Hyd at £1,000 ar gyfer busnesau newydd
Mae Founders Fund 1,000 yn helpu myfyrwyr a graddedigion sydd wedi cofrestru fel unig fasnachwr neu gwmni cyfyngedig ac sydd o fewn 12 mis ar ôl lansio eu busnes, gyrfa llawrydd neu fenter gymdeithasol.
Gall y grant helpu i ariannu amrywiaeth o eitemau, os gallwch ddangos yn glir sut a pham y byddant yn eich helpu i ddatblygu eich busnes a lansiwyd yn ddiweddar. Mae enghreifftiau'n cynnwys:
- Offer a deunyddiau arbenigol
- Datblygu gwefan
- Costau marchnata a hysbysebu
- Cyrsiau hyfforddiant perthnasol
- Gweithgareddau profi manwerthu
- Tanysgrifiadau meddalwedd
- Yswiriant busnes
Sylwer, bod cystadleuaeth frwd am y cyllid hwn a swm cyfyngedig sydd gennym i'w ddyrannu bob blwyddyn. Mae'r Tîm Mentergarwch Myfyrwyr yn cadw'r hawl i dynnu'r cyfle cyllid yn ôl ar unrhyw adeg.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen yr wybodaeth isod yn ofalus i roi'r cyfle gorau i chi lwyddo.
Os oes gennych gwestiynau neu os oes angen help arnoch gyda'ch cais, e-bostiwch y Tîm Mentergarwch Myfyrwyr enterprise@abertawe.ac.uk.
Amodau a Thelerau
Cymhwysedd:
Mae'r cyllid ar gael i fyfyrwyr presennol Prifysgol Abertawe a graddedigion diweddar (o fewn 2 flynedd).
Mae'n rhaid bod y rhai sy'n cyflwyno cais am y cyllid eisoes wedi cofrestru statws masnachu (unig fasnachwr, cwmni cyfyngedig, etc), ac o fewn 12 mis ar ôl lansio eu busnes. Bydd ceisiadau ond yn cael eu derbyn ar ôl cael cadarnhad a derbyn tystiolaeth.
Byddant wedi cynnal ymchwil a chynllunio angenrheidiol i ddilysu eu syniad, byddant yn barod i brofi masnach, gwneud gwerthiannau cychwynnol, neu wedi datblygu Isafswm Cynnyrch Hyfyw (MVP).
Gall y cyllid gael ei ddefnyddio ar gyfer busnesau yn y DU yn unig. NI all unigolion neu dimau sy'n cynnwys myfyrwyr ar Fisa Myfyrwyr gyflwyno cais am gyllid busnes, oherwydd rheolau'r fisa. Serch hynny, gall unigolion ar Fisa Llwybr Graddedigion gyflwyno cais am gyllid. Mae mwy o wybodaeth am Fisa Llwybr Graddedigion ar gael yma.
Os ydych wedi cael cyllid gynt drwy Founders Fund 1,000 ar gyfer eich busnes, ni fyddwch yn gymwys i ailgyflwyno cais a dylech geisio cyfleoedd cyllid eraill.
Ni chaniateir i fyfyrwyr neu raddedigion sydd hefyd wedi derbyn £3,000 o gystadlaethau Big Pitch blaenorol gyflwyno cais gan eu bod eisoes wedi cyrraedd y cyfanswm sydd ar gael i fyfyrwyr a graddedigion.
Sut mae'r cyllid yn gweithio:
Os bydd eich cais yn llwyddiannus, ni fyddwch yn derbyn yr arian ar unwaith, byddwch yn cael ad-daliad. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i chi wario'r arian yn gyntaf gan ddefnyddio eich arian eich hun a chadw'r holl dderbynebau/prawf prynu er mwyn hawlio'r arian yn ôl.
