Rydym yn gymdeithas ddifyr a hamddenol sy’n canolbwyntio ar ddau beth: digwyddiadau cymdeithasol gwych ac amrywiol a lles a chymorth da i’n haelodau. Ein prif nod yw sicrhau bod ein holl ddigwyddiadau’n lle diogel a chyfforddus i’n holl aelodau a chreu awyrgylch y gall bobl o bob cefndir ei fwynhau’n agored.
Rydym yn cynnal digwyddiadau cymdeithasol bob wythnos ac rydym bob amser yn ceisio cynnal cydbwysedd rhwng yfed a pheidio ag yfed, i leihau costau a gwneud yn siŵr y bydd rhywbeth i bawb ei fwynhau.
Rhaglen Cynghreiriaid LGBT+
Mae’n rhestr bostio syml y gall unrhyw un yn y Brifysgol ymuno â hi – staff, myfyrwyr, cyn-fyfyrwyr neu ymwelwyr/cefnogwyr. Mae aelodau'r rhaglen yn derbyn diweddariadau e-byst bob deufis am waith cydraddoldeb LGBT+ ym Mhrifysgol Abertawe. 
Bydd yr e-bost yn cynnwys digwyddiadau/mentrau LBGT+ yn y Brifysgol, newyddion/digwyddiadau/mentrau LGBT+ yng nghymuned Abertawe (lle y bo’n berthnasol), dolenni i erthyglau perthnasol a allai fod o ddiddordeb i chi a newyddion cenedlaethol nodedig neu newidiadau i bolisïau.
Rydym yn darparu cyngor cyfrinachol ac annibynnol rhad ac am ddim i fyfyrwyr drwy ein Canolfan Cyngor a Chymorth.
Gall materion amrywio o broblemau cyllid, academaidd a chartrefi. Gallwn eich cynghori ar faterion cyfreithiol a’ch cefnogi gyda materion personol, hefyd.
Mae'r gwasanaeth yn cael ei gynnal gan ein cynghorwyr profiadol sydd ar gael am apwyntiadau preifat. Ffoniwch neu anfonwch ebost atom ni i'w trefnu.
Rydym hefyd yn drydydd parti adrodd ar gyfer troseddau casineb.
A oes angen cymorth neu gyngor arnoch? Mae gennych chi lawer o opsiynau yn y Brifysgol. 
Gallwch gysylltu â Staff Lles/Cymorth Bugeiliol yn eich Coleg, MyUniHub yng Nghanolfan Gyngor Undeb y Myfyrwyr
