Mae eich siwrnai yn dechrau yma...

students in class

Croeso i Brifysgol Abertawe!

Annwyl ddarpar fyfyrwyr gwaith cymdeithasol

Ar ran y tîm addysgu gwaith cymdeithasol, hoffwn estyn croeso cynnes i chi i ymuno â ni ar y rhaglen BSc gwaith cymdeithasol.

Rydym yn brysur yn paratoi ar gyfer eich cyrraedd ac ar gyfer y flwyddyn i ddod. Rydym wedi ymrwymo i roi profiad ardderchog i chi gyda ni ac yn meddwl yn greadigol am y misoedd i ddod. Yn y cyfamser rydym yn gweithio'n agos gyda'n hawdurdodau lleol partner i gynllunio ymlaen llaw ar gyfer eich lleoliadau ymarfer gwaith cymdeithasol.

Cyn eich cyfnod sefydlu byddem yn eich annog i gwblhau'r holl wiriadau angenrheidiol megis y datganiad iechyd, y DBS a hunan-ddatgeliad. Mae hefyd yn bwysig iawn eich bod yn cofrestru fel myfyriwr gwaith cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru. Bydd y pethau yma’n gwneud i'ch ychydig wythnosau cyntaf fynd mor llyfn â phosibl.

Yn olaf, rydym wedi darparu rhestr ddarllen a byddem yn argymell eich bod yn defnyddio un neu ddwy o’r ffynonellau hyn dros yr haf i roi blas ar eich dysgu a dod yn weithiwr cymdeithasol proffesiynol. 

 

_______________________________________________________________________________________________________

 

Amserlen Sefydlu

Dydd Llun 15 Medi 2025

Dydd Llun 10.30am - 12.30pm

Cyflwyniad i'r BSc-

Cyfarwyddwr y Rhaglen Dr Tracey Maegusuku-Hewett (+1 aelod arall o'r tîm gwaith cymdeithasol)

 

Tŵr Vivian 201

 

1.30- 3.30 PM

Cyfarfod gyda phartneriaid awdurdodau lleol - dyrannu Cyfle Dysgu Trwy Ymarfer a Disgwyliadau

 

 

Grove 248

Dydd Mawrth 16 Medi 2025 Dydd Mercher 17 Medi 2025 Dydd Iau 18 Medi 2025 Dydd Gwener Medi 2025 Medi 2025

Cwrdd â'r tîm dysgu

CYFLOGADWYEDD

Cymorth Academaidd