MAE EICH SIWRNAI YN DECHRAU YMA...

Students

Llongyfarchiadau i chi ar sicrhau lle i astudio Mhrifysgol Abertawe

Croeso i Abertawe!!

Llongyfarchiadau ar ennill lle ar gyfer y radd Meistr mewn Astudiaethau Cydymaith Meddygol (MPAS) ym Mhrifysgol Abertawe.  Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at dy  groesawu di i Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe ym mis Medi

 

 Byddi di’n cael dy addysgu gan glinigwyr ac addysgwyr profiadol o'r Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd, sy'n cynnwys Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, a Byrddau Iechyd lleol. Mae'r rhain yn cynnwys gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ar draws y tîm aml-ddisgyblaethol.

 

Rwy'n siŵr dy fod wedi ystyried yn ofalus am gyfnod hir cyn i ti benderfynu bod yn Gydymaith Meddygol a'th fod wedi ystyried y cyfrifoldebau a'r breintiau sydd ynghlwm wrth bod yn weithiwr gofal iechyd proffesiynol, ynghyd â'r heriau a'r cyfleoedd y byddi di’n eu profi fel myfyriwr a Chydymaith Meddygol cymwysedig mewn proffesiwn ifanc.

Efallai dy fod hefyd wedi ystyried yr hyn a ddisgwylir gennyt a sut dylet ti ymddwyn. Cyhoeddwyd llawer o ddogfennau sy'n cynghori ar y safonau a ddisgwylir gan Gymdeithion Meddygol fel myfyrwyr ac fel clinigwyr cymwysedig.

  • Côd Ymddygiad ar gyfer Cymdeithion Meddygol – Cyfadran Cymdeithion Meddygol (FPA)
  • Arfer meddygol da - Y Cyngor Meddygol Cyffredinol, 2024 (GMC)
  • Cyflawni ymarfer meddygol da: canllaw interim ar gyfer myfyrwyr cydymaith meddygol a myfyrwyr cydymaith anesthesia –, (y Cyngor Meddygol Cyffredinol, 2022)
  • Ymddygiad proffesiynol ac addasrwydd i ymarfer: canllaw interim ar gyfer darparwyr cyrsiau cymdeithion meddygol a'u myfyrwyr (gmc-uk.org) (y Cyngor Meddygol Cyffredinol, 2022)

 

Disgwylir y safonau uchaf o ymddygiad proffesiynol ar bob adeg.

 Nod y safonau hyn yw diogelu cleifion, cynnal ymddiriedaeth y cyhoedd yn y proffesiwn a phrosesau ar gyfer rheoli pryderon ynghylch proffesiynoldeb ac addasrwydd i ymarfer.  Dylet ti fod yn ymwybodol bod y safonau ymddygiad hyn yn berthnasol ar bob adeg, hyd yn oed y tu allan i'th astudiaethau.  Disgwylir i ti gymryd amser i ddarllen ac ymgyfarwyddo â'r dogfennau hyn a myfyrio ar sut y byddant yn berthnasol i ti o hyn allan.

 

Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn ymfalchïo yn ein safonau uchel a'r ffaith ein bod yn gymuned dysgu teg, cyfeillgar a chefnogol. Rydym yn gobeithio y bydd dy daith addysgol gyda ni yn un heriol, bleserus a gwobrwyol. Edrychwn ymlaen at dy groesawu.

Yr Athro Jeannie Watkins, PA-R, MSc, SFHEA

Cyfarwyddwr y Rhaglen, MPAS

Prifysgol Abertawe

Amserlen Sefydlu

Dydd Llun 2 Medi 2024
09:00 - 09:15 Keith Lloyd Croeso i Brifysgol Abertawe Glyndwr 231
09:15 - 10:00 Jeannie Watkins Croeso i Astudiaethau Cydymaith Meddygol Glyndwr 231
10:00 - 10:30 Jeannie Watkins Trosolwg o'r Cwricwlwm  Glyndwr 231
10:45 - 11:15 Andy Leckie, Jennifer Park Cyflwyniad i Sylfeini Meddygaeth Glinigol Glyndwr 231
11:15 - 12:00 Andy Leckie, Sharon Hartwell Cyflwyniad i Leoliadau a Sgiliau Clinigol Glyndwr 231
12:00 - 12:30 Jeannie Watkins Cyflwyniad i Ymchwil ac Ymarfer ar sail Tystiolaeth Glyndwr 231
13:30 - 17:00 PA Team/Tîm PA Gweithgareddau Cydymaith Meddygol Glyndwr 231
Dydd Mawrth 3 Medi 2024 Dydd Mercher 4 Medi 2024 Dydd Lau 5 Medi 2024 Dydd Gwener 6 Medi 2024 Dydd Mercher 25 Medi 2024 Dydd Gwener 27 Medi 2024

Cwrdd â'r staff addysgu

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Cymorth Academaidd

Cymdeithasau myfyrwyr