Hyd at £3,000 ar gyfer tyfu busnesau presennol

Mae Founders Fund 3,000 yn darparu cyllid grant i fyfyrwyr a graddedigion i helpu i dyfu eu busnesau presennol ar raddfa fwy. Mae ar gyfer y rhai hynny sydd wedi bod yn masnachu ers dros 12 mis ac sydd angen arian ychwanegol i helpu i symud eu busnes i'r lefel nesaf.

Gall y grant helpu i ariannu amrywiaeth o eitemau, os gallwch ddangos yn glir bod eich busnes wedi dangos cynnydd ers ei lansio a'i fod yn barod i ehangu. Mae enghreifftiau'n cynnwys: 

  • Offer a deunyddiau arbenigol
  • Datblygu gwefan 
  • Costau marchnata a hysbysebu
  • Cyrsiau hyfforddiant perthnasol
  • Gweithgareddau profi manwerthu
  • Tanysgrifiadau meddalwedd
  • Yswiriant busnes

Sylwer, bod cystadleuaeth frwd am y cyllid hwn a swm cyfyngedig sydd gennym i'w ddyrannu bob blwyddyn. Mae'r Tîm Mentergarwch Myfyrwyr yn cadw'r hawl i dynnu'r cyfle cyllid yn ôl ar unrhyw adeg.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen yr wybodaeth isod yn ofalus i roi'r cyfle gorau i chi lwyddo.

Os oes gennych gwestiynau neu os oes angen help arnoch gyda'ch cais, e-bostiwch y Tîm Mentergarwch Myfyrwyr enterprise@abertawe.ac.uk.   

Amodau a Thelerau 

Cymhwysedd: 

Mae'r cyllid ar gael i fyfyrwyr presennol Prifysgol Abertawe a graddedigion diweddar (o fewn 2 flynedd).

Rhaid i'r rhai sy'n cyflwyno cais am y cyllid fod â statws masnachu cofrestredig (unig fasnachwr, cwmni cyfyngedig, etc), ac wedi bod yn masnachu am dros 12 mis. Bydd ceisiadau ond yn cael eu derbyn ar ôl cael cadarnhad a darparu tystiolaeth.

Rhaid i'r busnes fod mewn sefyllfa sy'n barod i ehangu, ac mae'n rhaid darparu tystiolaeth o hyn yn y cais.

Gall y cyllid gael ei ddefnyddio ar gyfer busnesau yn y DU yn unig. NI all unigolion neu dimau sy'n cynnwys myfyrwyr ar Fisa Myfyrwyr gyflwyno cais am gyllid busnes, oherwydd rheolau'r fisa. Serch hynny, gall unigolion ar Fisa Llwybr Graddedigion gyflwyno cais am gyllid. Mae mwy o wybodaeth am Fisa Llwybr Graddedigion ar gael yma.

Os ydych wedi cael cyllid o'r blaen drwy Founders Fund 3,000, ni fyddwch yn gymwys i gyflwyno cais eto.

Os ydych wedi cael cyllid o'r blaen drwy Founders Fund 1,000, rydych yn gymwys i gyflwyno cais ar yr amod eich bod wedi bod yn masnachu am dros 2 flynedd ac yn bodloni'r holl ofynion eraill.

Os ydych wedi cael cyllid o'r blaen drwy Founders Fund 500, rydych yn gymwys i gyflwyno cais ar yr amod eich bod wedi bod yn masnachu am dros 12 mis ac yn bodloni'r holl ofynion eraill.

Sylwer, y swm uchaf y gall myfyrwyr a graddedigion ei gael gan y Tîm Mentergarwch Myfyrwyr yw £3,000. Er enghraifft, os byddwch chi'n llwyddiannus wrth ymgeisio am Founders Fund 1,000 a 3,000, y cyfanswm y gallech ei dderbyn fyddai £3,000.  

Ni chaniateir i fyfyrwyr neu raddedigion sydd hefyd wedi derbyn £3,000 o gystadlaethau Big Pitch blaenorol gyflwyno cais gan eu bod eisoes wedi cyrraedd y cyfanswm sydd ar gael i fyfyrwyr a graddedigion.

