Llun o Bennaeth yr Ysgol, Yr Athro Andrew Thomas

CROESO CYNNES I FYFYRWYR

Croeso cynnes i'n myfyrwyr newydd. Fel Deon a Phennaeth yr Ysgol Reolaeth, mae'n bleser gennyf eich croesawu i Brifysgol Abertawe, ac yn enwedig yr Ysgol Reolaeth. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at gwrdd â chi dros yr wythnosau nesaf lle byddwn yn eich helpu i ymgartrefu yn y brifysgol. Rydym yn deall y gall symud i le newydd i astudio fod yn her weithiau. Felly, rydym yma i'ch cefnogi a'ch helpu i ymgartrefu a bod yn gyfforddus yn eich amgylchedd newydd.

Rwy'n gobeithio y byddwch yn manteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael i chi i gwrdd â phobl newydd ac i gael cymaint o wybodaeth â phosibl am yr ysgol a'r brifysgol. Byddwn ar gael i'ch helpu gydag unrhyw gwestiynau neu faterion a allai godi yn ystod y cyfnod hwn, felly mae croeso i chi gysylltu â ni ar unrhyw adeg os oes angen cymorth arnoch.

Rwy'n gobeithio'n fawr y byddaf yn gallu cwrdd â chi'n bersonol yn ystod yr wythnosau nesaf. Rwy'n gobeithio'n fawr y byddwch yn cael amser hapus a phleserus iawn yn Abertawe ac edrychaf ymlaen at weithio gyda chi ar eich taith academaidd.

 

Yr Athro Andrew Thomas,  Pennaeth yr Ysgol Reolaeth

Wythnos Groeso

Edrychwn ymlaen at gwrdd â chi yn yr Wythnos Groeso!

Bydd rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau yn ystod yr wythnos a gobeithiwn y bydd hon yn rhoi digon o wybodaeth ac ysbrydoliaeth i chi wrth i chi ddechrau eich rhaglen astudio. Bydd llawer o gyfleoedd hefyd i gymdeithasu â'r myfyrwyr eraill ar eich cwrs a dysgu am y cymorth a fydd ar gael i chi wrth i chi astudio. 

Rydym yn eich annog i gymryd rhan mewn cynifer o sesiynau â phosib. Bydd sesiynau gorfodol i fyfyrwyr newydd yn cael eu nodi ar yr amserlen. 

Sylwer bod hon yn wahanol i'ch amserlen addysgu a fydd ar waith pan fydd y darlithoedd yn dechrau ddydd Llun 27 Ionawr.

Amserlen Wythnos Groeso

Rydym wrthi'n cadarnhau amserlen eich wythnos groeso. Cofiwch wirio’n rheolaidd - bydd y dyddiadau, yr amserau a'r lleoliadau wedi'u cadarnhau erbyn 5 Ionawr.

Oes gennych gwestiynau?

Tîm Gwybodaeth Myfyrwyr eich Ysgol fydd eich cyswllt cyntaf ar gyfer cael cyngor, cyfeirio ac ymholiadau cyffredinol. Cewch gyfle i gwrdd â'r tîm yn ystod yr Wythnos Groeso, yn y sesiynau Camau Cyntaf ac yn nigwyddiadau cymdeithasol eich Ysgol.

Gallwch gysylltu â nhw drwy e-bost ac ar ôl i chi gyrraedd, galwch heibio i'w gweld yn Nerbynfa llawr tir, Techniwm Digidol ar Gampws Singleton, Derbynfa adeilad yr Ysgol Reolaeth ar Gampws y Bae.

 

Cwestiynau Cyffredin