Klarna, Clearpay a Layaway
Efallai fod 'Prynu nawr, talu'n hwyrach' trwy Klarna, Clearpay a Layaway yn ymddangos yn syniad da, ond mae risgiau y dylai myfyrwyr eu hystyried;
- Er bod siopwyr yn torri costau lawr i randaliadau mwy fforddiadwy, mae adroddiadau yn dangos bod hyn yn y pendraw yn dylanwadu ar siopwyr i wario mwy o arian, a allai droi’n ddyled na ellir ei rheoli yn y tymor hir.
- Er na fydd llog efallai yn daladwy, bydd y trafodion hyn yn ymddangos yn eich adroddiadau credyd ac mae'n bosibl y bydd hyn yn effeithio ar eich sgôr credyd yn y dyfodol.
- Gall methu talu'r taliadau hyn p'un ai o fewn 30 niwrnod neu mewn 3 rhandaliad arwain yn y pendraw at drosglwyddo eich dyled i asiantaeth casglu dyledion.
Wrth asesu ceisiadau i'n cronfa galedi rydym wedi canfod bod y defnydd o Klarna, Clearpay a Layaway yn effeithio'n andwyol ar sefyllfa ariannol a chynllun cyllidebu myfyrwyr. Ein cyngor ni yw ystyried y gwasanaethau hyn yn yr un ffordd â chardiau credyd. Rhaid i fyfyrwyr fod yn gyfrifol wrth ddewis eu dulliau prynu a thalu, gan sicrhau bod cynllun ariannol dichonadwy yn ei le er mwyn cwrdd â'r amserlen ar gyfer talu yn ôl - os nad yw'n ymarferol gallai hyn arwain at anawsterau ariannol.
Ceir rhagor o wybodaeth am faterion fel hyn ar wefannau megis 'Save the Student'.