Dylid cytuno ar yr holl eitemau rydych yn bwriadu eu prynu ymlaen llawn yn ysgrifenedig gyda'r Tîm Mentergarwch Myfyrwyr. Sylwer na fyddwn yn debygol o gymeradwyo eitemau a fydd o fudd i unigolyn ac nid y busnes (cerbydau, cyfrifiaduron/gliniaduron etc.)
I gael ad-daliad ar yr arian rydych wedi'i wario, byddwch yn cael Ffurflen Treuliau Myfyrwyr y bydd angen i chi ei chwblhau a'i hanfon i enterprise@abertawe.ac.uk ynghyd â derbynebau/prawf prynu. Yna bydd eich taliad yn cael ei brosesu.
Unwaith y bydd eich cais wedi'i gymeradwyo, bydd gennych uchafswm o dri mis i gwblhau eich cais.
Sylwer, os nad ydych yn cydymffurfio â'r gofynion hyn, mae gan y Tîm Mentergarwch Myfyrwyr yr hawl i dynnu unrhyw gyllid a gynigwyd i chi yn ôl.
Unwaith y byddwch wedi cyflwyno eich cais, gall taliadau gymryd hyd at 5 wythnos i ddod atoch, ond weithiau ceir oedi.
Y Broses Cyflwyno Cais:
I gyflwyno cais am Founders Fund 1,000 i helpu i ddatblygu eich busnes a lansiwyd yn ddiweddar, dilynwch y ddolen isod lle byddwch yn cael gwybodaeth am y canlynol:
- Eich manylion myfyriwr/graddedig
- Enw eich busnes, dolenni cyfryngau cymdeithasol/gwefan
- Manylion am eich statws masnachu
- Templed wedi'i gwblhau o Drosolwg o'r Busnes:
- Cysyniad
- Ymchwil i’r farchnad
- Marchnata
- Gweithrediadau
- Costau
- Sgiliau
- Cynnydd hyd yn hyn
- Faint o gyllid sydd ei angen arnoch a beth bydd yn cael ei ddefnyddio ar ei gyfer
- Eich cynlluniau nesaf ar gyfer y busnes
Os ydych yn cyflwyno cais fel tîm, dewiswch un aelod i gwblhau'r ffurflen gais, lle byddwch yn cael y cyfle i nodi manylion gweddill eich tîm.
Rhaid i'ch cais hefyd gynnwys:
Cyflwyniad fideo 3 munud ynghylch eich busnes, a ddylai gynnwys:
- Eich stori.Dywedwch wrthym pam rydych chi/eich tîm wedi dechrau'r busnes a beth mae'n ei olygu i chi.
- Disgrifiwch yr angen am eich busnes.Dangoswch angen y defnyddiwr ar gyfer eich syniad/busnes, neu'r broblem y mae'n ei datrys.
- Beth yw eich syniad/eich busnes.Disgrifiwch y cynhyrchion/gwasanaeth rydych chi'n eu darparu, sut maen nhw'n diwallu anghenion eich defnyddiwr/yn rhoi ateb i'r broblem a sut mae'n gweithio.
- Pwy sy'n cymryd rhan.Dywedwch wrthym pwy sy'n ymwneud â rhedeg y busnes a beth yw eu rolau.
- Ar gyfer pwy ydyw.Esboniwch pwy yw'ch cynulleidfa darged, beth rydych chi'n ei wybod amdanyn nhw a sut rydych chi'n eu denu i'ch busnes.
- Arian sydd ei angen.Esboniwch faint o gyllid sydd ei angen arnoch, beth byddwch yn ei wario arno, a'ch adenillion disgwyliedig o fuddsoddi (ROI).
- Cynnydd a wnaed hyd yn hyn ac amcanion yn y dyfodol.Dangoswch yr hyn rydych wedi'i gyflawni hyd yma gyda'ch busnes, eich uchelgeisiau yn y dyfodol a'r camau y byddwch yn eu cymryd i gyrraedd yno.