Sut mae'r cyllid yn gweithio:

Os byddwch yn llwyddiannus wrth ennill cyllid, ni fyddwch yn cael yr arian, mae'n gweithio fel ad-daliad. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i chi wario'r arian yn gyntaf gan ddefnyddio eich arian eich hun a chadw'r holl dderbynebau/prawf prynu er mwyn hawlio'r arian yn ôl.

Dylid cytuno ar yr holl eitemau rydych yn bwriadu eu prynu ymlaen llawn yn ysgrifenedig gyda'r Tîm Mentergarwch Myfyrwyr. Sylwer na fyddwn yn debygol o gymeradwyo eitemau a fydd o fudd i unigolyn ac nid y busnes (cerbydau, cyfrifiaduron/gliniaduron etc.)

I gael ad-daliad ar yr arian rydych wedi'i wario, byddwch yn cael Ffurflen Treuliau Myfyrwyr y bydd angen i chi ei chwblhau a'i hanfon i enterprise@abertawe.ac.uk ynghyd â derbynebau/prawf prynu. Yna bydd eich taliad yn cael ei brosesu.

Unwaith y bydd eich cais wedi'i gymeradwyo, bydd gennych uchafswm o dri mis i gwblhau eich cais.

Sylwer, os nad ydych yn cydymffurfio â'r gofynion hyn, mae gan y Tîm Mentergarwch Myfyrwyr yr hawl i dynnu unrhyw gyllid a gynigwyd i chi yn ôl.

Unwaith y byddwch wedi cyflwyno eich cais, gall taliadau gymryd hyd at 5 wythnos i ddod atoch, ond weithiau ceir oedi.   

Y Broses Cyflwyno Cais: 

I gyflwyno cais am Founders Fund 3,000 i helpu i ddatblygu eich syniad busnes, dilynwch y ddolen isod lle byddwch yn darparu gwybodaeth am y canlynol:

  • Eich manylion myfyriwr/graddedig
  • Enw eich busnes, dolenni cyfryngau cymdeithasol/gwefan
  • Manylion am eich statws masnachu
  • Templed wedi'i gwblhau o Drosolwg o'r Busnes:
  • Cysyniad 
  • Ymchwil i’r farchnad 
  • Marchnata 
  • Gweithrediadau 
  • Costau 
  • Sgiliau 
  • Cynnydd hyd yn hyn
  • Faint o gyllid sydd ei angen arnoch a beth bydd yn cael ei ddefnyddio ar ei gyfer
  • Eich cynlluniau nesaf ar gyfer y busnes

Os ydych yn cyflwyno cais fel tîm, dewiswch un aelod i gwblhau'r ffurflen gais, lle byddwch yn cael y cyfle i nodi manylion gweddill eich tîm. 

Rhaid i'ch cais hefyd gynnwys:

Cyflwyniad fideo 3 munud ynghylch eich busnes, a ddylai gynnwys:

  • Eich stori.Dywedwch wrthym pam rydych chi/eich tîm wedi dechrau'r busnes a beth mae'n ei olygu i chi.

 

  • Disgrifiwch yr angen am eich busnes. Dangoswch angen y defnyddiwr am eich busnes, neu'r broblem y mae'n ei datrys.

 

  • Beth yw eich busnes? Disgrifiwch y cynhyrchion/gwasanaeth rydych chi'n eu darparu, sut maen nhw'n diwallu anghenion eich defnyddiwr/yn rhoi ateb i'r broblem a sut mae'n gweithio.

 

  • Ar gyfer pwy ydyw. Esboniwch pwy yw'ch cynulleidfa darged, beth rydych chi'n ei wybod amdanyn nhw a sut rydych chi'n eu denu i'ch busnes.

 

  • Pwy sy'n cymryd rhan. Dywedwch wrthym pwy sy'n ymwneud â rhedeg y busnes a beth yw eu rolau.

 

  • Arian sydd ei angen. Esboniwch faint o gyllid sydd ei angen arnoch, beth byddwch yn ei wario arno, a'ch adenillion disgwyliedig o fuddsoddi (ROI).

 

  • Cynnydd a wnaed hyd yn hyn ac amcanion yn y dyfodol. Dangoswch yr hyn rydych wedi'i gyflawni hyd yma gyda'ch busnes, eich uchelgeisiau yn y dyfodol a'r camau y byddwch yn eu cymryd i gyrraedd yno.

