sicr beth fyddwch yn ei gymryd.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’r wefan Frank
Gall y Sylweddau Seicoweithredol Newydd fod yn gaethiwus iawn hefyd, yn enwedig y rhai sy’n dynwared gwedd allanol canabis. Peidiwch â chymryd eich twyllo gan ymddangosiad yr SSNau y cyfeirir atynt yn gyffredin fel ‘Sbeis’ (‘Spice’ yn Saesneg). Chwyn neu blanhigion yw’r rhain mewn gwirionedd, sydd wedi eu chwistrellu â gwahanol gyfuniadau o gemegion. Ni fyddant yn cael yr un effaith â chanabis ar y defnyddiwr.
Mae’r risg a wynebir wrth ddefnyddio canabinoidau synthetig, a nifer yr achosion sydd arnynt angen cymorth meddygol, hyd at 30% yn uwch nag wrth ddefnyddio canabis cyffredin neu sgỳnc. Mewn gwirionedd, mae effeithiau’r Canabinoidau Synthetig hyn yn llawer, llawer cryfach nag effeithiau canabis.
Y symptomau posibl yw:
- Ymdeimlad o benysgafnder, pendro, dryswch neu flinder.
- Teimlo’n gynhyrfus, aflonydd ac ymosodol
- Ansadrwydd hwyliau.
- Pryder a pharanoia.
- Meddyliau hunanddinistriol.
- Problemau cof ac amnesia.
- Cyfog a chwydu.
- Chwiwiau poeth.
- Curiad calon a phwysedd gwaed uwch, weithiau gyda phoen yn y frest, difrod i’r galon a hyd yn oed trawiad ar y galon
- Chwysu’n ormodol
- Bysedd, bodiau traed neu gyhyrau yn ddideimlad, neu gyda phinnau mân
- Cryndodau, trawiadau and ffitiau.
- Gall SSN leihau eich gallu ymatal, a pheri ichi wneud pethau na fyddech fel arfer yn eu gwneud, er enghraifft, gwneud campau rhyfygus, neu gael cyfathrach rywiol heb ragofal
I weld effeithiau dinistriol Sbeis, edrychwch ar y fideo hwn gan Vice