Mae'r Cronfeydd Caledi ar agor nawr
Rhaid cyflwyno cais o leiaf 5 wythnos cyn dyddiad gorffen eich cwrs. Caiff pob cais ei asesu yng nghyd-destun y ffaith bod yr ymgeisydd yn nesáu at ddyddiad gorffen ei gwrs. Os ydy'ch dyddiad gorffen wedi ei estyn, rhaid i chi ddarparu tystiolaeth o hyn cyn i ni allu parhau i asesu eich cais.
Sylwch NAD yw dyfarniadau o'r gronfa wedi'u gwarantu. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â hardshipfunds@swansea.ac.uk
Ddim yn siŵr a allwch chi wneud cais? Gweler ein canllawiau cyflym isod:
I fod yn gymwys, rhaid eich bod:-
-Wedi cofrestru ar gwrs amser llawn neu ran-amser (ni all myfyrwyr allanol gyflwyno cais).
-Cael mynediad at yr holl gyllid y mae'r myfyriwr yn gymwys amdano
- Yn fyfyriwr cartref neu’n fyfyriwr o’r UE â statws ffioedd cartref
- Gall myfyrwyr cymwys o’r DU neu’r UE sydd wedi gohirio eu hastudiaethau wneud cais i’r gronfa galedi ar yr amod’ iddynt fod yn gofrestredig yn y flwyddyn academaidd bresennol cyn gohirio eu hastudiaethau
Os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol, ewch at ein tudalen we Cronfa Argyfwng Myfyrwyr Rhyngwladol
Beth yw ystyr bod mewn caledi ariannol?
Wrth asesu ceisiadau byddwn yn ystyried a ydy myfyriwr yn methu talu ei gostau presennol a hanfodol oherwydd amgylchiadau annisgwyl. Mae disgwyl i fyfyrwyr ddarparu tystiolaeth i gefnogi eu ceisiadau.
Dylid cyfyngu tystiolaeth o'ch amgylchiadau i ddogfennaeth swyddogol yn unig a'i lanlwytho i ffurflen gais. PEIDIWCH ag anfon unrhyw dystiolaeth drwy e-bost oni bai y gofynnir i chi wneud hynny. Bydd unrhyw dystiolaeth a anfonir drwy e-bost heb gais yn cael ei dileu yn unol â rheoliadau’r GDPR.
Enghreifftiau o bryd na ddylech chi wneud cais.
- Nid ydych chi wedi manteisio ar yr HOLL gyllid statudol y mae gennych hawl iddo
- Gallwch dalu eich costau uniongyrchol a hanfodol
- Mae arian ar gael i chi mewn cyfrifon cynilo megis ISAs neu Gymorth i Brynu
- Nid ydych chi wedi defnyddio gorddrafft a drefnwyd – dylai cais i’r gronfa fod yn opsiwn olaf
- Talu tuag at ffioedd dysgu – nid dyna ddiben y gronfa
- Ni wnaethoch chi gynllun ariannol rhesymol i dalu eich costau cyn dechrau eich cwrs
- Yn anffodus, ni allwn helpu tuag at gost therapi neu gwnsela preifat. Dylech gysylltu â'r Gwasanaeth Lles
Os oes gennych ymholiadau eraill ynghylch gwneud cais, e-bostiwch hardshipfunds@abertawe.ac.uk
Rhaid i fyfyrwyr ddefnyddio eu cyfeiriad e-bost myfyriwr wrth gysylltu ag unrhyw gyfeiriad e-bost neu staff tîm Cyngor Ariannol
Y cymorth sydd ar gael
Bydd angen i fyfyrwyr gwblhau'r ffurflen gais ar gyfer y taliad cymorth sy'n berthnasol i'w amgylchiadau a'i anghenion. Cwblha bob ffurflen gais sy'n berthnasol. Rydym wedi darparu esboniadau ar y ceisiadau isod ynghyd â dolenni i'r ffurflen ei hun. Bydd yr holl ddolenni yn dy arwain at yr un dudalen, mae'n rhaid i ti ddewis y ffurflen gais gywir o'r gwymplen 'Fund'. Nodyn atgoffa bod yr holl geisiadau'n cael eu hasesu’n seiliedig ar galedi ac nid ydynt wedi'u gwarantu.
Gweler y fideo isod am ragor o arweiniad ynghylch sut i gyflwyno cais:-
Cymorth gyda Phrawf Diagnostig
Dyfarniad cyfyngedig yw hwn ar gyfer cost Asesu Diagnostig am Anghenion Dysgu Penodol mewn achosion o galedi ariannol yn unig. Argymhellir bod myfyrwyr yn cysylltu â hardshipfunds@abertawe.ac.uk cyn cyflwyno cais.
Rhaid i fyfyrwyr ddefnyddio eu cyfeiriad e-bost myfyriwr wrth gysylltu ag unrhyw gyfeiriad e-bost neu staff tîm Cyngor Ariannol
*Bydd pob dolen yn mynd â chi i'r un dudalen. Rhaid i chi ddewis y broses ymgeisio gywir o gwymplen y 'Gronfa'.