Gelwir camddefnyddio delweddau preifat hefyd yn 'bornograffi dial', pornograffi nad yw'n gydsyniol neu gam-drin rhywiol ar sail delweddau. Gellir rhannu'r cynnwys hwn mewn sawl ffordd gan gynnwys wyneb yn wyneb, drwy negeseuon testun, e-byst a negeseuon eraill, ar blatfformau'r cyfryngau cymdeithasol, gwefannau pornograffi a sgyrsiau grŵp.

Gallai unrhyw un gyflawni'r drosedd hon neu ddioddef o'i herwydd. Os ydych chi wedi dioddef hyn, cofiwch nad oes bai arnoch chi ac nid ydych chi wedi gwneud unrhyw beth o'i le.

CWESTIYNAU CYFFREDIN

Beth dylwn i ei wneud os yw fy nelweddau preifat wedi cael eu rhannu heb fy nghysyniad?

Gofynnwch am ragor o gefnogaeth

Rydym yn deall y gall camddefnyddio delweddau rhywiol effeithio'n sylweddol ar eich iechyd meddwl a'ch lles, ceir isod amrywiaeth eang o wasanaethau a gweithrediadau sy'n gallu helpu i'ch cefnogi chi gyda'r hyn sydd wedi digwydd.