Mae Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol yn edrych ymlaen at groesawu ein myfyrwyr nesaf ym mis Medi 2026. Os hoffech edrych ar y rhaglenni sydd ar gael, gwneud cais neu sgwrsio ag aelod o'r Tîm Derbyn, ewch i'n Tudalennau Cyrsiau Israddedig ac Ôl-raddedig.
Amserlenni Addysgu - Ar gyfer ein myfyrwyr presennol, gallwch ddod o hyd i'ch amserlen addysgu, a hynny drwy https://mytimetable.swan.ac.uk.
Ble alla i fynd am gymorth? - Mae Tîm Hwb yn eich pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer cyngor, cyfeiriadau a chwestiynau cyffredinol. Yn ogystal â chyflwyno cais i Ddesg Gwasanaeth Hwb, gallwch hefyd ddod i weld rhywun o'r tîm ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8:30yb a 5yp yn Llawr Gwaelod Digital Technium, Campws Singleton neu Engineering Central, Llawr Gwaelod, Campws y Bae.
Croeso cynnes i fyfyrwyr newydd
Ar ran yr holl staff, mae'n bleser gennyf eich croesawu i Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol. Rydym yn hyderus y byddwch yn cytuno a ni bod yr Ysgol yn amgylchedd croesawgar sy'n cyfoethogi bywydau myfyrwyr, lle byddwch yn ffynnu wrth i chi symud ymlaen drwy eich astudiaethau. Mae eich rhaglen wedi cael ei llunio'n ofalus i'ch herio chi ond hefyd i’ch arfogi â sgiliau a gwybodaeth gydol oes a fydd yn eich paratoi ar gyfer y cyfleoedd o'ch blaenau yn eich gyrfaoedd yn y dyfodol. Byddwch yn ymuno â chymuned fywiog o wyddonwyr cymdeithasol ac rydym wir yn gobeithio, beth bynnag fydd disgyblaeth eich pwnc, y byddwch yn gwneud ffrindiau a chysylltiadau gydol oes sy'n dangos yr effaith y gall y gwyddorau cymdeithasol ei chael ar gymdeithas. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at gwrdd â chi i gyd yn yr Wythnos Groeso a'ch cyflwyno i'r staff academaidd a gwasanaethau proffesiynol gwych a fydd yn eich cefnogi yn ystod eich astudiaethau.
Prof Debbie Jones - Pennaeth yr Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol