Yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi cynyddu'r uchafswm ffïoedd dysgu yng Nghymru o £9000 i £9250, sydd bellach yn gyson â'r ffïoedd yng nghenhedloedd eraill y DU.
O fis Medi 2024 dy ffïoedd dysgu ym Mhrifysgol Abertawe eu haddasu i £9250 yn unol â phrifysgolion ar draws y DU.
Mae'r penderfyniad hwn yn ymateb i bwysau chwyddiant parhaus sydd wedi effeithio ar brifysgolion ledled y DU. Mae lefelau ffïoedd dysgu yng Nghymru wedi bod yn ddigyfnewid am fwy na degawd, ond mae'r treuliau sy'n gysylltiedig â chynnal addysg a chyfleusterau campws o safon wedi parhau i gynyddu.
Mae ein hymrwymiad i gynnig amgylchedd dysgu ac addysgu eithriadol yn parhau i fod yn ddiwyro. Felly, rydyn ni wedi gwneud y penderfyniad hwn i sicrhau ein bod ni’n gallu parhau i ddarparu ac ariannu'r addysg a'r profiad o safon uchel i fyfyrwyr rydyn ni'n ymfalchïo ynddyn nhw.
Mae ffïoedd dysgu'n gwneud cyfraniad hollbwysig at gynnal amgylchedd academaidd a dysgu ac addysgu ardderchog, darparu cyfleusterau megis ein llyfrgelloedd a'n labordai arbenigol, a'n cyfarpar a'n meddalwedd o'r radd flaenaf. Maen nhw'n allweddol wrth ariannu gwelliannau i'n campysau ac maen nhw hefyd yn sicrhau y gallwn ni ddarparu gwasanaethau cymorth amhrisiadwy i fyfyrwyr.
Edrychwch ar ein tudalen Cwestiynau Cyffredin am fwy o wybodaeth ar sut mae'r cynnydd ffioedd nay yn effeithio arnoch chi.