Mae Prifysgol Abertawe yn cynnig cyfanswm o wyth wobr y gall unrhyw fyfyrwyr eu hennill.
I gael mwy o fanylion am sut i gymryd rhan a gwneud cais am y gwobrau hyn, cliciwch ar y ddolen berthnasol isod.
Mae Prifysgol Abertawe yn cynnig cyfanswm o wyth wobr y gall unrhyw fyfyrwyr eu hennill.
I gael mwy o fanylion am sut i gymryd rhan a gwneud cais am y gwobrau hyn, cliciwch ar y ddolen berthnasol isod.
Hoffech chi gyfoethogi bywyd pobl sy'n wynebu gwahaniaethu ac anfantais?
Hoffech chi chwarae rôl fwy gweithredol yn eich cymuned?
Beth am gynyddu cydraddoldeb trwy brosiectau dan arweiniad myfyrwyr?
Teithiwch ar hyd 'llwybrau' trwy Darganfod er mwyn ennill tair gwobr wahanol - Gwirfoddolwr, Cydlynydd Prosiect ac Ymddiriedolwr. Bydd y wobr yr ydych yn ei derbyn yn dibynnu ar eich ymrwymiad ac ymwneud.
Mae'r cyfleoedd ichi yn amrywio ar gyfer pob lefel o fynychu prosiect, i gymryd prif rôl mewn prosiectau a strwythur y cynllun Darganfod. Fel gwirfoddolwr, mae hefyd gennych y cyfle i ymweld â Sambia am fis yn yr haf er mwyn ennill gwobr Siavonga Ryngwladol yn gyfnewid am gefnogi partneriaeth Siavonga Abertawe!
Hoffech chi wneud gwaith mymieiddio gan ddefnyddio 'mymi ffug', ysgrifennu eich enw mewn hieroglyffau, neu chwarae gêm yr Hen Aifft yr oedd Tutankhamen yn dwlu arni? Os ydych, efallai hoffech wirfoddoli yn y Ganolfan Eifftaidd?
Mae'r Ganolfan Eifftaidd, yr unig amgueddfa hen fyd Eifftaidd yng Nghymru, wedi ennill gwahanol wobrau am ei rhaglenni gwirfoddoli arloesol. Bellach, mae ein myfyrwyr sy'n gwirfoddoli yn gallu ennill gwobrau fel rhan o'r rhaglen Cofnod Cyraeddiadau Addysg Uwch (HEAR).
Mae gennym dair lefel: efydd, arian ac aur, sy'n dibynnu ar lefelau cyflawniad. Mae gwirfoddolwyr yn gallu cynorthwyo staff yr amgueddfa mewn rolau addysgol a gweithio fel cynorthwywyr oriel gan helpu ymwelwyr cyffredinol â’r orielau.
Mae'r Ganolfan yn adnabyddus iawn am ei gwaith yn y gymuned, am ei hymagwedd ymarferol at addysg amgueddfa a'i rhaglen gwirfoddoli gynhwysol.
Mae gan ein Cwrs Datblygu Gyrfa 16 o unedau sy'n trafod amrywiaeth o bynciau sy'n gallu eich helpu wrth gynllunio eich gyrfa ac mae ar gael dydd a nos. Cyrchwch yr wybodaeth mae ei hangen arnoch, yn union pan fydd ei hangen arnoch!
Mae pob uned yn cynnwys pwnc unigol a fydd yn cynnwys gwybodaeth, ynghyd â gweithgareddau, â'r bwriad o ddatblygu eich dealltwriaeth o'r pwnc penodol hwnnw. I lwyddo yn yr uned, bydd angen i chi wneud cwis amlddewis, a sgorio o leiaf 8 allan o 10. Mae pob uned ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Cwblhewch 5 uned o'ch dewis i gwblhau'r Cwrs Datblygu Gyrfa, neu 10 uned neu fwy o unedau i gwblhau'r Cwrs Datblygu Gyrfa Uwch. Mae'r ddau yn gydnabyddedig yn ffurfiol yn eich Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HERA) a bydd yn rhoi bathodyn digidol y gellir ei rannu â chyflogwyr ar eich proffil LinkedIn.
