Ynglŷn â'r Gwasanaeth

Mae’r gwasanaeth hwn ar gael i’r holl fyfyrwyr a staff. Bydd rhywun yno i wrando os bydd ei angen arnoch, ac mae’n hollol gyfrinachol.

Nid oes rhaid bod mater neu broblem benodol. Weithiau, mae’n dda cael siarad.

Gellir cynnal y sgyrsiau hyn dros y ffôn neu drwy alwad fideo, yn bersonol, yr un sy’n fwyaf cyfforddus i chi. 

Nid yw’r gwasanaeth hwn yn wasanaeth cwnsela ond mae’n ategu’r amrywiaeth o wasanaethau lles a gynigir gan y Brifysgol.

Archebu sesiwn gwasanaeth gwrando

Cynigir apwyntiadau rhwng 9.30am a 4pm, dydd Llun i ddydd Gwener a gallant bara am hyd at 50 munud. 

Archebwch sesiwn trwy ebostio'r tîm trwy'r bwtwm isod