 

Y Broses Adolygu:

Er mwyn i'ch cais fod yn llwyddiannus, rhaid i chi ddangos y canlynol:

Dilyniant – Ers ei lansio, rhaid i chi ddangos bod galw cynyddol wedi bod am eich cynnyrch/gwasanaeth. Darparwch wybodaeth am eich gwerthiannau hyd yn hyn, eich cynulleidfa darged, sut rydych chi'n eu denu a beth sy'n gwneud eich busnes yn unigryw.

Yr angen am gyllid - Rhowch restr glir o eitemau rydych yn bwriadu eu prynu, am beth y mae eu hangen, beth yw'r gost a sut byddan nhw'n helpu i dyfu eich busnes. Yn ogystal â'ch adenillion disgwyliedig o fuddsoddi (ROI). 

Creadigrwydd – Gallai hyn fod o ran y cynnyrch/gwasanaethau rydych chi'n eu gwerthu. Sut mae eich busnes yn gweithredu. Eich ymdrechion brandio a marchnata. Sut rydych chi'n ymdrin â chwsmeriaid. Beth sy'n gwneud eich busnes yn unigryw o'i gymharu â'r gystadleuaeth?

Arloesi – Mae'r busnes yn wreiddiol, yn gwneud pethau newydd ac yn wahanol i bopeth arall sydd ar y farchnad. Neu, mae'n gwella cynhyrchion neu wasanaethau presennol mewn ffyrdd ffres, cyffrous, gan symud ymlaen uwchlaw’r gystadleuaeth.

Cynaliadwyedd ac Effaith Gymdeithasol – Mae'r busnes yn gynaliadwy o ran deunyddiau, gweithrediadau neu effaith. Mae'n helpu i fynd i'r afael â phroblemau lleol neu fyd-eang i'r blaned a/neu bobl, fel y rhai a amlinellir yn Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig.

Potensial am dwf – Mae gan y busnes botensial uchel i dyfu, o ran cynhyrchu mwy o refeniw, elw a chyfran o'r farchnad, a/neu mae ganddo'r potensial i ddatrys anghenion y broblem y mae'n ei datrys yn fwy, boed hynny ar gyfer pobl neu'r blaned.

Cyflwyniad – Rydych wedi cyflwyno eich busnes yn greadigol, yn glir ac yn gryno, gan ymdrin â phob agwedd bwysig.

Ymrwymiad – Rydych wedi dangos eich bod wedi ymrwymo i barhau i dyfu eich busnes.

Caiff ceisiadau eu hadolygu ar ddiwedd pob mis. Dylech ganiatáu hyd at 6 wythnos i gael eich hysbysu ynghylch canlyniad eich cais.

Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwch yn cael gwybod ac yn cwrdd ag aelod o'r Tîm Mentergarwch Myfyrwyr i esbonio'r camau nesaf.

Os na fydd eich cais yn llwyddiannus, mae croeso i chi drefnu cwrdd â'r Tîm Mentergarwch Myfyrwyr i ganfod sut gallwch ddatblygu eich busnes ar gyfer ceisiadau yn y dyfodol.   

Sylwer, bydd asesiad a phenderfyniad ar gymeradwyo'r cais a'r dyraniad cyllid gan y Tîm Mentergarwch Myfyrwyr yn derfynol. Os na fydd yr ymgeiswyr yn cydymffurfio â'r holl amodau a thelerau, mae ganddynt yr hawl i dynnu unrhyw gyllid yn ôl.

Cyflwyno Cais

Cliciwch ar y ddolen hon  i gyflwyno cais. (Drwy gyflwyno cais rydych yn cytuno i'r amodau a thelerau a nodir yn y ddogfen hon. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen drwy'r holl wybodaeth yn ofalus)

Os oes gennych gwestiynau neu os oes angen help arnoch gyda'ch cais, e-bostiwch y Tîm Mentergarwch Myfyrwyr enterprise@abertawe.ac.uk.  

GWNEWCH GAIS YMA

  • Mae Prifysgol Abertawe’n elusen gofrestredig Rhif. 1138342