ADRODDIADAU CYFLAWNIADAU ADDYSG UWCH (HEAR): “TYSTYSGRIF MEWN ENTREPRENEURIAETH”
Adroddiadau Cyflawniadau Addysg Uwch (HEAR): Dyfernir gwobr "Tystysgrif mewn Entrepreneuriaeth" i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig sydd wedi archwilio a dangos eu gallu i feddwl ac ymddwyn mewn ffordd fentrus, boed mewn cyd-destun busnes, menter gymdeithasol, arloesedd technolegol neu mewn cwmni, neu o fewn y Brifysgol er budd myfyrwyr eraill.
Mae pum llwybr er mwyn llwyddo i gael y wobr efydd, arian neu aur:
MAE TRI CHAM I'R BROSES DYFARNU GWOBRAU:
Er mwyn ennill y Wobr "Meddylfryd" Efydd, mae'n rhaid i fyfyrwyr ymchwilio i'r cyfleoedd sydd ar gael ar gyfer datblygu meddylfryd entrepreneuraidd yn eu llwybr dewisol. Byddai hynny'n cynnwys sut y daethant o hyd i syniad neu angen, sut y datblygon nhw gyfle neu ateb a sut y gwnaethant fanteisio arno.
Gofynion/Cynnwys:
Byddai tystiolaeth addas yn cynnwys unrhyw un o'r dogfennau canlynol:
Mae'r Wobr "Gweithredu" Arian ar gael i fyfyrwyr sydd wedi dangos y gallu i roi cynllun ar waith yn eu llwybr dewisol. Byddai hynny'n cynnwys y myfyrwyr hynny sydd wedi creu menter newydd (cymdeithasol neu fasnachol), wedi cyflwyno ateb newydd i ddiwallu angen cymdeithasol neu gymunedol, wedi datblygu cynnyrch newydd neu broses i ddiwallu anghenion defnyddiwr, sydd wedi cefnogi arloesedd mewn cwmni neu sydd wedi cyflwyno cyfleoedd i fyfyrwyr prifysgol.
Gofynion/Cynnwys:
(DS – er mwyn cael Gwobr Arian, rhaid eich bod wedi cwblhau'r wobr Efydd)
Byddai tystiolaeth addas yn cynnwys unrhyw un o'r dogfennau canlynol:
Dyfernir y wobr "Effaith" Aur i fyfyrwyr ar sail disgresiwn lle mae tystiolaeth glir bod gweithrediadau myfyriwr wedi arwain at fuddion gwirioneddol i eraill. Gallai hyn fod mewn perthynas â'r effaith maent wedi'i chael ar fusnes neu fenter newydd, cymuned leol, o fewn sefydliad neu sector o'r farchnad neu ar draws Prifysgol Abertawe.
Gofynion/Cynnwys:
Byddai tystiolaeth addas o achos hunan-enwebedig a ddarparwyd gan fyfyriwr sydd wedi derbyn Gwobr Arian yn cynnwys unrhyw dystiolaeth sy'n cefnogi ei achos ac yn dangos yn glir effaith ei weithrediadau:
Templed achos hunanwerthuso ar-lein wedi'i gwblhau, yn ogystal ag enghreifftiau perthnasol megis:
BETH NESAF?
Y cyfan sydd angen gwneud yw e-bostio ni gyda'ch llwybr dewisol, eich gweithredu arfaethedig, eich amserlenni a'ch canlyniadau, yn ogystal â gwybodaeth myfyriwr safonol.
Bydd Gweinydd y Wobr Fentergarwch yn gwirio'r holl wybodaeth myfyriwr sy'n cael ei derbyn ar y ffurflen ar-lein.
Mae Uned Llynges Frenhinol Prifysgol Cymru (WURNU) yn sefydliad sy'n hyfforddi amrywiaeth o israddedigion o Brifysgolion De Cymru mewn arweinyddiaeth, mordwyaeth a morwriaeth, heb unrhyw atebolrwydd dros gael eu galw neu rwymedigaeth i ymuno â'r Llynges Frenhinol.
Nod Uned Llynges Frenhinol Prifysgol Cymru (WURNU) yw addysgu sbectrwm eang o israddedigion o safon, sydd yn dangos potensial i fod yn arweinwyr cymdeithas a ffurfwyr barn y dyfodol, yn y rôl â'r angen ar gyfer y Llynges Frenhinol.