Y Broses Adolygu:
Er mwyn i'ch cais fod yn llwyddiannus, rhaid i chi ddangos y canlynol:
Mae'n fusnes sydd wedi'i ddilysu – Rydym am weld bod galw cynyddol wedi bod am eich cynnyrch/gwasanaeth. Darparwch wybodaeth am eich gwerthiannau hyd yn hyn, eich cynulleidfa darged, sut rydych chi'n eu denu a beth sy'n gwneud eich busnes yn unigryw.
Yr angen am gyllid - Rhowch restr glir o eitemau rydych yn bwriadu eu prynu, am beth y mae eu hangen, beth yw'r gost a sut byddan nhw'n helpu i ddatblygu eich busnes newydd. Yn ogystal â'ch adenillion disgwyliedig o fuddsoddi (ROI).
Creadigrwydd – Gallai hyn fod o ran y cynnyrch/gwasanaethau rydych chi'n eu gwerthu. Sut mae eich busnes yn gweithredu. Eich ymdrechion brandio a marchnata. Sut rydych chi'n ymdrin â chwsmeriaid. Beth sy'n gwneud eich busnes yn unigryw o'i gymharu â'r gystadleuaeth?
Arloesi – Mae'r busnes yn wreiddiol, yn gwneud pethau newydd ac yn wahanol i bopeth arall sydd ar y farchnad. Neu, mae'n gwella cynhyrchion neu wasanaethau presennol mewn ffyrdd ffres, cyffrous, gan symud ymlaen uwchlaw’r gystadleuaeth.
Cynaliadwyedd ac Effaith Gymdeithasol – Mae'r busnes yn gynaliadwy o ran deunyddiau, gweithrediadau neu effaith. Mae'n helpu i fynd i'r afael â phroblemau lleol neu fyd-eang i'r blaned a/neu bobl, fel y rhai a amlinellir yn Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig.
Potensial am dwf – Mae gan y busnes botensial uchel i dyfu, o ran cynhyrchu mwy o refeniw, elw a chyfran o'r farchnad, a/neu mae ganddo'r potensial i ddatrys anghenion y broblem y mae'n ei datrys yn fwy, boed hynny ar gyfer pobl neu'r blaned.
Cyflwyniad – Rydych wedi cyflwyno eich busnes yn greadigol, yn glir ac yn gryno, gan ymdrin â phob agwedd bwysig.
Ymrwymiad - Rydych wedi dangos eich ymrwymiad i'ch busnes ac mae gennych y cymhelliad i barhau i wneud cynnydd.
Caiff ceisiadau eu hadolygu ar ddiwedd pob mis. Dylech ganiatáu hyd at 6 wythnos i gael eich hysbysu ynghylch canlyniad eich cais.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwch yn cael gwybod ac yn cwrdd ag aelod o'r Tîm Mentergarwch Myfyrwyr i esbonio'r camau nesaf.
Os na fydd eich cais yn llwyddiannus, mae croeso i chi drefnu cwrdd â'r Tîm Mentergarwch Myfyrwyr i ganfod sut gallwch ddatblygu eich busnes ar gyfer ceisiadau yn y dyfodol.
Sylwer, bydd asesiad a phenderfyniad ar gymeradwyo'r cais a'r dyraniad cyllid gan y Tîm Mentergarwch Myfyrwyr yn derfynol. Os na fydd yr ymgeiswyr yn cydymffurfio â'r holl amodau a thelerau, mae ganddynt yr hawl i dynnu unrhyw gyllid yn ôl.
Cyflwyno Cais
Cliciwch ar y ddolen hon i gyflwyno cais. (Drwy gyflwyno cais rydych yn cytuno i'r amodau a thelerau a nodir yn y ddogfen hon. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen drwy'r holl wybodaeth yn ofalus)
Os oes gennych gwestiynau neu os oes angen help arnoch gyda'ch cais, e-bostiwch y Tîm Mentergarwch Myfyrwyr enterprise@abertawe.ac.uk.