Yn cyflwyno We Innovate ym Mhrifysgol Abertawe!
Yn galw ar yr holl fenywod uchelgeisiol sydd â syniadau entrepreneuraidd sy'n torri tir newydd! Mae We Innovate yn rhaglen ddeinamig 2 fis o hyd sydd â'r nod o rymuso timau dan arweiniad menywod, gan roi'r sgiliau, y strategaethau a'r cymorth sydd eu hangen arnynt i droi eu gweledigaethau'n fusnesau sy'n ffynnu.
Cam 1: Tanio eich Potensial
Bydd 15 o fenywod yn dechrau eu taith gydag 8 dosbarth meistr trawsnewidiol. Mae'r sesiynau hyn yn cynnwys yr hanfodion, gan gynnwys:
- Dod o hyd i'r cwsmer: Deall eich marchnad
- Brandio Personol: Sefyll allan yn hyderus.
- Hanfodion Cyfreithiol ac Eiddo Deallusol: Diogelu eich syniadau.
- Cyflwyno’n Dda ac Adeiladu Llwyfan: Cyflwyno eich stori gydag effaith.
- Codi arian ac Arweinyddiaeth: Dod o hyd i adnoddau ac ysbrydoli eraill.
Cam 2: Cyflymu eich Twf
Bydd 10 o gyfranogwyr rhagorol yn elwa o 6 wythnos o hyfforddiant a mentora dwys, lle byddant yn mireinio eu strategaethau ac yn cryfhau eu craffter entrepreneuraidd, gan ddefnyddio'r grant hybu gwerth £500 a sicrhawyd yn ystod y cam hwn o'r rhaglen.
Cam 3: Ariannu eich Dyfodol
Bydd grŵp dethol yn cystadlu am y wobr orau: y cyfle i gyflwyno cais am £15,000 o gyllid i ddod a'u syniadau busnes yn fyw.
Mae'n fwy na Rhaglen - Mae'n Gymuned
Mae We Innovate yn fwy na gweithdai a chyllid yn unig. Mae'n gymuned o fenywod dewr, llawn gweledigaeth sy'n ysgogi newid ac yn ailddiffinio llwyddiant.
Caiff y fenter gyffrous hon ei chyflwyno mewn partneriaeth â Choleg Imperial Llundain, gan gyfuno arbenigedd, adnoddau, ac ysbrydoliaeth o ddau sefydliad o safon fyd-eang.
Am We Innovate a Choleg Imperial Llundain: 11 Mlynedd o We Innovate
Yn 2014, lansiodd Coleg Imperial y gystadleuaeth fentergarwch gyntaf i fenywod mewn prifysgol yn y DU a oedd ag un amcan clir: mynd i'r afael â'r anghydraddoldebau amlwg y mae sylfaenwyr benywaidd yn eu hwynebu. Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, mae'r rhaglen wedi cefnogi dros 500 o fenywod, sydd wedi codi mwy na £37.5 miliwn ar y cyd ar gyfer eu mentrau.
Bellach mae Coleg Imperial Llundain mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe, Prifysgol y Frenhines Belfast , Prifysgol Glasgow a Phrifysgol Durham i greu WEInnovate National, i ddod a'r fenter ardderchog hon, sy'n cynnig yr offer, y cysylltiadau, a'r cyfleoedd am gyllid i entrepreneuriaid benywaidd lleol drawsnewid eu syniadau'n fusnesau effeithiol. Ymunwch â ni wrth i We Innovate ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o fenywod llawn gweledigaeth ar draws y DU.
Mae ceisiadau ar gyfer y rhaglen nawr ar agor:
I fynegi eich diddordeb i fod yng Ngharfan We Innovate 2026 Abertawe, mynegwch eich diddordeb yma. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno mynegiannau o ddiddordeb yw 30 Tachwedd 2025.
Bydd un o'n tîm yn anfon y cais cyfan atoch, a'r dyddiad cau i'w gyflwyno yw 23:59 ddydd Sul 7 Rhagfyr 2025
Os oes gennych gwestiynau, e-bostiwch enterprise@abertawe.ac.uk