Croeso'n ôl i'r Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu

Cynhelir Wythnos Groeso a Sefydlu’r Ysgol o ddydd Llun 26 i ddydd Gwener 30 Medi a bydd addysgu’n dechrau ddydd Llun 3 Hydref.  Ceir manylion eich sesiynau Croeso'n Ôl isod ac rydym yn edrych ymlaen at eich gweld yno. Mae'r wybodaeth byddwch yn ei derbyn yn bwysig iawn i'r flwyddyn academaidd o'ch blaen, felly gwnewch bob ymdrech i fod yn bresennol.

Oes gennych gwestiynau?

Tîm Gwybodaeth Myfyrwyr eich Ysgol fydd eich cyswllt cyntaf ar gyfer cael cyngor, cyfeirio ac ymholiadau cyffredinol. Cewch gyfle i gwrdd â'r tîm yn ystod yr Wythnos Groeso, yn y sesiynau Camau Cyntaf ac yn nigwyddiadau cymdeithasol eich Ysgol.

Gallwch gysylltu â nhw drwy e-bost ac ar ôl i chi gyrraedd, galwch heibio i'w gweld yn Nerbynfa llawr tir, Techniwm Digidol ar Gampws Singleton, Derbynfa adeilad yr Ysgol Reolaeth ar Gampws y Bae.