Mae'r uned yn HMS Cambria yn Sili, De Morgannwg ac mae ei llong, HMS Express, ym Marina Penarth ger Caerdydd. Mae aelodau'r uned yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau hyfforddiant a chymdeithasol, a’r ffocws yw hyfforddi ar y môr ar fwrdd yr HMS Express. Mae cyfleoedd ar gael i ennill cymwysterau theori’r Gymdeithas Hwylio Frenhinol a morwriaeth ymarferol.
Mae gan yr uned ethos tîm cryf, gydag agwedd gweithio’n galed a chwarae'n galed sy’n helpu i wneud amser yr aelodau gyda'r uned yn amser i’w gofio yn ystod eu bywydau yn y Brifysgol. Mae myfyrwyr yn gadael yr URNU wedi’u harfogi â'r sgiliau a'r hyder sydd yn rhoi mantais iddynt ym mha bynnag lwybr maent yn dewis ei ddilyn.
Mae'r Wobr Llysgennad Myfyrwyr yn cydnabod myfyrwyr sydd yn cyfrannu at y Cynllun Llysgennad Myfyrwyr ac sy'n cynorthwyo'r Swyddfa Recriwtio Myfyrwyr gyda nifer o weithgareddau hyrwyddo recriwtio gan gynnwys diwrnodau agored, diwrnodau ymweld, teithiau o’r campws, ymweliadau ysgolion â’r Brifysgol ac ymweliadau allgymorth i ysgolion.
Dysgwch fwy am ddod yn llysgennad
Mae Gwobr Undeb y Myfyrwyr yn cynnwys yr amrywiaeth o rolau, cyfrifoldebau a sgiliau a enillwyd gan bob aelod o’r pwyllgor trwy eu gwaith.
Oes gennych chi rôl pwyllgor o fewn tîm neu gymdeithas chwaraeon? Os oes, hoffech chi i’ch gwaith caled gael ei gydnabod?
Mae Gwobr Undeb y Myfyrwyr yn cynnwys yr amrywiaeth o rolau, cyfrifoldebau a sgiliau a enillwyd gan bob aelod o’r pwyllgor trwy eu gwaith.
Mae mynychu cyfarfodydd pwyllgor, helpu gyda stondin yn Ffair y Glas, cystadlu mewn gemau neu gynnal prosiectau mewn cymdeithas i gyd yn elfennau y byddwch yn derbyn cydnabyddiaeth amdanynt.
Unwaith byddwch wedi cyflwyno cais myfyriol am eich profiad fel aelod o bwyllgor, gan nodi eich cyfraniad unigol, byddwch yn gymwys am y wobr hon.
Ydych chi’n gynrychiolydd pwnc neu goleg?
Mae mynychu hyfforddiant, cynorthwyo gyda #StudyAid, helpu gydag adborth modiwlau a bod yn bresennol mewn fforymau yn rhai o'r pethau a fydd yn arwain at ennill gwobr Efydd, Arian neu Aur.
Ydych chi’n gofidio am effaith Prifysgol Abertawe ar yr amgylchedd? Hoffech chi ei lleihau? Beth am y cyfle i fod yn rhan o un o'r llwybrau gyrfa yn y DU sy'n tyfu gyflymaf?
Mae'r Tîm Cynaliadwyedd yn ymgysylltu â chynifer o staff a myfyrwyr â phosib er mwyn eu helpu nhw i leihau effaith y Brifysgol ar ein hamgylchedd.
Mae'r Wobr Cynaliadwyedd yn cydnabod eich cyfraniad unigol at ddatblygiad cynaliadwy ac amgylchedd gwell, ar y campws ac oddi arno.
Mae'r wobr hon yn eich helpu chi i ddatblygu'r wybodaeth, y sgiliau a’r gwerthoedd penodol y bydd eu hangen yn y sectorau swyddi gwyrdd a charbon isel - un o'r llwybrau gyrfa sy'n tyfu gyflymaf yn y DU ac yn lleol.
Er mwyn ennill y wobr hon, byddwch yn cymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau a digwyddiadau gwirfoddol a fydd yn cynyddu eich sgiliau trosglwyddadwy ac yn rhoi profiad gwych o weithio mewn tîm ichi.
Mae'r gweithgareddau ar sail tair thema: Cynaliadwyedd, yr Economi a Chynaliadwyedd Ymarferol.